5.1.21

Stolpia -Coelion Byd Natur

Rwyf wedi crybwyll amryw o bethau eisoes ynglŷn â hen goelion ym myd natur pan oeddem yn hogiau yn yr 1950au, megis yr un am godi llyffant i fyny oddi ar y ddaear ac yntau yn gallu gweld i mewn i’ch ceg a chyfrif eich dannedd. Os cofiwch, y canlyniad a fyddai i’r dannedd oll syrthio allan o’ch ceg a deuai rhai pren yn eu lle.


Llyffant Dafadennog
 Os codid llyffant dafadennog, neu ‘lyffant Dafydd Enog’, chwedl rhai, (sef y llyffant du) i chwilio am berl yn ei ben ceid peth wmbredd o ddefaid (dafadennau) ar eich dwylo, yn enwedig os poerai'r creadur arnoch. Yn wir, byddai llawer ohonom ni yn dioddef gyda defaid ar ein dwylo pan oeddem yn blant, a hynny heb inni erioed gyffwrdd mewn yr un llyffant. Wrth gwrs, roedd sawl ffordd i geisio cael gwared ohonynt, megis gwlychu pen fflachen (matsien) a’i rwbio ar y ddafad, neu rwbio tysan, neu ddarn o facwn arnynt a’u claddu wedyn. Byddai rhai yn taro eu llaw yn nŵr y crwc yn efail y gof er mwyn ceisio cael gwared arnynt.


Malwod duon
 Os byddai un yn digwydd sathru yn ddamweiniol ar falwen ddu, neu wlithen ddu mewn gwirionedd, byddai’n sicr o ddod yn law, h.y. os nad oedd hi’n bwrw glaw yn barod, wrth gwrs. Clywais sawl un yn dweud ers talwm bod rhai plant y gwahanol enwadau crefyddol yn sathru arnynt yn fwriadol pan fyddai’r Gymanfa yn digwydd gan enwad arall er mwyn iddi hi ddod yn law a difetha eu diwrnod! Pwy fuasai’n meddwl y byddai plant bach yr Ysgol Sul, a fyddai fel angylion yng ngolwg llawer, yn meddwl am ffasiwn beth, ynte?


Nadroedd
Byddem yn credu hefyd os byddai gwas y neidr yn hedfan ogylch ein lleoedd chwarae y byddai neidr yn sicr o fod gerllaw, ac yn aml iawn, eid i chwilio amdani hi.
Clywais rai o’r hen bobl yn dweud y byddai rhai gweision ffermydd yn dal nadroedd yn y cynhaeaf gwair a stwffio baco siag ‘Baco’r Bryniau’ i lawr eu safnau a’i gwddf  nes eu bod yn gwingo ac yn ymdroelli fel pethau gwirion ar hyd y caeau. Dywedir hefyd bod y baco mor gryf fel y byddai’n ddigon i ladd y neidr mewn ychydig funudau. Nis gwn os yw hyn yn wirionedd ai peidio, ond dyna’r math o agwedd a feddai'r hen bobl gynt tuag at nadroedd a llawer o anifeiliaid eraill, ynte ?
Peth arall a ddywedid gan yr hen werin oedd, ni fedrai brathiad gwiber ladd ffwlbart gan nad oedd y gwenwyn yn amharu arno o gwbl. Tybed ac ydyw hyn yn wirionedd ? 


Geifr
Byddai gweld geifr gwyllt yn dod i lawr o’r mynyddoedd a’r clogwyni yn arwydd o dywydd mawr neu dywydd stormus, ac os yw geifr dof yn fwy anystywallt nag arfer ac yn bwyta blaen y borfa ceir glaw o fewn dim. Byddai llawer o’r hen bobl hefyd yn credu’n gryf bod llaeth gafr yn llawer gwell na llefrith buwch a llaeth dafad. Fe welwch yn y llun geifr gwyllt ar Graig y Wrysgan


Lwc ac Anlwc
Coel arall gan ein teidiau a’n neiniau oedd yr un am y gog yn canu am y tro cyntaf a'r angen inni gofio troi'r arian a fyddai yn ein poced er mwyn cael lwc a phres gweddill y flwyddyn. Ond, yn ôl rhai, os nad oedd gennych yr un geiniog yn eich poced, wel, dyna a fyddai eich hanes wedyn tan y gwanwyn dilynol.


Un o’r coelion y byddem am y cyntaf yn ceisio cael blaen ar weddill ein ffrindiau oedd gweld dafad ddu ymhlith y rhai gwyn a gwaeddi ‘Dafad ddu, lwc imi’, neu yn y gwanwyn ‘Oen bach du, lwc dda imi’ ac y byddai’n rhaid i’r oen bach eich wynebu i gael lwc iawn. Yn ôl rhai o’r hen bobl ‘dwy frân ddu, lwc dda imi’ oedd yr hen goel mewn gwirionedd, ac ‘un frân ddu, braw imi’. Dyma rai eraill a glywid yn lleol ers talwm; Os digwyddwch freuddwydio am wiwerod cewch lwc dda a dod i arian a chyfoeth. Os bydd gwenoliaid yn dewis nythu dan fondo eich tŷ, neu un o’r rhactai, cewch lwc dda a hapusrwydd.


Cofiwch os gwelwch un bioden, i gris-croesi eich hunan, neu fe ddaw rhyw anlwc i'ch cyfarfod. Roedd croesi llwybr wenci yn anlwcus iawn, a’r peth gorau a fyddai cymryd llwybr arall, neu i droi’n ôl yn gyfan gwbl. Os croesid eich llwybr gan ysgyfarnog, deuai anlwc fawr i’ch rhan hefyd a byddai’n rhaid oedi gweddill eich siwrnai. Yn ddiau, y mae llawer mwy o enghreifftiau tebyg, efallai y cawn glywed amdanynt.  


Hanes y Twnnel Mawr

Gan imi orfod siomi nifer ohonoch y llynedd oherwydd nifer cyfyngedig y gyfrol ar hanes y Twnnel Mawr rwyf wedi penderfynu ei hailargraffu. Diolch yn fawr i bawb a’m cefnogodd. Cofiwch, y cyntaf i’r felin y bydd hi eto!


---------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2020


1 comment:

  1. Diolch i Steff am gofnodi'r hen goelion hyn ar gyfer y genhedlaeth sydd i ddod.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon