19.4.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -2

Ail ran cyfres Les Derbyshire.

Ar ôl gorffen yn Nhanygrisiau y tro diwetha', awn wedyn i lawr y ffordd i Dolwen, Tan y Bryn a Ty’n Cefn - cofiaf Jack Wmff yn ffermio yno gyda'i wraig. 'Roedd Jack hefyd yn gweithio yn Chwarel Wrysgan.  Adeg y rhyfel fe fyddai ei wraig yn dod i fyny i Manod i werthu menyn yn ddistaw (menyn ar rations yr adeg hynny) a chael pris da amdano.  ̕Roedd ganddynt dair i bedair o wartheg ac ychydig o dir addas.    

Ymlaen i Cymerau Uchaf ac Isaf, ac wedyn Bryn Melyn, Rhydsarn, a Dolmoch,  tyddynnod mewn gwirionedd,  arwahan i Ddolymoch sydd yn fwy o faint. Wedyn mynd yn ôl at Dolwen ac i fyny at Llennyrch y Moch, sy'n adfeilion bellach, cofio teulu Mr a Mrs Williams yno a'r hogia Robert Alwyn, Hywel Idris a Cledwyn. 

Ymlaen ar y ffordd drol i Dŷ Coch, eto yn adfeilion, mae hanes difyr i Tŷ Coch. Mae Nesta wedi cyfeirio ato fel cartref ei hen Daid a Nain.  Mae G. J. Williams yn Hanes Plwyf Ffestiniog yn cyfeirio ato fel  hyn-
“...ymunodd y Methodistiad a'r Annibynwyr i gynnal ysgol yn ... Tanymanod, ond methasant a chyd weithio. Ymneillduodd y Methodistiaid a phenderfynasant sefydlu ysgol eu hunain. Cawsant ddrws agored yn Tŷ Coch. Yn 1819, dechreuwyd pregethu yn Neuadd Ddu am 10 y bore a chynhelid yr ysgol yn Tŷ Coch yn y prynhawn. Sefydlwyd Cyfarfod Eglwysig yno hefyd... Symudwyd yr ysgol i Neuadd Ddu yn 1821 oherwydd ymadawiad Griffith Ellis o’r Ty Coch ac o hynny hyd Medi 17eg 1826, pan agorwyd Capel Bethesda, cynhelid pob moddion yn y Neuadd Ddu.”
Mae Neuadd Ddu rhyw chwarter milltir o Dŷ Coch -  llwybr troed a ffordd drol oedd yn cysylltu'r ddwy fferm. Cofiaf deulu Penny yn ffarmio yno. ̕Roedd dau o'r hogiau yn gweithio yn y chwarel, a Bob a'i chwaer gartref. Yn rhyfedd doedd yr hogiau ddim yn rhannu gwaith gyda ffermydd eraill. Yr oedd y beudy a'r tŷ gwair wrth ymyl y bont lein, a cadwant rhyw hanner dwsin o wartheg godro a merlan. Byddant yr adeg hynny yn gwerthu ‘Skimmed Milk’ ac o gôf, ceiniog y peint oedd y pris.                                                                                                                        

Ffarm gyfagos oedd Tyddyn Gwyn, yn ymyl Eglwys St. Martha, Manod. Ffarm ddefaid wrth reddf, ond yn cadw gwartheg a cheffyl hefyd. Mae tŷ'r ffarm yn un adeilad hir, yn cynnwys hen stabal a oedd yn y pen,  wedyn y tŷ a'r bwthyn, ni welais unrhyw hanes o oedran y tŷ, ond credaf ei fod yn dyddio a gweddill hen ffermydd y cylch.  Rhwng y tŷ a'r eglwys yr oedd adeiladau eraill - y stabal, lle i ddau o geffylau a chwt offer cyfagos; y beudy yn dal chwech i wyth o fuchod ac ynghlwm iddo y tŷ gwair, roedd digon o le o gwmpas yr adeiladau. 

John Thomas, ei wraig Jane a'i  mab Bob oedd yn byw ar y ffarm.  ̕Roedd John wedi bod yn was ar ffarm Cefn Peraidd, Llan, ac wedi priodi merch y fferm. Wedyn aethant i fyw yn y pentre cyn cymeryd fferm Tyddyn Gwyn. Cymeriad diddorol oedd John, yn ganwr gwych ac o ran golwg yn ŵr tebyg i'r llun yna o John Bull pan oedd yn mynd ar ferlan a throl llaeth o gwmpas yn urddasol.  Bu hefyd yn gweithio yn un o'r chwareli, ac yr oedd ganddo chwarel ei hun ar odre’r Manod Mawr ac fe'i gelwid yn Chwarel John Tom. Cawn fwy o hanes John eto. Tyddyn Gwyn gymerodd gaeau a ffridd ac adeiladau Tŷ Coch ymhen amser. 

Roedd gan Mrs Elin Hughes, Ffordd Manod, dri cae rhwng tir Tyddyn Gwyn a Tŷ Coch gyda beudy a thŷ gwair, gyda mynediad iddynt drwy adwy ger y bont lein ar y ffordd newydd. Hefyd roedd ganddi gae bach tu cefn i'r tŷ lle cadwai ieir.  Bu iddi gadw tua tair o fuchod a magu lloi, ond ar ôl ei marwolaeth, daethant yn rhan o ffarm Tyddyn Gwyn.  
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol fel rhan o erthygl hirach yn rhifyn Mawrth 2018. Bydd ail hanner y bennod yn dilyn yn fuan.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Ffermydd Bro Ffestiniog'.

Llun -Paul W


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon