4.11.16

Ar Grwydr -Unwaith Eto!

Crwydro’r cyfandir efo Mici Plwm.
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd ar thema Ewropeaidd.

'Eto daeth amser i symud'...ydi un o linellau cofiadwy'r gân i'r Sipsiwn gan Islwyn Ffowc Elis, a gwir y gair fe ddaeth hi ychydig dros fis yn ôl yn amser i minnau, fel y Sipsiwn i godi pac unwaith eto.

Fe fyddwn pan oeddwn i'n blentyn yn Llan, yn hel meddylia'n gyson ynglŷn â faint o'r byd y byddwn yn anelu i'w weld ac i sawl gwahanol wlad y byddwn, dros y blynyddoedd yn teithio iddynt.

Braf erbyn heddiw ydi medru nodi mod i bellach wedi troedio mewn gwledydd megis Awstralia, Seland Newydd, India, Pacistan a Kashmir, Yr Aifft, Ariannin (Patagonia), Chile, Yr Unol Daliaethau, Hawaii a Mecsico, Jamaica a'r Dominica Republic, ac i bob pwrpas holl wledydd Ewrop yn ei thro!

Dwi'n siŵr y byddai'r crwydryn a arferai grwydro o gwmpas 'Stiniog a gogledd Cymru pan roeddwn yn blentyn, sef Twm Gwlan, yn rhyfeddu mod i wedi teithio i gymaint o gorneli o'r byd, ac wedi bwyta danteithion anarferol iawn, megis cyri cynffon mwnci a nadroedd ac yn y blaen.

Cartra olwynion Mici

Tebyg mai'r ffaith fod trigolion Llydaw yn gefndryd Celtaidd i mi ydi'r prif reswm fy mod yn cael fy nhynnu dros y Sianel, i fwynhau'r gwmnïaeth a'r bwydydd apelgar a blasus yno, heb anghofio'r seidr a'r gwinoedd amrywiol sydd yn cael eu gweini yn profi'n fagned cryf iawn a fydd yn fy nenu draw yno heb ddim trafferth o gwbl.

Yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf eleni, yn cael fy hun yn gyrru ar fwrdd y fferi Barfleur a chroesi o Poole i Cherbourg, sef taith o ryw bedair awr a hanner. Dilyn trwyn y 'cartra olwynion' oedd y bwriad am y cyfan o fis Awst, gan alw, os byddai'r awydd yn codi mewn pentrefi a threfi megis Pontorson ger Mont Sant Michel, Dinard a Tregastel, Douarnenez ac ymlaen i lawr yr arfordir i Auray a Locmariaquer, Lamor Baden yn ardal Morbihan o Lydaw.

Cyffro. Cyd-deithiwr ffyddlon
Erbyn hyn mae darganfod lleoliadau newydd ac ail ymweld â chydnabod mewn pentrefi glan y môr yn profi'n bleserus iawn gyda blas llawer rhagor ar wneud yr union beth eto i'r dyfodol.

Fe fyddwn, fel llyfryn teithio, yn medru adrodd hanesion a sôn am y gwahanol gymeriadau byddaf yn eu cyfarfod yn flynyddol, gan ychwanegu rhestr o'r tai bwyta a'r prydau bwyd sydd pob amser yn apelio - ond rhyw gatalog fyddai hynny.

Wrth deithio mater o bawb at y peth y bo a mwynhau ydi hi yn fy marn i, a phwrpas hyn o lith ydi tynnu dŵr i'ch danadd gan obeithio codi rhyw awydd ynddo chithau darllenwyr Llafar Bro i ddilyn yn ôl fy nhroed a thramwyo llwybrau tebyg i rai bûm i yn ystod yr antur diwetha 'ma.

Pan ddaeth hi yn amser i droi trwyn y 'cartra olwynion' am adra roedd dros fil a phum cant o filltiroedd wedi gwibio dan yr olwynion.

Ble nesaf? - wel gan aros ym myd y 'Sipsiwn': Nid oes gennyf ddewis bro o felys i mi yw byw, felly hei ho heidi ho tan y tro nesaf bydd hi.

Kenavo!
-------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


[Diolch i ymgyrch Cymru Rydd yn Ewrop am y faner sydd wedi ymddangos efo'r gyfres.  Lawrlwythwch amrywiol faneri yn fan hyn]


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon