Pa un a ydan ni’n sylweddoli hynny ai peidio, ond mae gwaith un o hogia Stiniog yn adnabyddus ledled Prydain erbyn heddiw ac mae gynnon ni, fel ardal, le i ymfalchïo yn ei lwyddiant. Nid pawb yn lleol sy’n gwybod bod lluniau Gareth Parry – golygfeydd trawiadol o ogledd Cymru ac o’r ardal hon - wedi bod yn dal llygad arbenigwyr ers blynyddoedd, bellach, a hynny mewn arddangosfeydd o’i waith mewn galerïau adnabyddus, megis oriel Thackeray yn Kensington, Llundain, neu un Wykenham yn swydd Hampshire.
|
'Ffenest ar y môr' |
Ond, o’r diwedd, mae ei waith wedi cael ei arddangos o fewn cyrraedd i ni yma. Ym mis Chwefror eleni daeth ugeiniau lawer, o bell ac agos, i’r agoriad swyddogol yn Ffin y Parc ger Llanrwst, i syllu’n werthfawrogol ar gymaint â 55 o’i luniau diweddaraf, ac i brynu hefyd, wrth gwrs. Yn ôl a ddeallwn, gwerthwyd cymaint â 30 ohonynt o fewn ychydig oriau yn unig.
Yn ei olygfeydd, fe gawn gip ar arwedd tir a thywydd y rhan fechan hon o’r byd; sef yr ardal sydd mor agos at galon yr arlunydd. Ac fe gawn hefyd, yn ei bortreadau, gip ar erwinder byd y chwarelwyr gynt, yma yn Stiniog.
I’r rhai ohonom sy’n ei adnabod yn dda, mae Gareth yn berson onest a diymhongar iawn – swil hyd yn oed – o leiaf pan yn trafod ei waith ei hun ac yn edrych yn ôl ar ei fywyd. Ar adeg felly, mae o’n fwy na pharod i gydnabod ‘cyfnod gwyllt’ ei ieuenctid – y gwrthryfela yn erbyn disgyblaeth cartre ac ysgol, a hyd yn oed y bywyd coleg ym Manceinion. Ar ôl dod yn ôl i Stiniog, a mynd i weithio i’r chwarel, y cafodd o ei addysg fwyaf gwerthfawr, medda fo, a hynny trwy wrando ar lais profiad ei gydweithwyr hŷn, yn y felin ac yn y Caban. Yno hefyd y dechreuodd greu cartwnau o rai o’r cydweithwyr hynny. Erbyn heddiw, mae ei ddiwylliant yn un crwn iawn a gall fynegi barn wybodus, nid yn unig o fewn ei faes ei hun ond ar gerddoriaeth a llenyddiaeth fawr y byd yn ogystal.
|
'Wrth gwrs ei fod yn wir; mae o yn y papur' |
Mae Gareth hefyd yn naturiaethwr wrth reddf. Mae’n adnabod bywyd gwyllt ei ardal yn dda - yr adar a’r anifeiliaid a’r planhigion wrth eu henwau - a does dim sy’n ei gynhyrfu’n fwy na’r modd y mae dyfodol y bywyd hwnnw’n cael ei fygwth gan ariangarwch a difaterwch yr oes sydd ohoni heddiw. Mae gwarchod bywyd gwyllt a thirwedd yr ardal yn agos iawn at ei galon.
Fe ddaw cyfle buan eto, gobeithio, i weld ei waith yn lleol.
GVJ
------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2020
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon