Wrth glirio tŷ fy niweddar gyfnither, Eileen, sef merch Jôs y Coop, daethom ar draws llawer o ddogfenau yn perthyn i’r hen siop, gan i’w thad, Robert Jones, fod yn rheolwr yno am flynyddoedd. Roedd yno gopi o'r llun (isod) a yrrwyd gan Dei Roberts, Cysulog, i rifyn Tachwedd 2002 Llafar Bro.
Agoriad y Coparet newydd yn y Fourcrosses, Blaenau. |
Yn Neuadd y Farchnad oedd y siop gyntaf, a dyna No. 1 Branch lle penodwyd Mr Rees yn rheolwr; wedyn No. 2 Branch yn y Manod a Mr Alun Jones yn rheolwr; No. 3 Branch yn Llan a Mr Smart yn rheolwr; No. 4 Branch ym Maentwrog a Mr Morris J. Thomas yn rheolwr; ac yn olaf No. 5 Branch yn Nolwyddelen a Mr Dauncey yn rheolwr.
Agorwyd y rhain i gyd rhwng 1921 a 1928, ac hefyd y becws yn y Sgwâr, gyda Mr Ted Thomas yn rheolwr, a’r Iard Lo yn Stesion Manod a Mr Wil Meirion Richards yn rheolwr. Wrth gwrs roedd llawer o ddynion a merched yn y gweithlu, gyda gyrrwyr faniau a loriau, tua 50-60 pan oedd pethau yn mynd ‘full swing’. Dyma lun o’r fan gyntaf brynwyd. Mi ddylwn fod wedi sôn am y ‘Drapery Department’, fel y’i gelwid i fyny’r grisiau yn Fourcrosses efo Mr J.D. Jones yn rheolwr. Yno hefyd oedd y brif swyddfa.
Pan gychwynwyd busnes y Coop, galwyd hi Y Gymdeithas Gydweithredol. Y chwarelwyr lleol a’i cychwynodd gyda phwyllgor rheoli o 12, ac fe gawsant rhyw 300 o bobol i roi punt yr un, neu fwy os gallent fforddio, felly cafwyd rhyw £300 o gyfalaf i brynu stoc. Agorwyd y siop yn Neuadd y Farchnad ar fore Gwener ac roedd y cwbwl wedi gwerthu allan erbyn p’nawn Sadwrn! Bu raid i R. Jones y rheolwr ddal trên fore dydd Llun i Fanceinion i gyfarfod â’r Prif Reolwr yno i gael caniatad i brynu ‘chwaneg o stoc, felly aeth y busnes ymlaen o nerth i nerth a chynyddodd y gwerthiant ac erbyn yr adeg yma rhyw 3,000 o aelodau, a phawb oedd am ymuno yn talu swllt, ac ar ddiwedd bob chwarter dividend yn cael ei dalu i bob aelod, rwy’n meddwl mai 1/6 y bunt oedd o, mae’n siwr fod rhai o’r hen weithwyr yn cofio’n iawn.
Sefydlwyd Robert Jones, tad Eileen, ac fy ewythr innau (brawd mam) yn Rheolwr Oruchwiliwr ar gytundeb o 5 mlynedd. Daeth yma o Lerpwl, lle bu'n rheoli siop Coop yno, ei wraig yn Saesnes o Gaer, ac fe benderfynodd hi fod raid iddi ddysgu Cymraeg os oeddynt am gael bywoliaeth yn y Blaenau, a tydwi rioed yn cofio siarad Saesneg hefo hi.
Cadeirydd cyntaf y pwyllgor oedd Mr Richard Roberts, Pengelli, a’r ail, Mr Robert John Jones, Stryd Fawr, a’r trydydd (a tybed yr olaf?) oedd Mr John Williams, Arfyn. Bu llawer o ddynion ar y pwyllgor rheoli, na alla i mo’u henwi. Mae’n siwr fod rhai o’r darllenwyr yn ‘nabod y rhai rw’i wedi sôn amdanynt.
Y Rheolwr Cynorthwyol oedd Mr Owen Jones, Manod, tad Gareth Jones, ac ef oedd y rheolwr ar ôl i Robert Jones ymddeol; bu yn y swydd am dipyn o flynyddoedd, ond bu ynglyn â’r Coop o’r dechrau.
Fe gynhelir y cyfarfod chwarter yn Festri Seion, wythnos cyn talu’r dividend ac roedd hwn yn gyfarfod ‘pwysig iawn’ a RHAID i’r staff fod yn bresenol yno, beth bynnag am yr aelodau, a ninnau yn ifanc, yn gorfod eistedd i wrando ar ystadegau sych, a bron a marw isio bod yn rhywle arall: y pictiwrs neu rhyw ddawns mae’n siwr, ond roedd gweithio yn yr hen Coop yn ddifyr iawn, dipyn gwahanol i’r ‘Supermarkets’. Roedd hi’n amser rhyfel pan oeddwn i yno, ac yn gorfod pwyso bob owns o bob peth, a chario sacheidiau o datws ac ati, a dysgu bonio bacwn (ych a fi!) gan fod y bechgyn wedi gorfod mynd i’r lluoedd arfog.
Bu’r Gymdeithas Gydweithredol a’r dividend yn help mawr i weithwyr ar gyflogau bach yn y 1920au a’r '30au.
Roedd gan bob aelod rif eu hunain, ac wrth dalu am nwyddau, yn cael slip bach, neu ‘cheque’ fel ei gelwid, a’r rhif arno a faint a wariwyd a rhain fyddai yn pennu’r dividend.
-----------------------------------------
Roedd Laura Price, Sofl y Mynydd, wedi sgwennu yn rhifyn Rhagfyr 2002 am yr Hen Goparet hefyd:
"Dydd Mawrth wedi'r pen chwarter byddai merched (rhan fwyaf) yn ciwio i aros i'r siop agor, er mwyn cael nwyddau (dillad yn bennaf) a chael talu amdanynt yn wythnosol tan ddiwedd y charter dilynol, a gwae i'r sawl oedd heb dalu eu dyledion, doedd dim diben iddynt aros yn y ciw. Mi fues i'n ciwio lawer gwaith fy hunan.
Roedd dillad siop Polecoff gyferbyn yn 'redi cash' a byddai'n galed i bobl gyffredin y Blaenau (fel fy hunan) dalu swm mawr ar y pryd.
-----------------------------------------
Ymddangosodd y brif erthygl yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2003.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon