12.11.16

O’r Pwyllgor Amddiffyn -Lobïo'r Senedd eto

Y Frwydr yn Parhau.
                               
Ddiwedd Medi aeth dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn i lawr i Gaerdydd i gyfarfod Aelodau’r Cynulliad sy’n cynrychioli’r rhan hon o’r wlad, sef Ucheldir Cymru, i’w cael nhw i roi pwysau cynyddol ar y Gweinidog Iechyd - ac ar y Betsi hefyd, felly, wrth gwrs – i newid rhywfaint ar gynlluniau adeilad newydd yr Ysbyty Coffa, fel bod ward i gleifion, uned mân anafiadau ac uned Pelydr-X hefyd yn cael eu cynnwys, a hynny’n unol â’ch dymuniad chi, bobol y cylch, yn y refferendwm a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Dros ddeuddydd buom mewn 8 cyfarfod i gyd, gyda gwahanol gynrychiolwyr o bob plaid, a chael addewid gan bob un ohonynt yn ddiwahân y bydden nhw codi’r mater efo Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd,  ac yn ceisio dwyn perswâd ar hwnnw i gyfarfod ag aelodau’r Pwyllgor Amddiffyn mor fuan â phosib  (rhywbeth y mae ef a’i ragflaenydd Mark Drakeford wedi gwrthod ei wneud dro ar ôl tro hyd yma, gan guddio tu ôl i’r esgus nad oedden nhw’n barod i newid dim byd ‘sydd wedi cael ei gytuno’n lleol’!)

Rhai o aelodau'r Pwyllgor Amddiffyn yn cyflwyno'r ddeiseb yn y Senedd yn 2014
Cafwyd cyfarfod ar y cyd hefyd gyda Sarah Rochira, Comisiynydd yr Henoed yng Nghymru, a Geoff Ryall-Harvey, Prif Reolwr y Cyngor Iechyd Cymunedol yng ngogledd Cymru, a does dim amheuaeth nad yw’r ddau ohonyn nhwtha hefyd yn dal i gefnogi’r ymgyrch i ail-sefydlu’r gwasanaethau a gollwyd o’r ardal hon, sef y gwasanaethau y pleidleisiodd 99.6% ohonoch chi, bobol yr ardal, drostynt yn y Bleidlais Gymunedol (Refferendwm) ychydig fisoedd yn ôl.

Dyma’r aelodau o’r gwahanol bleidiau sydd wedi addo mynd i ben y Gweinidog Iechyd am atebion: – Llafur: Joyce Watson, Plaid Cymru: Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd, Neil McEvoy, Simon Thomas a James Radcliffe (yn ogystal â Liz Saville Roberts ein AS yn Llundain, wrth gwrs), UKIP:  Neil Hamilton, Caroline Jones a Neil Bennet, Ceidwadwyr: Janet Finch-Saunders (fel cynrychiolydd ardal Dolwyddelan).

Roedden nhw i gyd yn cytuno bod angen ysbyty yn Ucheldir Cymru. Yn ôl un arbenigwr, mae denu staff cymwys yn gallu bod yn broblem i bob ardal y dyddiau hyn ond lle mae’r ddarpariaeth mor gyntefig ag yw hi yn Ffestiniog ar hyn o bryd, heb unrhyw offer pelydr-X na gwasanaeth Mân Anafiadau na gwlâu i gleifion na dim, yna mae’r broblem yn llawer iawn mwy dyrys.

Cafwyd sicrwydd hefyd y bydd y Pwyllgor Deisebau yn dal i gadw’n deiseb ni’n fyw hyd nes y ceir atebion onest a derbyniol oddi wrth y Gweinidog Iechyd. Manteisiwyd yn ogystal ar y cyfle  i gyfarfod â chyfreithiwr o Gwmni Watkins & Gunn yn y brifddinas i edrych i mewn i’r posibilrwydd o herio’r Betsi yn gyfreithiol.

Mewn geiriau eraill, dydi’r Pwyllgor Amddiffyn ddim yn barod i adael yr un garreg heb ei throi, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd!

Yna, ar ddiwrnod olaf-ond-un y mis, fe gafodd y cyhoedd gyfle arall i weld cynlluniau’r Bwrdd ar gyfer y Ganolfan Iechyd newydd. Fe aeth pedair blynedd heibio ers i’r rheini gael eu llunio gyntaf ac mae llawer o brotestio, ac o geisio ymresymu ynglŷn â nhw wedi digwydd yn y cyfamser, ond dydi’r Betsi ddim wedi newid dim byd o gwbwl ar eu cynlluniau!

Sy’n profi eto fyth mor drahaus ac mor gwbwl ddigyfaddawd yw eu hagwedd nhw tuag at bobol yr ardal hon. 
-------------------------


Erthygl gan Geraint Vaughan Jones, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2016.
Dilynwch hanes y frwydr efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon