3.10.16

Stolpia -Oriau a Gwerthu Nwyddau

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Oriau Gwaith

Yn ystod blynyddoedd cynnar ein diwydiant llechi nid oedd cadw at oriau gwaith swyddogol mewn bodolaeth ac er fod y gwaith yn galetach, roedd gan y chwarelwr fwy o ryddid i fynd a dod o’i waith. Mae’n anodd i ni yn yr oes hon ddychmygu sut y byddai amodau gweithio yn ein chwareli yn oes ein hen deidiau, onid yw?

Pa fodd bynnag, efallai y gwelwn y darlun ychydig yn gliriach o ddarllen yr hyn sydd gan H. Menander Jones i’w ddweud yn ei atgofion am chwareli Nantlle lawer blwyddyn yn ôl, a ysgrifennwyd yn y Genedl Gymreig am 1914:
‘Yr oedd gweithio yr adeg yma a llawer o ryddid yn perthyn iddo, er ei fod yn hwy o ran oriau, ond amser rhydd ydoedd –a byddai neb yn rhedeg a cholli eu gwynt yn y bore, na dianc adref yr hwyr, yn wariog wrth bob cysgod cawnen …..Welais i ddim byd felly yn digwydd……Yr oeddynt yn cael amser i lafurio gartref ar eu tyddynnod o fewn terfynau, heb na choll na gwg stiwart. Mae rhyddid yn dwyn pleser i rwymedigaeth ac yn bywiogi anian dyn gonest yn ei waith. Dyweder a fyner amser difyr oedd hwn i’r rhai a oedd cydwybod gwaith a dyletswydd yn eu llywodraethu.’
Cawn gyfeiriadau at ryddid ein chwarelwyr ninnau yn ‘Stiniog hefyd mewn ambell nodyn yn nyddiadur Samuel Holland am yr 1820au. Dyma gyfieithu enghraifft neu ddwy am ei weithwyr yn Chwarel y Rhiw:
‘Mawrth 7, 1823 – nid oedd yr un dyn yn ei waith heddiw ac eithrio Mr.Griffith, saer. Mae hi’n Ffair Llan heddiw.’ (D.S. Byddai nifer o ffeiriau yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn yn y Llan ar un adeg. SabO).
Ebrill 7,1824 –  Euthum  i fyny i’r chwarel; roedd y dynion wedi mynd i hela llwynogod’.

Llun -Lleucu G
Y Siop Wen

Ar ddiwedd y paragraff uchod yn erthygl H.M.Jones ychwanega:
‘Yn yr un cyfnod cai masnachwyr ... ryddid i fynd i’r chwareli i ‘Werthu eu Nwyddau’. Yr oedd hynny yn ddigon rhesymol mewn adeg pan yr oedd siopau mor anaml a’r nwyddau’n brin. Yr wyf yn cofio fel y byddai Daniel O’Brien  yn dod i’r chwarel gyda’i Siop Wen
Ystyr ‘siop wen’ yw  sach wen, neu waled wen yn llawn nwyddau,  neu lyfrau efallai a.y.b, ar gyfer eu gwerthu a cherid hi dros ysgwydd y gwerthwr neu ar ei gefn tra mae’n troedio o un man i’r llall.

Gwyddel oedd Daniel, a thaid y Parch. D.O’Brien Owen, Caernarfon (Credaf ei fod yn daid i O.J.Owen, Rhiwbryfdir a Siop Granville hefyd, sef perchennog y Felin Lechi Sgwennu ac awdur ‘Newfoundland yn 1900’). Daeth Daniel trosodd o Iwerddon yn ddyn gweddol ieuanc. Wynebodd y chwarel, a chafodd waith ym Mhenyrorsedd. Nid wyf yn gwybod pa sut weithiwr ydoedd- pa un a’i llac neu gofalus, ond fe adawodd i wagen, drwy ryw anffawd, gael ei thorri.

Gwageni o goed a  fyddai ym mhobman y pryd hynny a rhai hawdd eu torri oeddynt. Achosodd y ddamwain gryn helynt rhyngddo a’r stiwart, am y golled a wnaeth yng ngwerth y wagen. Terfynnodd yr helynt mewn ysbryd go chwerw ac fe roddodd Daniel ei waith i fyny, ac aeth i gario siop wen, gan deimlo y byddai yn ŵr rhydd felly ac yn feistr arno ei hun. Dysgodd Gymraeg yn lled fuan ac yn weddol gywir, heblaw ei lediaith. Daeth yn hoff o’r Cymry, ac yn ei gyfathrach â hwy, fe briododd Gymraes, ac aeth i fyw i Bryndu yn agos i’r Groeslon –os wyf yn gywir, cartref y wraig.

Dywed hefyd beth a fyddai Daniel yn ei werthu pan ddeuai heibio’r chwarel gyda’i siop wen:
‘Ai ar ei union i’r wal, neu y clwt-bras-hollti, a’r baich i lawr, a thaflu’r siop yn agored –“Chi eisio prynu genny fi heddi– a gwerthu rhad iawn i chi”. Byddai ganddo hetiau, capiau, barclotiau (h.y. ffedogau) a llieiniau byrddau, a phob ryw nwydd. Cedwid rhai o’r pethau hyd y dydd hwn, yn goffadwriaeth o’r drefn hon o faelu ar bonciau y chwareli yn gystal ac yn goffadwriaeth barchus am Daniel O’Brien y Gwyddel-Gymro.’
Y mae son am rai a ddeuai i chwareli’r cylch hwn i werthu ambell beth hefyd. Byddai Thomas Edwards, neu ‘Twm Ffeltiwr’fel y’i gelwid gan rai, yn dod heibio’r chwareli  yn ei dro i werthu hetiau a deunydd ffelt. Mewn blwch hir naw troedfedd o hyd wedi ei strapio ar ei gefn y byddai Thomas Edwards yn cario ei hetiau i’r gwahanol leoedd. Nid wyf yn hollol sicr,ond rwyf yn rhyw feddwl bod merched o Benrhyn-deudraeth yn galw yn ein chwareli o dro i dro i werthu cocos hefyd. Ceir hanes rhai yn cael damwain arw pan oeddynt ar eu ffordd adref ar y lein bach yn ‘Atgofion am Danygrisiau’ gan David Owen Hughes- er nad yw’n dweud mai yn y chwarel y buont  yn gwerthu chwaith.

Byddai un yn gwerthu baco yn chwareli Dyffryn Nantlle, sef Robert William, neu ‘Robin y Baco’. Cludai’r baco mewn basged, a baco siag yn unig a fyddai ganddo o hyd ar gyfer y gweithwyr. Cariai lwythi ohono i wahanol rai a hynny yn wythnosol, a byddai wedi ei bwyso yn barod i hanner owns, ownsus, dwy, tair a phedair owns fel byddai’r galw. Wrth gwrs, byddai llawer o’r gweithwyr yn cnoi baco y pryd hynny ond mae’r arferiad hwn wedi mynd heibio yn ardaloedd y chwareli ers blynyddoedd…onid yw?

Tybed, pwy sydd yn cofio rhai yn cnoi baco yn ein chwareli ni yn y Blaenau ‘ma? Os nad wyf yn cyfeiliorni, credaf i mi ddarllen, neu glywed rhywun yn dweud rhywdro, y byddai un gŵr yn dod heibio’n cloddfeydd i werthu ffyn, ffyn cerdded a ffyn ar gyfer stampio tyllau  ebillion ayb. Os digwyddwch chi haneswyr lleol a darllenwyr brwd hen newyddiaduron a chyfnodolion ddod ar draws cyfeiriad at hyn neu rywbeth tebyg iddo, buaswn yn ddiolchgar iawn i gael clywed oddi wrthych.
------------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Gorffennaf 2004.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon