23.1.21

Papur o fri - papur y Fro!

Roedd colofn Iwan Morgan -Rhod y Rhigymwr- yn cynnwys cyfarchion barddonol i nodi 500fed rhifyn Llafar Bro.

Mae’n rhyfedd meddwl fod naw mlynedd wedi mynd heibio er pan oedden ni’n dathlu cyhoeddi 400fed rhifyn Llafar Bro. Yn Hydref 2011, ehedodd fy meddwl yn ôl i’r dyddiau pan fum yn golygu’r papur dros gyfnod o ddwy flynedd … i’r dyddiau pan oedd siswrn a glud ‘Pritt-Stick’ yn allweddol. Cofiaf fel y byddai’r diweddar Trefor Wood a minnau ar fwrdd y gegin yma’n ceisio cael rhyw erthygl neu lun i ffitio, ac fel y deuai ambell reg o’r genau os na fyddai rhywbeth yn syrthio i’w le fel y dylai. Cafwyd llawer o hwyl drwy’r cyfan oll, a boddhad o weld y papur yn cyrraedd ein cartrefi yn ei ffurf derfynol. 


Dyma fel y ceisiais grynhoi’r profiad:
Ar achlysur cyhoeddi 400fed rhifyn ‘Llafar Bro’ … Hydref 2011


     ‘Rôl byd y ‘torri a’r gludo’ - a welwyd
      ers talwm, daeth chwyldro
      o’r newydd i saernïo
      bri o hyd ar Lafar Bro.


Wrth fynd ati i gyfarch y 500fed rhifyn, a ninnau mewn cyfnod na welsom erioed ei debyg o’r blaen, fel hyn y daeth:
Ar achlysur cyhoeddi 500fed rhifyn ‘Llafar Bro’ … Rhagfyr 2020


      Dathlwn, canwn mewn cyni, - o afael
     ‘Covid’ daliwn ati;
      Â ‘Stiniog i’n cefnogi
      ymlaen nawr i’r mil awn ni!


Gosodwyd tasg i gefnogwyr ffyddlon y golofn yn y rhifyn dwytha … a gofyn iddyn nhw lunio cyfarchiad i’r 500fed:

     “Ein ‘Llafar Bro’- y cylchgrawn sy’
      Ymysg y gorau trwy Gymru”
 

ydy cwpled clodwiw CLIFF O’R BONTNEWYDD. Mae’n canmol yn fawr y criw gweithgar o wirfoddolwyr sy’n sicrhau’r arlwy fisol, a hynny am bris tra rhesymol:

      Cyhoeddi pum can rhifyn o’r ‘Llafar’ -
      Rhaid diolch i’r gwirfoddolwyr gweithgar,
      Trwy eu llafur rhoddwyd yn ddirwgnach,
      Creu cylchgrawn ‘mysg y goreuon bellach.
      Mae’n cynnwys llythyrau a hanes di-ri
      O hen dref ac ardal y llechi,
      Ac ambell lun sy’n ein tywys a’n hannog …
      A hynny am bris o wyth deg ceiniog!

    
Rhoddwyd rhyddid i’r rhigymwyr i ddefnyddio’r cwpled agoriadol yma pe baent yn dymuno:

     ‘Â ‘Llafar Bro’ ar fin cyhoeddi
      Ei bum canfed rhifyn ‘leni'


Dyma gyfarchiad diffuant ARTHUR O FACHEN, sydd, fel CLIFF, yn hynod werthfawrogol o’r hyn ddarperir gan y tîm ac yn hael ei ganmoliaeth iddo:

      Diolch o galon i bob gohebydd
      O Dangrisia i Drawsfynydd.
      Cofnodion a straeon diguro,
      Papur o fri - papur y Fro!
      Boed i'w dudalennau ddiddori
      Miloedd a mwy, bob mis, i'w pori.                                              
      Papur o fri i bobol y Fro,
      Diddorir pawb â'i ddarlleno.


Mae GWENLLIAN O’R WYDDGRUG hefyd yn gwerthfawrogi llafur cariad gwirfoddol y swyddogion a sonia am y gwerth cymdeithasol amhrisiadwy sydd i’r papur. Tynna sylw penodol hefyd at y ffaith ei fod yn rhan annatod o’n hetifeddiaeth:

      Tra ragora yn ei gynnwys,
      A’i swyddogion yn ddiorffwys;
      Mae pob rhifyn yn ffrwyth gwirfoddol
      A’u hamrywiaeth mor neilltuol.
      Tyn gymuned glos yn dynnach
      A’i swyddogaeth yn rhagorach;
      Cadarnheir ein hetifeddiaeth
      Trwy ein ‘papur bro’ tra odiaeth.
      Dymuno wnawn hir oes i’w yrfa –
      Ymlaen i’r pumcan rhifyn nesa’!


Mae’n hyfryd cael coesawu GWYNFOR O DRAWSFYNYDD yn ôl i’r gorlan, a diolch o galon iddo yntau am y cwpledi cyfarch trawiadol yma:

     ‘Â ‘Llafar Bro’ ar fin cyhoeddi
      Ei bum canfed rhifyn ‘leni
’ …
      Eto’n cynnwys ‘Rhod Rhigymwr’
      Gyda’r bardd yn rhoddi swcwr.

     ‘Â ‘Llafar Bro’ ar fin cyhoeddi
      Ei bum canfed rhifyn ‘leni’

      Yma eto’n bapur misol
      I ddiddori tâst y bobol.


Croeso hefyd i wyneb newydd y tro hwn … DAFYDD CC… ac am ei ymgais. Yn ansicrwydd y dyddiau sydd ohoni, edrych ymlaen y mae am y dydd y cawn fel pwyllgor ddod at ein gilydd eto wedi i’r felltith yma gilio o’r tir:

     ‘Â ‘Llafar Bro’ ar fin cyhoeddi
      Ei bum canfed rhifyn ‘leni’

      Tybed a ddaw criw y gosod
      Eto’n ôl i gyd-gyfarfod?

 

Braf deall fod SIMON CALDWELL wedi ei blesio o weld ei englynion yn rhifyn Tachwedd. Yn wir, mae’n ŵr sy’n haeddu ein hedmygedd … nid yn unig am ddysgu’n hiaith ond am feistroli rhywbeth sy’n unigryw i’n diwylliant … ‘cerdd dafod’.

Dyma englyn amserol iawn i’r dyn melynwallt, rhodresgar, trahaus sy’n ‘ceisio’ arwain o rif 10 Stryd Downing:

      Melyn ei wallt, milain ei wawd, - hwbris
      sy'n hebrwng sawl anffawd.
      Statws yw'r tlws, gwae'r dyn tlawd
      Y paun a lyfna'r pennawd.

--------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020

Llun- Paul W

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon