Yn mherfedd y gaeaf, a glaw mân dydd Sadwrn Blaenau Ffestiniog yn cario’r oer i’r esgyrn, roedd egin gobaith newydd ar dwf gyda chyfarfod cenedlaethol Undod yn cael ei gynnal yn Cell.
Wrth gerdded i ben grisiau serth Cell, a chamu i’w gynhesrwydd cartrefol roedd dewis clir o’m blaen. Ar bapur sgrap, wedi ei ysgrifennu mewn pin ffelt oedd bron â darfod, roedd arwydd ‘Yoga i’r chwith; Undod i’r dde’. I’r dde es i y tro hwn...
Yn aml iawn wrth fy ngwaith hefo Cwmni Bro a mentrau cymdeithasol Bro Ffestiniog mae gorfod i mi gymryd cam bach yn ôl i gael dal fy ngwynt pan welaf y bobl syfrdanol sydd yn rhannu ystafell hefo mi, ac yn gweithio i’r un nodau â mi. Fel yma oedd hi dydd Sadwrn. O bob cwr o’n gwlad arbennig roedd unigolion wedi ymgynnull i drafod, dethol a dychmygu ffurf dyfodol Cymru annibynnol.
Mudiad democrataidd, gwrth-hierarchaidd, gweriniaethol sydd wedi’i sefydlu i sicrhau annibyniaeth i Gymru a dyfodol gwell i’w phobl ydi Undod. Gwelwn fod posib creu Cymru rydd, Cymru deg, Cymru gynhwysfawr, Cymru werdd yn dechrau heddiw. Does dim gofyn i unrhyw un allanol ganiatáu ein hannibyniaeth. Drwy strwythuro gweithredoedd ym mhob sffêr o gymdeithas mae modd cydnabod ein pŵer ni i reoli ein dyfodol a’i roi ar waith yn syth.
Daw Undod o ddrws cilagored a ddaeth yn sgil llwyddiannau’r mudiad ehangach sy’n gweithio i gyrraedd y nod o Gymru annibynnol. Mudiad ehangach sydd yn cynnwys Yes Cymru wrth gwrs, ymysg nifer fawr iawn o grwpiau eraill. Mudiad sydd wedi cydweithio yn llwyddiannus i gynnal ralïau dros annibyniaeth yng Nghaerdydd, Caernarfon, Merthyr Tudful o dan ymbarél AUOB (All Under One Banner) Cymru.
Felly i ba bwrpas fod angen Undod arnom ni pan fod Yes Cymru yn hynod o lwyddiannus?
Mae Undod yn ymgymryd â dychmygu nid yn unig y weithred o annibyniaeth ond beth fydd Cymru annibynnol y diwrnod wedi canlyniad y refferendwm. Sut awn o’i chwmpas hi fel gwlad a beth fydd yn bwysig i ni wrth wneud hynny. I’r perwyl yma rydym yn datblygu strategaeth, polisïau a chynlluniau gweithredu’n uniongyrchol er mwyn trosglwyddo ein gweledigaeth i bobl, cymunedau a gwleidyddion ledled ein gwlad. Yn hynny o beth rydym wedi treulio peth amser yn gofyn beth ydi Undod? Beth mae hynny yn ei olygu wrth ddatblygu polisïau? Beth mae’n ei olygu i’n perthynas â’r mudiadau eraill sydd yn gweithio tuag at annibyniaeth? Beth sydd yn ddelfrydol a hanfodol i weithredu’r weledigaeth sydd gennym o Gymru y dyfodol?
Fe ddywedodd un o’r criw y noson flaenorol wedi cyrraedd yn hwyr i aros yn y Pengwern (a croeso cynnes oedd yna yn ei disgwyl – diolch i holl weithwyr y Pengwern!):
‘Mae gwahaniaeth rhwng gobeithio am y gorau a gwybod fod y gorau yn bosib – mae’n rhaid i ni wybod fod y dyfodol gorau yn bosib’.Ac yn wir roedd yr hyder yma yn dew yn yr aer dros y penwythnos, lle fo camau bach heddiw yn arwain at wahaniaeth mawr i ni bob un yfory.
Soniodd un arall dros baned p’nawn mai ‘da oedd peidio nabod nifer o’r wynebau yma’; arwydd fod ein hegwyddorion a’n syniadaeth ni yn ymestyn allan i garfanau newydd, neu cymysg newydd o boblogaeth Cymru. Fod Undod yn llwyddo i uno dros bontydd bregus iawn. A dyna sydd wir ei angen os ydym am lwyddo i ddefnyddio annibyniaeth fel cerbyd i greu dyfodol gwell i Gymru. Os na wnawn hynny i pa bwrpas awn ni ati i ennill ein hannibyniaeth o gwbwl?
Wedi gorffen y cyfarfod daeth un o aelodau Undod ataf a diolch o’r galon am gael ymweld â chymuned arbennig ‘Stiniog. ‘Fûm i erioed mewn lle tebyg’ meddai wrth ymadael, pob un yn gwenu o glust i glust yn y bws mini a ddaeth yr holl ffordd o Gaerdydd. Lwcus y rhai sydd yn cael bod yma bob dydd debyg!
I ddarllen mwy. (Gwefan Undod)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon