Tro yn ôl i’n tŷ ni – pennod arall o gyfres Bruce Griffiths
Prociwyd fi gan y sylwadau difyr ar ‘Iaith Stiniog’ i hel atgofion am eiriau a gofiaf o’m plentyndod. Daliwch ati! Peth a’m trawodd erbyn hyn: fel y bydd yr oes, y ffordd o fyw, yn newid, felly hefyd iaith lafar ardal. Yn ôl â fi i’m cartref cyntaf, sef 101 Heol Wynne, fel yr oedd felly o 1940 hyd 1958.
Pa faint ohonoch a fyddai heddiw, yn ’nabod ei gynnwys, a’n henwau ni arnyn nhw? Yr oedd yn dŷ fymryn yn well na thyddynnod hŷn y dref, ond nid oedd iddo garej ar gyfer car bach (dyna a ddywedid; ni chlywais erioed sôn am ‘gar mawr’). Gias (nid ‘nwy’) oedd yn ei oleuo, yn y parlwr (nid lolfa) a’r gegin - nid lle i goginio rhyw lawer, ond ystafell fyw heddiw.
Math o gwt brics a tho sinc oedd y gegin fach lle gwneid y cwcio. Tân glo a dwymai’r gegin a’r parlwr, a gias a’u goleuai. Nid oedd dim i oleuo na thwymo’r tair llofft. Aem i’r ciando (!) efo cannwyll neu lamp oel lamp (= paraffîn) - arferiad digon peryglus. Nid oedd letrig gennym, a byddai’r weiarles yn dibynnu ar fatri sych, batri gwlyb a ‘grid bias’! (Cofiaf Jac Sam, prifathro Ysgol Bechgyn Maenofferen, yn adrodd droeon hanes y weiarles cyntaf yn ’Stiniog, a phobl yn tyrru yno i’w glywed mewn syndod.)
’Doedd dim sôn am deledu wrth gwrs. Gwael iawn oedd derbyniad radio ar y pryd. Cofiaf wrando ar Noson Lawen, a dotio ar Gymraeg digrif ac annealladwy’r Co Bach o Gnafron, ac ar Welsh Rarebit, yn bennaf oherwydd y deuai honno i ben gyda We’ll keep a welcome in the hillsides, cân yn cynnwys yr addewid ‘We’ll kiss away each hour of hiraeth,’ - yr unig air o Gymraeg yn y rhaglen. Yn y pumdegau gallwn glywed Radio Luxembourg os gwasgwn fy nghlust ar un pen i’r set ei hun, i glywed caneuon pop wrth gwrs, ond yn bennaf i glywed anturiaethau Dan Dare a’r Mekon, arwyr y comig yr Eagle, ar y blaned Gwener, am chwarter i saith bob nos.
O’r diwedd daeth cwmni’r Red Dragon Radio Relay i godi clamp o fast ar ben y mynydd i godi darllediadau a’u hailgyfeirio i lawr i’r dref - am swllt a naw yr wythnos. Deuai Dic Wan a Nain o gwmpas i gasglu’r tâl. Ni allem ni ei fforddio. Ni welais i deledu tan 1960, yng Ngholeg Iesu.
Pan gawsom letrig, tua 1948, rhaid oedd rhoi swllt bach (= pisyn swllt) yn y mitar, yn lle’r geiniog a roddem ar gyfer y gias. Ys gwn i ba faint o bobol ifync heddiw a ŵyr beth ydy’ ‘swllt’, ‘ceiniog’, ‘dimai’, ‘ffyrling’, ‘pisyn tair’, ‘chwechyn’, ‘papur chweugain’, ‘papur punt’ a ’hanner coron’? Cedwid ‘pisiau tair gwyn’ i’w rhoi yn ein pwdin ’Dolig. Clywid ambell un yn dweud ‘’Does genni’r un hatling ar f’elw’ er na welid hatling bellach, a soniai fy nhaid am ‘goron’ a ‘sofran’: yn wir mae brith gof gennyf o weld ychydig sofrenni a gadwasai. Yr oedd rhai darnau copor hynafol iawn yn dal i gylchredeg - cofiaf, unwaith neu ddwy, weld un o geiniogau trwchus William IV - Banc Lloegr heb ei sbotio, mae'n rhaid!
Dyna fi’n crwydro eto! Yn ôl i’m hen gartref! Yn y gegin fach ceid slopston (= sinc), math o gawg mawr sgwâr fel petai wedi ei wneud o goncrid. Hefyd, boeler i olchi dillad, a thân glo bychan oddi tano i’w dwymo. Yno ceid y stof gias, a’r unig feis (= tap) yn y tŷ, gan nad oedd bathrwm gennym .Nid oedd ‘oergell’ nac ‘oergist/rhewgell’, felly ni ellid cadw cig na physgod fwy na rhyw ddeuddydd. Nid yn y parlwr y byddem yn byw fel arfer, lle oedd i gadw ein dodrefn gorau ac i groesawu pobol ddiarth. Yn y haf mudem o’r gegin dywyll i’r parlwr, a byddid yn ei drimio ar gyfer y ’Dolig. Ar gefn un drws dangosai fy mam wialen fedw imi, eiddo fy nhaid, ond ni chefais i erioed fy nghosbi!
Tân glo a dwymai ein cegin, gydag uffarn oddi tano i ddal y lludw, (a lle ceid ‘pryfed lludw’ weithiau) a jac mwg dros safn y simnai, er mwyn rheoli’r drafft i gynnal y tân - (nid ‘chimney cowl’, sef yr unig ystyr a geir yng Ngeiriadur y Brifysgol, ond dalen fawr o fetal oedd, a dwrn arno). O bryd i’w gilydd, pan na fyddai’r tân yn tynnu’n iawn, byddai mam yn stwffio hen bapurach i fyny’r simnai, cyn ei roi ar dân: peth peryglus a chroes i’r gyfraith, ond rhatach na thalu dyn llnau simnai - a gwelid cwmwl o fwg yn codi o simnai sawl tŷ arall arall o bryd i’w gilydd.
Pa ystafell arall? Anghofiais am y siambar sorri, lle byddai fy chwaer fach yn mynd i grio ac i sorri yn y gornel y tu ôl i’r drws ffrynt! Hefyd, y sbens (neu sbensh yn ôl rhai) lle cedwid ein nialwch; nid oedd atig gennym. Mewn ardaloedd eraill, mi glywch cwtsh dan stâr. Byddem ni blant Maenfferam yn tyrmentio (herian) plant Tanygrisiau eu bod yn byw mewn sbens o le. Dyna ddigywilydd ynte! (Byddai pobl Tanygrisiau yn galw ardal y Manod ‘yr ochor draw’!) Daeth sbens o dafodiaith gogledd Lloegr, enw math o gwpwrdd: mae’r un elfen yn dispensary. A dyna landars neu landeri tŷ: o’r Saesneg eto, ac yn perthyn i laundry: lle mae llawer o ddŵr yn llifo (lle megis ’Stiniog!)
Allan â mi i’r ardd gefn! Yn y pen draw, yr oedd y cwt glo, y drws nesaf i’r closad. Clywais enwau eraill arno: tŷ bach, ’rhows bach, lle chwech: tebyg y gwyddoch chi am eraill! (Yma, ar y cei yn Abercegin (sef ‘Port Penrhyn’ y Saeson), y mae, neu fe fyddai, ‘lle chwech’ go iawn - sef lle i chwech o chwarelwyr eistedd ochr yn ochr! - nid, felly, lle yr oedd yn rhaid talu chwecheiniog i fynd iddo!) Holwch yn Siop yr Hen Bost am North Wales Privies a Privies of Wales, gan y diweddar Barch J.Aelwyn Roberts, gŵr o ’Stiniog.
’Ta waeth! Saif fy hen gartref o hyd. Mae’n siwr gennyf i ei fod mor fodern â thŷ unrhyw gymydog. Gyda lwc, cewch air (yn hytrach eiriau) gennyf rywbryd eto. Da bo ichi bawb, a hir oes i Lafar Bro!
---------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Iaith Stiniog isod; mae erthyglau eraill am eiriau a dywediadau lleol dan y ddolen Geiriau Coll. (Os yn darllen ar ffôn, rhaid i choi ddewis 'web view' er mwyn gweld y dolenni)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon