Pabwyr
Credaf imi son ychydig am y defnydd a wnai ein hen deidiau a’n neiniau o frwyn rhywdro o’r blaen a phan soniais am yr hen ganhwyllau gynt. Pa fodd bynnag, er mai rhyw blanhigyn cyffredin, a digon disylw ydyw’r frwynen i bob pwrpas, y mae llawer i ddweud amdani hi. Yn gyntaf oll, efallai nad yw rhai ohonoch yn gyfarwydd a’r enw ‘pabwyr’ ar y planhigyn hwn.
Wel, y mae’r enw wedi ei lurgunio yn y Blaenau a’r cylch ers blynyddoedd. Rhywdro bu i’r gair pabwyr droi i ‘babwrs’ ar lafar gwlad, ac yna, credwch neu beidio, aeth wedyn i enau’r plant a throdd yn ‘babwns’, ganddynt! Y mae hwn yn dal ar dafod rhai o drigolion y fro heddiw.
Toeau Brwyn
Yn y dyddiau a fu ceid cannoedd o fythynnod a thai bychain ledled y wlad, yn wir, o un pen o Gymru i’r llall, gyda thoeau brwyn neu babwyr arnynt. Dywed G.J. Williams yn ei Hanes Plwyf Ffestiniog y byddai hen dŷ gerllaw Glanrafonddu efo to gwellt arno. Ond, tybed ai un a tho brwyn oedd mewn gwirionedd?
Yn ei ysgrifau ym mhapur newydd y Seren ar y testun Tai Adfeiliedig Ardal Llidiardau (ger y Bala) cyfeiria R. Roberts, Cefnucha yn aml at dai gyda thoau brwyn arnynt:
Glanywern neu fel y gelwid ef ddiwethaf Llwynrodyn-bach, ydoedd dy bychan a tho brwyn iddo.... Ty-ucha, Pencelli ydoedd dŷ bychan to brwyn...Tynyfron- ..Tŷ isel oedd gyda tho brwyn iddo, dim ond cegin a siamber. Bont Newydd ydoedd dŷ bychan o un ystafell gyda tho brwyn iddo, ar y cyntaf, yng nghornel cae perthynol i Dynygors, wrth yr afon ac ar fin y ffordd sydd yn arwein i Ffestiniog. Bu yn byw yno yr adeg honno rhai o’r enw Wil a Nancy. Pysgota byddai Wil y rhan fwyaf a Nancy yn hel pabwyr a gwneud canhwyllau brwyn at eu gwerthu, a gwneud brushes o’r pil...Mewn rhan arall dywed :
Yn Nhygeifir (Tŷ Geifr) yr oedd dau dŷ yn nhop tir Tyddyn ‘ronnen, ar fin yr hen ffordd oedd yn arwain i Ffestiniog. Tai isel to brwyn oeddynt. Bu yn byw yno rai o’r enw Sion a Beti, a’u plant Wil a Sian. Yr oeddynt yn perthyn i deulu Penbrynbach, Celyn. Sion y towr, y gelwid yr hen ŵr am mai toi tai a beudai fyddai ei waith y rhan fwyaf o’r flwyddyn.Mae hi’n amlwg felly mai dim ond croesi’r Migneint draw am Y Bala a oedd rhaid ichi os oeddech am gael gweld enghreifftiau o dai to brwyn yn y blynyddoedd a fu. Ysgwn i a oes llun o un yn rhywle? Byddai’n ddiddorol cael gweld un.
Enwau lleoedd
Hyd at yn ddiweddar bum yn ceisio deall pam y rhoddwyd y gair ‘to’ ar nifer o enwau lleoedd lle ceir tir brwynog neu gors llawn pabwyr. Er enghraifft ceir ‘Gwaun y To’ yn ardal Llanberis, ‘Gwern y To’ Caereinion Fechan, Trefaldwyn, ac yn nes adref, yn ein plwyf ni’n hunain, ‘Waun y To’, ar dir fferm Cefn Bychan. Oedd, roedd yr ateb yno yn tyfu o flaen fy llygaid. Ie, brwyn a olyga ‘to’ yn yr enwau hyn.
Gyda llaw, nid oedd yn beth anghyffredin i glywed rhai yn cyfeirio at dorri brwyn fel hyn mewn rhannau o Sir Feirionnydd gynt: Mae’r gŵr allan yn torri to, ac weithiau clywid ymadrodd tebyg i hyn am le yn llawn brwyn da: Mae ‘na glwt da o do yn fan’hyn
O.N. Faint ohonoch chi sy’n gyfarwydd a’r ymadrodd Sgrympia ‘Gwyl Grog? Cawodydd trymion sydyn a geir fel rheol tua chanol mis Medi yw sgrympiau.
------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2009.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon