Showing posts with label Coed y Bleiddiau. Show all posts
Showing posts with label Coed y Bleiddiau. Show all posts

12.1.23

Crwydro Coedydd Lleol

Erthygl yn ein cyfres am grwydro llwybrau Bro Stiniog, y tro hwn gan Iona Price 

Weithiau mae’n braf cael gweld Tanygrisiau trwy lygaid bobl eraill. Dyna ddigwyddodd pan es i ar daith Cymdeithas Edward Llwyd i Goed Cymerau efo John Parry Borth y Gest.  Esboniodd John bod hon yn 80 erw o ‘Goedwig Law Tymhorol Gorllewinol’. Ymysg y pethau inni edrych allan amdanynt - 102 o wahanol fwsog, sawl un yn nodweddoiadol o goedwig law. Roedd John wedi gwneud ei waith cartref cyn ein tywys i Goed Cymerau - lle sydd lawr ffordd i mi, a dwi’n reit gyfarwydd a’i ryfeddodau. Braf iawn gweld criw o bell yn rhyfeddu gyda’r lleoliad ac yn synnu nad oeddynt erioed wedi bod yn y lle arbennig hwn o’r blaen.

O’r man parcio ger fferm Cymerau Isaf aethom at Raeadr Cymerau i ddechrau’r daith. Wrth inni gael y wledd o edrych ar un o’r mannau mwyaf hyfryd ar y Afon Goedol, soniodd John fel roedd yr ardal yn gyforiog o afonydd.

Afon Goedol o Bont Swch. Llun Paul W

Troi’n ôl i ddilyn y llwybr lawr i gyfeiriad Rhyd Sarn lle byddem yn croesi’r afon Goedol. I’r rhai sy’n methu mynd yn bell iawn, mae’n dda cofio y gallwch barcio yn Rhydsarn a chroesi’r ffordd i ddod yn syth i’r lle hudol yma.  Tydi’r darn nesaf ddim ar gyfer pawb. Wedi croesi’r bont dros y Goedol, roedd  carped o ddail derw brown ar y llwybr dros y creigiau, felly roedd angen cymryd 'chydig o ofal cyn cyrraedd y rhan o’r goedwig a fyddai’n arwain i gyfeiriad Y Dduallt. Troi i ddilyn y lein rheilffordd ar ein chwith i gael picnic yn y steshion. Wrth adael y steshion i gyfeiriad Maentwrog, mae’n werth croesi’r gamfa ar eich chwith i fynd i’r Olygfan ar y bryn. Mae llechen yno yn enwi pobman sydd i’w weld a’r pellter oddiyno. Mae Tanygrisiau 2 filltir i ffwrdd.

Lawr yn ôl at y lein a dros y gamfa ar yr ochr arall a fydd yn mynd a chwi i Blas Dduallt. Cawsom dipyn o hanes y plas a hefyd straeon am y cymeriadau a fu’n byw yng Nghoed y Bleiddiau lawr y ffordd.


'Dach chi wedi cerdded rhyw 3 milltir erbyn hyn. Cewch droi yn ôl ger Plas Y Dduallt, ond gallwch ddilyn y llwybr ar ochr isaf y rheilffordd tro yma, cyn croesi nant fechan i ymuno’n ôl efo’r llwybr gwreiddiol dros y Goedol yn Rhydsarn. 


Digwydd bod, o fewn deuddydd roeddwn mewn coedwig law arall. Coedydd Ganllwyd tro yma gyda’r ecolegydd Ben Porter ar ran Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd Ben yn un o’r bobl prin gafodd fwynhau’r Cyfnod Clo. Cafodd gyfle i astudio unrhyw wahaniaethau mewn bioamrywiaeth mewn cyfnod lle nad oedd pobl yn crwydro o gwmpas. Dangosodd 10 math o fwsog inni o fewn darn bychan iawn; dangosodd y gwahaniaeth inni rhwng cen sy’n tyfu ar risgl llyfn neu rhisgl garw; a thra roeddem yn edrych ar giamocs dryw eurben a chnocell y coed, dyma res o 6 danas yn dod i’r golwg. Yn bendant mae’n werth edrych allan am deithiau tywys. 'Dach chi’n dysgu cymaint!

Rydan ni’n ffodus iawn bod sawl coedwig eithriadol yn agos i ardal Llafar Bro. [Nifer fawr ohonynt yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol -gol.] Dim ond dwy rydwi wedi enwi. Os nad ydych wedi ymweld ag un yn ddiweddar, beth am gychwyn gyda Choed Cymerau?

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2022

Crwydro Ceunant Llennyrch


30.5.15

Gwynfyd- pryfeta

Ymddangosodd cyfres 'Gwynfyd' am dair, bedair blynedd yn y nawdegau, yn trafod bywyd gwyllt a llwybrau troed ein bro. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Mai 1996, yn crwydro ym Maentwrog.


Un o ddyddiau hyfrytaf y gwanwyn fu'r pumed o Ebrill, ac felly yr es i dow dow a dilyn fy nhrwyn yng nghoedydd Maentwrog. Wrth gychwyn dros y ffordd i Dafarn Trip ar lan Llyn Mair, mae'r cilomedr cyntaf trwy blanhigfa gonifferaidd, ond mae'r llwybr yn un llydan ac agored, felly'n caniatau i ddigon o oleuni gyrraedd y llawr.

Yma y gwelais löyn byw cyntaf y flwyddyn -peunog- yn torheulo ynghanol y llwybr. Treuliodd beth amser wedyn yn hedfan hyd a lled ei diriogaeth, yn fflachio ei lygaid ffug a esblygwyd i ddrysu neu ddychryn adar. Mae'r peunog yn un o'n glöynod sydd yn treulio'r gaeaf fel oedolyn, felly y genhedlaeth yma fydd yn cynhyrchu'r glöynod y gwelwn yn ein gerddi o fis Gorffennaf ymlaen; mae'r lindys du, blewog i'w gweld ar ddail poethion yn ystod Mehefin -daw hyfryd fis....

Gloyn peunog (mantell paun)- llun PW
Wrth gadw at ochr chwith y wal, daw'r llwybr i lannerch braf lle'r oedd glöynod eraill yn hedfan ymysg y gweiriau tal; yr adain garpiog a'r iar fach amryliw, dau arall sy'n gaeafu fel oedolion (imago) ac yn manteisio ar wres achlysurol yr haul i fwydo a chanfod cymar.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y tir yma a Choed Bronturnor, a fydd cyn bo hir efallai yn ffurfio rhan o 'Ardal Cadwraeth Arbennig' Coedydd Maentwrog, cynllun newydd gan y Gymuned Ewropeaidd i ddynodi cynefinoedd naturiol gwerthfawr i'w gwarchod.

Mae'r llwybr yn mynd yn ei flaen tua Coed y Bleiddiau a'r Dduallt (ac at Ystradau), ond troi i'r dde wnes i ar hyd y wal gerrig, a thrwyddo yn ôl i'r blanhigfa lle'r oedd dryw eurben a thitwod yn canu yn y brigau uchaf. Ymhen ychydig mi ddewch at barth lle mae'r canopi trwchus yn agor i ddatgelu rhyw lys Ifor Hael o furddun. Yma 'roedd suran y coed yn tyfu ymysg y mwsog' a'r cerrig, a'r mieri a'r brigau yn fwrlwm gan hedfan hwnt ac yma a chanu gwyllt ceiliog dryw bach, efallai yn amddiffyn y nyth yr oedd wedi, neu yn ei godi. Es yn fy mlaen rhag ei ddigio a dod at gronfa fechan, sydd erbyn Mehefin yn le da i wylio sawl math o was neidr.

O'r pwll yma gallwch droi i'r dde ac ail ymuno â'r llwybr gwreiddiol, neu gerdded ymlaen i mewn i Goed Ty Coch, hyd at y ffordd fawr uwchben gwesty'r Oakely Arms. Bu'r Ymddiriedolaeth yn clirio Rhododendron ponticum o'r goedlan yma y llynedd, ond eisioes mae llwyni ifanc yn tyfu yma eto. Mae ceisio difa'r pla yma yn Eryri (sydd yn cynhyrchu miloedd o hadau i bob blodyn) fel aredig tywod, ond mae'r clirio llynedd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dyfiant llawr y goedwig, ac ar lethr yn wynebu'r de, yng ngwres yr haul 'roedd chwilen prydferth a elwir yn Saesneg, green tiger beetle, sydd yn olygfa doniol wrth hela pryfed bychan, mae'n hedfan pellter bach ac yna rhedeg o le i le i'w dal -hwn mae'n debyg yw'r rhedwr cyflymaf ymysg pryfetach Ynys Prydain! Mae ei gorff yn
wyrdd llachar gyda marciau melyn arno, a genau dychrynllyd yn ei wneud yn drawiadol iawn.
---------------------

Paul Williams oedd awdur cyfres Gwynfyd.Bydd mwy o erthyglau yn dilyn o dro i dro.