Ar ôl y teithio a chael noson o gyfarfod hen ffrindiau a wynebau newydd ymysg cefnogwyr Cymru yn Bordeaux, daeth diwrnod y gêm.
PÊL-DROED, CYMRU A’R GYMRAEG: BYW BREUDDWYD YN BORDEAUX
Do, mi wawriodd fore’r gêm yn Bordeaux. Y bore ar ôl fy noson gynta yn y ddinas. Cymru v Slofacia. Dydd Sadwrn yr 11ed o Fehefin. Cofiwch y dyddiad. Cofiwch o am byth!
Mi ddois o hyd i griw Blaena mewn tafarn efo criw o Penrhyn. Wrth fwcio’r ticedi i’r gemau roeddan ni wedi rhannu’r un côd er mwyn cael seti yn ymyl ein gilydd, felly er fod gan bawb eu trefniadau teithio ac aros gwahanol, roeddan ni i gyd wastad yn ffendio’n gilydd ar ddiwrnod gêm – ac os nad, mi oeddan ni’n garantîd o ddal i fyny efo’n gilydd wrth gyrraedd ein seti yn y stadiwm.
Doedd y gêm ddim yn dechrau tan 6 o’r gloch y nos, amsar Ffrainc, felly mi oedd yna ddigon o amsar i brofi’r awyrgylch cyn hynny. Ac yn haul poeth de-orllewin Ffrainc, mi drodd Bordeaux yn goch.
Dyma ni, hogia! Dyma ni! Roedd yr amser wedi dod. Hon oedd hi. Ar ôl blynyddoedd o ddilyn Cymru a’u gweld yn colli ym mhellafion Ewrop, ar ôl yr holl dorcalon o foddi yn ymyl y lan sawl gwaith, wedi methu eropêns, colli walat, colli baneri, colli pasport a cholli’n nannadd (a mwynhau pob munud – heblaw’r dannadd), mi gyrhaeddodd y dydd.
Wedi’r llawenydd yn Zenica a’r dathliadau gwallgo yn serenêd Sarajevo, wedi’r pacio a’r celcio, y trefniadau lojistics ‘militari presíshyn’ (er na weithiodd hynny bob tro – yn enwedig i’r criw oedd yn methu darllan arwyddion ‘Pont Faible’, sef ‘pont isel’!) roedd yr awr fawr ar ein gwarthaf. Dyma hi, hogia! Dydd y farn...
Ennill y gêm gynta – hollbwysig! Ffaith! O’r garfan i’r Gymdeithas, o’r pyndits i’r cefnogwyr, roedd y farn yn unfrydol. Doedd neb isio bod dan bwysa wrth wynebu’r Saeson yn yr ail gêm. Felly, er y ffydd tawel a’r gobaith dirdynnol, roedd nerfusrwydd yn mudferwi. A phawb yn cuddio’r nerfau wrth nodio eu cytundeb mai cyrraedd y ffeinals oedd y peth pwysig, ein bod yma ar y llwyfan mawr rhyngwladol o’r diwedd, ac mai bonws fyddai unrhyw beth arall. Ond, os oeddan ni am fynd ymhellach, roedd ennill y gêm gyntaf yn mynd i fod mor bwysig!
Roedd stadiwm y Nouveau Stade de Bordeaux rai milltiroedd o ganol y ddinas, a’r ffordd fwya hwylus o’i gyrraedd oedd ar y trams. Dyna brofiad bythgofiadwy arall – cannoedd o Gymry mewn crysau coch, a baneri wedi’u lapio amdanynt, ‘hetiau bwced’ coch, gwyn a gwyrdd, neu goch, gwyrdd a melyn ar eu pennau, i gyd wedi gwasgu fel sardîns, ac i gyd yn bloeddio canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Prin oedd y drysau sleidio yn gallu cau, a phrin oedd y tramiau’n gallu symud dan y pwysau. A phan oeddan nhw’n stopio yn y stop nesaf, bob tro, roedd yna fôr arall o grysau cochion a dreigia a hetia yn aros i stwffio i mewn. Bu rhaid i’r mwya cyfrifol yn ein mysg ddechrau rhwystro pobl rhag trio dod i mewn – mi oedd petha mor ddrwg â hynny! Ond mi oedd o’n beth da, hefyd...
Wedi bron i hannar awr o fod yn sefyll ar bedair troed (fy nwy fi a dwy rhywun arall), fy nghorff wedi ei wejo mewn siâp y llythyren ‘s’ ac yn lled-orwedd yn erbyn rhyw Slofac mawr a’i gariad, gan ddal fy ngafael chwyslyd yn dynn ar un o’r bariau ar y to, tra’n canu ar dop fy llais, mi gyrhaeddon ni du allan y stadiwm lle’r oedd môr arall eto fyth o grysau cochion a hetiau yn minglo fel morgrug o gwmpas y lle.
Yma roedd baneri Cymru ymhob man (ac un neu ddwy baner Llydaw, hefyd), a mwy o ganu eto.
Mi ddois o hyd i lwyth o griwiau o ffrindia dwi’n eu nabod o’r tripia tramor, yn ogystal a’r gwahanol griwiau dwi’n teithio efo nhw i’r gemau hynny. Blaenau, Llan, Traws, Port, Penrhyn, Caernarfon, Pwllheli, Bala, Drenewydd, Wrecsam – roedd pawb yno, yn symud yn dow-dow tuag at y gatiau allanol, yn gwenu’n braf yn haul fin nos bendigedig Bordeaux. Roeddan ni wedi cyrraedd mewn da bryd, a digon o amsar cyn cic-off, felly roedd ganddon ni ddigon o amsar i gymysgu a thynnu lluniau, a phrofi’r awyrgylch, cyn meddwl am fynd i mewn trwy’r gatiau.
Wna i fyth, byth anghofio’r awyrgylch cyn ac yn ystod y gêm. Môr o goch wedi meddianu tri chwarter y stadiwm, a channoedd o faneri o bob cwr o Gymru yn hongian dros y balconis a’r hordings. Y canu croch, di-stop, y tîm yn rhedeg allan i’r cae, ac yna’r anthem. Bydd y teimlad wrth ganu Hen Wlad fy Nhadau y noson honno yn aros efo fi am byth. Yr achlysur o fod yn ei chanu yn y gêm gyntaf yn y ffeinals rhyngwladol cyntaf yn fy mywyd, a’r cyntaf i Gymru ers 1958. Yr angerdd a’r gwladgarwch, a’r sŵn – yn fyddarol, fel tasa miliwn ohonom yn canu.
Methodd rhai â chanu o gwbl, oherwydd yr emosiwn. Mi dorrodd fy llais innau ar y “Gwlad, gwlad...” a methais a chanu’r linell nesa wrth i’r lwmp feddiannu fy ngwddw. Llifodd y dagrau, ac wedi ailddarganfod fy llais crynedig erbyn “i’r bur hoff bau,” edrychais o nghwmpas a gweld nad oedd pâr o lygaid sych yn nunlla! Waw! Dwi’n dal i gael lwmp wrth gofio’r peth, ac iâs oer drostaf i gyd. Mae fy mlew yn codi wrth imi deipio’r geiria hyn rŵan, a dagrau’n cronni...
Ac mi ganom ni drwy’r gêm i gyd. Ac mi glywodd y byd ni. Mi glywodd y byd yr iaith Gymraeg yn cael ei chanu drosodd a throsodd yn ystod y gêm, wrth i’r anthem, a ‘Calon Lân,’ lifo dros y cae drosodd a throsodd! Ac mi welodd y byd yr angerdd a’r gwladgarwch hwnnw, a’r undod rhyngom ni’r cefnogwyr a’r chwaraewyr, y garfan a staff y tîm cenedlaethol. Ers tro byd, mae’r chwaraewyr wedi bod yn dod i sefyll o flaen y ffans ar ddiwedd pob un gêm, i ddathlu efo ni ac i ddiolch am y gefnogaeth frwd. Mae’r undod hwn wedi creu perthynas sbesial iawn dros y ddwy flynadd ddwytha, ond yn Bordeaux – ar ôl CURO’R GÊM GYNTAF honno – roedd o’n, wel, yn hollol, hollol ddirdynnol.
* * * * *
Mae rhan olaf cyfres Prysor yn rhifyn Tachwedd: y dathlu a'r gorfoledd, ymateb y Ffrancwyr, ac effaith dwyieithrwydd naturiol y Gymdeithas bêl-droed.
--------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2016, fel rhan o. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod. Gallwch ddilyn y gyfres Ewropeaidd efo'r ddolen 'Ewrop' isod hefyd, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Bydd llyfr newydd Dewi allan cyn y Dolig. > > > >
(Lluniau'r baneri -Paul W)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon