30.3.20

Stolpia -merlod a beics

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, Hogiau’r Rhiw 1956-1963

Yn ddiau, y mae gan rai ohonoch gof o’r dyddiau y dechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth ddechrau plannu coed ar yr ochr draw i Fwlch Gorddinan yng ngodre gogleddol Moel Farlwyd, o bobtu’r Afon Las, ac i lawr at Hafod Gwenllian ger Roman Bridge. Credaf mai tua 1961-62 oedd hi gan fod Bill Jones yn cofio gwneud y bont tros yr afon pan weithiai i’r Comisiwn. Sut bynnag, tybed faint ohonoch sy’n cofio’r merlod a fyddai yno, ac fel y byddent yn pori ar ochr y mynydd cyn iddynt ddechrau torri’r cwysi i blannu’r coed. Gan fod neb ar eu cyfyl ar ôl tua hanner awr wedi pump o’r gloch, ac ar ôl rhyw hanner dydd ar y Sadyrnau, byddai’r hogiau–drwg, yn ôl rhai - yn mynd draw yno a cheisio cael pas ar gefn y merlod.

Cofiaf un tro, roedd rhyw dair neu bedair o ferlod wedi dod i bori i lawr at y ffens ar ochr y ffordd fawr, a dyma ni’r hogiau dros y ffens a cheisio eu denu atom gyda minciag neu rywbeth. Pa fodd bynnag, roedd un gaseg gydag ebol, ac nid oedd honno am adael inni ddod yn agos at yr un ohonynt, ac yn ddirybudd bron, ac os cofiaf yn iawn, dyma hi ar ras ar ôl un o'r criw, a rhoi brathiad iddo yn ei ben ôl nes yr oedd yn gweiddi ac yn griddfan ac yn anelu nerth ei draed yn ôl tros y ffens i’r ffordd. Y mae hi’n bur debyg mai dyna’r tro olaf inni fynd i’r fan honno ar ôl merlod mynydd!

Y ffordd yn arwain at Fwlch Gorddinan cyn dyddiau’r goedwigaeth a’i lledu ar gyfer trafnidiaeth.

Tua’r  un cyfnod, haf 1962, o bosib, a finnau wedi cael beic ar ôl ewythr imi, sef  Yncl John, gŵr Anti Meg, Bryn Tawel, i fynd yn ôl a blaen i’m gwaith yn Ffatri Metcalfe, penderfynais wneud defnydd iawn ohono un prynhawn Sadwrn a mynd am dro dros y Bwlch (Crimea) i Fetws y Coed.

Gyda llaw, Hercules oedd y beic, ac wrth gwrs, dim ond tri sbîd oedd arno, ac o ganlyniad, bu’n rhaid ei wthio i fyny rhiw Talyweunydd a rhiw Llyn Ffridd, bron yr holl ffordd at y Bwlch. Ond wedyn, dyma gael mynd, mynd fel y coblyn i lawr heibio Ffynnon Fach a chwt hogiau trwsio’r ffyrdd, ac i lawr at y gwastad lle byddai’r ffordd, os cofiwch, yn rhannol goncrit, ac wedyn i lawr y ‘tro mawr’ ar wib – ond erbyn hyn roedd y brêcs wedi poethi, ac nid oedd fawr o stop ar y beic, a dechreuodd fynd allan o reolaeth gennyf. Wel, y peth nesaf a ddigwyddodd oedd i bedal ochr chwith y beic daro y cwrb, neu’r wal ar y tro, a chymell y beic i fynd ar draws y ffordd. Tra’n ceisio ei reoli a’i unioni, yn fy nychryn, sylwais bod cwpwl ar wyliau wedi parcio ar bwt o dir ar ochr dde i’r ffordd ac yn cael picnic yno ar fwrdd bach ger eu car.

Yn y cyfamser, roedd y beic, a finnau yn dal arno, yn anelu yn syth atynt, a chofiaf  hyd heddiw fel yr edrychai’r dyn arnaf mewn braw, gyda’i geg yn agored a brechdan yn ei law, ac yn meddwl yn siwr bod gwrthdrawiad sobor am ddigwydd. Do, mi fedrais droi y beic o fewn ychydig fodfeddi i’r bwrdd bach a chael yr olwynion yn ôl ar yr iawn lwybr. Trwy ryw drugaredd nid oedd yr un cerbyd ar ei ffordd i fyny, neu dyn a ŵyr beth a fyddai fy hanes. Gyda llaw, penderfynais droi yn fy ôl am adre cyn cyrraedd Dolwyddelan!
-------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2020


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon