Cronfa Her yr Economi Sylfaenol
Rydym yn ddiweddar iawn wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru o Gronfa Her yr Economi Sylfaenol.
Yn ôl gofynion yr her, rydym am gynnal prosiect dros gyfnod hir, hyd at ddiwedd Mawrth 2021 a fydd yn datblygu ac atgyfnerthu’r economi sylfaenol yn lleol. Mae’r gronfa yn dynodi mai arbrawf yw pob ‘prosiect’ sydd wedi eu cyllido, a phwrpas bob arbrawf yw yn gyntaf i greu 'dysgu o werth' o ran sut i ymateb yn adeiladol i ddatblygiad sy’n cael ei labelu yn ‘economi sylfaenol’.
Wrth gwrs, yn ddelfrydol bydd pob prosiect yn llwyddiannus, ond mae'r syniadaeth amgen o roi pwyslais ar ddysgu o brosiect – boed hynny o lwyddiant neu o fethiant - yn gyffrous iawn.
Beth yw’r economi sylfaenol?
Caiff oddeutu traean o’r economi yn ei chyfanrwydd ei hystyried yn economi sylfaenol. Mae’r economi sylfaenol yn cynnwys conglfeini yr economi leol, neu’r agweddau hynny o’r economi sydd yn angenrheidiol i fywyd dyddiol pobl y gymuned. Enghraifft dda o gwmni lleol sydd wedi angori yn yr economi sylfaenol fyddai cwmni megis GEWS sy’n cynnal systemau carthffosiaeth yn lleol, sydd â safle ym Mhenrhyndeudraeth, sydd yn defnyddio adnoddau lleol, ac sydd yn cyflogi nifer o weithwyr o’r gymuned.
Yng nghymunedau ôl-ddiwydiannol chwarelyddol gogledd Cymru mae nifer o fentrau cymdeithasol wedi sefydlu sy’n allweddol i dwf a llwyddiannau ein heconomïau sylfaenol lleol. Yn ôl adroddiad economaidd ar fentrau cymdeithasol Bro Ffestiniog mae oddeutu 120 wedi eu cyflogi gan fentrau cymdeithasol yma, mae 46% o bryniant ein mentrau yn cylchdroi’n lleol ac mae’r mentrau eu hunain yma yn eu hanfod i wasanaethu ein cymunedau. Wrth edrych ar ein hanes lled ddiweddar gwelir fod ‘menter gymdeithasol’ yn ddatblygiad naturiol yn ein cymunedau er mwyn ymateb i anghenion cymdeithasol ac economaidd penodol y cymunedau yma. Erbyn heddiw maent yn rhan annatod o’r economi sylfaenol leol.
Mae’r defnydd o fentrau cymdeithasol fel cyfrwng i atgyfnerthu ein heconomi ‘sylfaenol’ leol hefyd yn ein galluogi i ymateb i’r angen i atgyfnerthu cydlyniant ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gymunedau hyfyw, lle gallwn fyw a bod. Cymunedau lle bydd dyfodol i’n plant heb iddynt orfod mudo a lle gall pob un, o pa bynnag gefndir, ffynnu. Mae’r mentrau cymdeithasol fel y rhai sydd wedi datblygu yma ym Mro Ffestiniog yn gyrff economaidd sydd hefyd yn cynrychioli’r gymuned, er mwyn y gymuned. Mae byrddau gwirfoddol ein mentrau yn cynrychioli ffurf ar ddemocratiaeth leol sy’n atebol i’r gymuned. Onibai bod y mentrau’n gwasanaethu anghenion ein cymunedau byddant yn methu’n hwyr neu’n hwyrach. Mae eu cyfrifoldeb a’u hatebolrwydd yn arwain peth o’r ffordd at gymryd ein cymuned yn ôl i’n dwylo ni ac ail-berchnogi’r economi a’i chyfeirio’n bwrpasol i’n gwasanaethu ni - ein bod yn democrateiddio’r economi sylfaenol er budd ein cymunedau.
DOLAN
Bydd tair cymuned ôl-ddiwydiannol, chwarelyddol yn cydweithio, cyd-greu a chyd-ddysgu dros gyfnod ein prosiect, sef Bro Ffestiniog, Ogwen a Nantlle. Mae defnyddio mentrau cymdeithasol fel modd i ddatblygu’r economi yn gyffredin i’r dair cymuned ond mae'r modd y gwnaed hynny wedi bod yn wahanol ym mhob ardal. O’r gwahaniaethau yma y daw ein prosiect ar gyfer Cronfa Her yr Economi Sylfaenol.
Rydym yn hyderus ynglŷn â’r prosiect hwn oherwydd ein profiadau o gydweithio, cyd-greu a chyd-ddysgu wrth weithredu fel Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog. Yn achos Cwmni Bro mae posib cyfeirio at effeithiau cadarnhaol uniongyrchol; megis llwyddiannau Y Dref Werdd ac Antur Stiniog er enghraifft.
Llwybrau beicio Antur Stiniog ar y Cribau |
Bydd y cymunedau hynny sydd wedi cymryd rhan yng nghyfnod cyntaf y prosiect yn bartner cyfartal i gymuned newydd yn ail gyfnod y prosiect. Byddwn yn creu cwmni newydd – Cwmni Dolan – i gefnogi a chydlynnu’r partneriaid newydd hyn. Mae’n holl bwysig i lwyddiant ein gweledigaeth o ddatblygu ac atgyfnerthu’r economi sylfaenol drwy ddatblygu cymunedol na chaiff unrhyw ddisgwyliadau, unrhyw atebion parod ac unrhyw ddiffiniad cul o beth ydi ‘llwyddiant’ eu pennu gan Gwmni Dolan. O’r cychwyn cyntaf yma i gefnogi, gwasanaethu a chydlynu fydd Cwmni Dolan, ac nid i awdurdodi o’r tu allan. Pwyslais ein gweledigaeth a’n gweithredoedd bob tro fydd ymrwymiad i ganiatáu i gymunedau arwain.
Bydd digwyddiad cyntaf y prosiect yn cael ei gynnal yma ym Mlaenau Ffestiniog diwedd mis Mawrth, 2020. Y thema fydd ‘Twristiaeth Gymunedol’. Bydd diwrnod deinamig o siaradwyr, gweithdai a stondinau yn ein disgwyl a chroeso cynnes iawn i bob un.
Cyfnod cyffrous iawn i ni felly fel Cwmni Bro! Cyfle i ymestyn allan tra’n atgyfnerthu’n fewnol. Ymlaen!
-----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2020
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon