Roedd lojistigs y peth yn anferth: danfon 3500 copi o Llafar Bro i bob tŷ yng nghôd post LL41..!
Ond doedd y dasg ddim yn dychryn criw diwyd Hwb Cymuned a'r Dref Werdd. Aed ati i drefnu myrdd o wirfoddolwyr a rhannu tri phlwyf Bro Ffestiniog yn strydoedd a stadau, ardaloedd ac anheddau.
Am y tro cyntaf erioed daeth Llafar Bro o'r wasg yn Llanrwst i Stiniog mewn cerbyd trydan, a chymaint oedd pwysau'r 32 bocs, roedd Gwydion yn poeni wrth weld lefel y batri'n suddo'n gyflym iawn ar ei ffordd i fyny'r Crimea. Trwy lwc roedd digon ar ôl i'w gludo dros y top ac i lawr yn saff pen yma!
Ar fore dydd Iau, roedd criw rhaglen Heno, S4C yn swyddfa'r Dref Werdd i ddal y cyfri a'r dosbarthu ar gamera, cyn i bobol orau'r byd -pobol Bro Ffestiniog- fynd efo pecynnau o Llafar Bro i'w rhoi trwy ddrysau pawb. 20 i fan hyn, 100 i fan draw, fesul dipyn, nes i'r newyddion gyrraedd ar y grŵp watsapp nos Wener fod pob man wedi ei wneud.
Ymdrech anhygoel gan griw arbennig. Diolch o galon i bob un.
Mae'n anochel efallai bod ambell dŷ wedi cael dau rifyn ac ambell un arall heb gael yr un o bosib. Os nad ydych wedi derbyn copi, gadewch i ni wybod, ac mi drefnwn ni rywbeth efo chi!
Os hoffech, gallwch lawrlwytho copi pdf o wefan Bro360. Cofiwch annog eich teulu a'ch ffrindiau ym mhedwar ban y byd y gallen nhwythau lawr-lwytho'r rhifyn am ddim hefyd.
Mae'r gwaith o gyhoeddi rhifyn 500 Llafar Bro wedi golygu llawer iawn o chwys a llafur cariad, gwirfoddol, ac mae o wedi dangos eto mor arbennig ydi ysbryd cymunedol Bro Ffestiniog!Mae wedi golygu costau ychwanegol hefyd wrth reswm i argraffu pedair gwaith yn fwy o gopiau na'r arfer- a'u rhoi nhw am ddim! Felly hoffai Llafar Bro ddiolch eto i Hwb Cymuned am y grant covid, ac i'r Dref Werdd a Chwmni Bro Ffestiniog am y gefnogaeth ariannol hael; yn ogystal â chymorth ymarferol amhrisiadwy y dair fenter.
Cofiwch, os ydych awydd dosbarthu Llafar Bro bob mis i'r rhai sy'n ei brynu yn eich stryd chi (nid pob tŷ!) -cysylltwch os gwelwch yn dda.
Mae Yr Odyn, papur Dyffryn Conwy, a Llafar Bro papur ardal Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd, wedi cyrraedd 500 o rifynnau, a dyma rai o'r bobl sydd wedi bod yn gyfrifol am lwyddiant y ddau bapur!🗞️ pic.twitter.com/ezvUsx3fXF
— Heno 🏴 (@HenoS4C) December 14, 2020
Geirau: Paul W
Lluniau: Y Dref Werdd/Hwb Cymunedol
Logo: Dime Elenov
- - - - - -
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon