Yng Nghymru, roedd Gerallt Lloyd Owen wedi ennill cadair Steddfod Cricieth, T.Llew Jones wedi cyhoeddi ‘Tân ar y Comin’ ac Edward H. Dafis wedi rhyddhau eu hail albym ‘Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw’. Y flwyddyn honno hefyd, pleidleisiodd pobl Prydain mewn reffarendwm yn llethol o blaid aros yn y Farchnad Gyffredin Ewropeaidd; daeth Pol Pot a’r gyfundrefn greulon Khmer Rouge i rym yng Nghambodia; a bu farw’r unben Franco yn Sbaen.
Roedd yna fwrlwm yng Nghymru ganol y saithdegau hefyd, gyda sefydlu nifer o bapurau bro, ac ar frig y don honno, cyhoeddwyd Llafar Bro am y tro cyntaf erioed ym mis Hydref 1975. Efo rhifyn Rhagfyr 2020, mae papur misol Bro Ffestiniog wedi cyrraedd carreg filltir nodedig iawn.
Roedden ni’n benderfynol o nodi’r llwyddiant yma mewn ffordd uchelgeisiol, a dyna pam ein bod wedi dosbarthu copi am ddim i bob cartref yn y fro. Gwnaed hyn yn bosib gan gyfraniadau hael gan Gwmni Bro Ffestiniog a’r Dref Werdd, a grant Hwb Cymunedol ar gyfer ymateb i effeithiau Covid. Mi fyddai wedi bod yn amhosib dosbarthu’r papurau i dair mil a hanner o dai, heb ymdrech anghygoel staff y Dref Werdd fu’n cydlynnu criw brwd o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser i’r cynllun.
Diolch enfawr i’r gwirfoddolwyr sydd wedi dod a Llafar Bro i’r byd 500 o weithiau ers 1975, a diolch hefyd –ymlaen llaw- i’r gwirfoddolwyr ddaw a’r 500 nesa’ atom. Pwy a ŵyr nad oes yn eich tŷ chi, blentyn neu berson ifanc, sydd a’i fryd ar ddim byd ond y ffôn symudol a ffilmiau TicToc heddiw, ond a fydd efallai, yn y dyfodol yn sgwennu darn fel hwn ar gyfer y milfed rhifyn!
Mwynhewch Llafar Bro am ddim y mis yma, ond cofiwch os medrwch, gyfeillion, brynu rhifyn Ionawr a phob mis wedyn, a gyrru newyddion a lluniau i mewn trwy’r flwyddyn hefyd, er mwyn cyfrannu at ddyfodol eich papur bro chi.
Diolch bawb.
Paul, cadeirydd Cymdeithas Llafar Bro.
(Gyda llaw, mi fydd ychydig gopïau ar gael yn y siopau os hoffech brynu ail gopi, ac os gwyddoch am dyddyn diarffordd neu rywun sydd heb dderbyn eu copi nhw, cynghorwch nhw i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.)
----------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020
Diolch yn fawr iti Paul am dy frwdfrydedd ynglýn á'r rhifyun arbennig. Trueni fod y cyfyngiadau Govid wedi effeithio ar gyhoeddi Llafar Bro unwaith eto. Ond gobeithio y daw gwell lwc yn fuan. Mae'r criw dyfal sy'n ymwneud á'r papur bro yn haeddu gwell. Y sawl sy'n darllen hwn, mwynhewch y copi digidol, a gwnewch eich gorau i hybu gwerthiant y papur yn y dyfodol.
ReplyDelete