"Un o’r ardaloedd hollbwysig yn hanes y deffroad a fu ym myd canu gyda’r tannau yn ystod y ganrif aeth heibio oedd ardal Ffestiniog,” meddai’r Doctor Aled Lloyd Davies yng nghyfrol gyntaf ‘Canrif o Gân’ - cyfrol sy’n olrhain datblygiad cerdd dant ym Meirionnydd, Dinbych a’r Fflint o 1881 hyd 1998.
“Yno, oddeutu troad y ganrif, ynghanol bwrlwm diwydiant llechi’r cyfnod, yr oedd hefyd fwrlwm diwylliannol, lle rhoddwyd bri ar lenyddiaeth a barddoniaeth, côr a band, gwleidyddiaeth a chrefydd.”Er mai atgof o’r dyddiau fu ydy olion tomennydd rwbel y chwareli bellach, a bod nifer yr addoldai
wedi lleihau’n fawr, mae’r bri’n parhau yn yr agweddau diwylliannol eraill, fel y tystia’r gyngerdd yma– yng nghwmni Seindorf yr Oakeley (a gipiodd y wobr gyntaf ym Mhrifwyl y Fenni am y drydedd waith yn olynol) a Chôr y Brythoniaid – y côr meibion a ddaeth gyntaf allan o wyth o gorau yn yr un Brifwyl. Dyma destun dathlu’n wir!
Ar droad y ganrif ddwytha, roedd yr hen gelfyddyd o ganu gyda’r tannau hefyd yn rhan o fwrlwm y fro hon. Canolwyd hyn o amgylch telynor oedd yn gwbl ddall, sef, David Francis (Telynor Dall o Feirion) - un y mae ei ddisgynyddion yn parhau i gynnal y pethe yn yr ardal heddiw. Mae’r diolch i’r Doctor Robert Roberts, meddyg lleol, a drefnodd i’r telynor gael addysg mewn ysgol i’r deillion yn ninas Lerpwl, ac ymhellach, i gael gwersi telyn. I gartre’r telynor yn y Llechwedd, ac yna i’r caban a elwid ‘Llys y Delyn, Adwy Goch, Rhiwbryfdir’ y cyrchai nifer o ‘egin-ddatgeiniaid’ i drafod y gelfyddyd, i ganu, ac i ddysgu sut i osod gair ar gainc.
Pwy oedd y rheiny, a phwy ddaeth ar eu holau i barhau’r traddodiad yma’n Stiniog? Dydy gofod ond yn caniatáu i mi wneud dim mwy na’u henwi. Dyna i chi W.O. Jones (Eos y Gogledd) - chwarelwr yng Nghwmorthin; David John Roberts (Dewi Mai o Feirion) - a osododd drefn ar draddodiad cerdd dant yng Nghymru yn hanner cynta’r ugeinfed ganrif; John David Jones (Ioan Dwyryd) a’i ddisgynyddion. Cofiwn Elinor a’r annwyl Gwenllïan, a fu mor hynod weithgar dros nifer faith o flynyddoedd fel athrawes telyn deithiol ac yn hyfforddi datgeiniaid; William Morris Williams, Tanygrisiau, a fu’n hyfforddi dwy genhedlaeth ‘Côr Telyn Barlwyd’ ... ac i ddod yn nes at ein dyddiau ni, Mona Meirion ac Einir Wyn.
Ymwelodd y prif wyliau â Meirionnydd sawl gwaith yn ystod yr ugeinfed ganrif a dechrau’r ganrif yma. 1898 oedd yr unig dro i’r Brifwyl ymweld â thre’r Blaenau, a chynhaliwyd Prifwyl yr Urdd yma unwaith – ym 1936.
Ers ei chychwyn ym 1947, ni chynhaliwyd yr Ŵyl Cerdd Dant yma o gwbl. [Gwir ydy dweud, er hynny, iddi fod unwaith yn nalgylch Llafar Bro – a hynny yn Nhrawsfynydd, pan oedd yn ei babandod ym 1957.]
Yn 2018, cawn unioni’r cam, a bydd yna gyfle i ninnau’r trigolion estyn cynhesrwydd ein croeso i’n cyd-wladwyr. Mae’r amrywiol weithgareddau sydd wedi cymryd lle yn yr ardal dros y blynyddoedd dwytha wedi profi’n llwyddianus, a’r gymuned wedi eu cefnogi â brwdfrydedd.
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n ddatgeiniaid cerdd dant neu’n delynorion, yn gantorion neu ddawnswyr gwerin, nac ychwaith yn llefarwyr, ymunwch efo ni i drefnu ‘GŴYL’ fydd yn dangos i Gymru gyfan fod fflam Cymreictod a’i diwylliant eto’n bodoli ym Mro Stiniog.
Iwan Morgan
(Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Gŵyl Blaenau Ffestiniog a’r Fro 2018)
----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2016.
Tiwnio'r Tannau -hanes gwahodd yr Ŵyl
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon