Showing posts with label Chwarel Ocli. Show all posts
Showing posts with label Chwarel Ocli. Show all posts

3.3.21

Sgotwrs Stiniog -Llyn Ffridd

Erthygl o'r archif

 Croeso'r gwanwyn tawel cynnar,
Croeso'r gog a'i llawen lafar;
Croeso'r tes i rodio'r gweunydd,
 gair llon, ac awr llawenydd.


A dyna hen bennill telyn yn croesawu'r gwanwyn inni. Ac yn sicr fe fydd sawl sgotwr yn falch o'i groesawu 'â gair llon', ac ar ôldyheu dros y misoedd diwethaf am 'awr llawenydd' unwaith eto o fedru gafael yn yr enwair. Hei lwc mai gwanwyn go iawn fydd o ac nid fel yr un oeraidd a gafwyd yb llynedd.

Ychydig yn ôl yr oeddem yn ofni y byddai Llyn y Ffridd -neu Llyn Ffridd y Bwlch a rhoi ei enw llawn iddo- yn cael ei gladdu o dan dunelli lawer o rwbel y chwarel*. Ond daeth 'gair llon' oddi wrth berchnogion newydd hen chwareli'r Oakely yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw fwriad i'w gladdu o'r golwg.

 

Llyn Ffridd y Bwlch. Llun -Paul W.

Tydi Llyn y Ffridd ddim yn lyn naturiol, ond yn un a gronnwyd rywbryd yng nghanol y ganrif diwethaf i roi dŵr i hen Chwarel y Welsh Slate fel y byddai'n cael ei galw, sef rhan isaf hen chwareli'r Oakeley. Ond ers sawl degawd bellach y mae o wedi dod yn rhan o'n hamgylchfyd, fel y mae rhai llynnoedd eraill a wnaed gan wahanol chwareli yn ystod oes aur y diwydiant llechi yn ein hardal. Rhai fel Llyn Newydd Dubach, Llyn Mawr Barlwyd, a Llyn Newydd Bowydd.

Roedd hi'n dda iawn cael cadarnhad, beth bynnag, nad oes gan y chwarel fwriad i'w gladdu o'r golwg.
- - - - - - - - - - - - - - -
 

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1998 (rhifyn 250!) yn rhan o gyfres y diweddar Emrys Evans.

Roedd yr isod wedi ymddangos yn gynharach, mewn erthygl ar dudalen flaen rhifyn Tachwedd 1997, dan y pennawd 'Tomen o Drafferth' yn datgan pryder am y cynlluniau i ymestyn tomennydd yr ardal.

 

* Gwelsom i gyd sut mae'r domen newydd o dan argae Llyn Ffridd wedi tyfu yn ddiweddar, a bwriad y cwmni yw tipio ar hyd glan pellaf y llyn... ac ar draws dwy nant gan eu cuddio am byth -Nant Iwerddon a Nant Jôb Elis- tuag at y ffordd fawr. Mi fydd y llyn i'w weld o'r ffordd o hyd ond mi fydd wedi ei amgylchynu ar dair ochr gan lechi, felly'n cael effaith amlwg ar gwm hyfryd sy'n boblogaidd gan bysgotwyr a cherddwyr...

 

5.4.19

Stolpia- pêl-droed a llyffaint

Parhau â chyfres Steffan ab Owain, am 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au'

Er bod tipio rwbel tros Domen Fawr Chwarel Oakeley yn digwydd yn ddyddiol yn ystod oriau gwaith yn yr 1950au, nid oedd hynny yn ein hatal ni rhag chwarae yn ei godre, yn enwedig yn ystod  gwyliau’r ysgol. 

Ar adegau, byddai meini go nobl yn treiglo i lawr y domen gyfan ar ôl tipio, ac os yr oeddem yn chwarae pêl-droed yn ei gwaelod, byddai’n rhaid cadw llygad barcud ar beth a fyddai’n digwydd uwchlaw er mwyn ei gwadnu hi os deuai carreg go fawr i’n cwfwr.  Byddai cae pêl-droed swyddogol yng ngodre’r domen ar un adeg, a gwn fod fy nhaid wedi bod yn chwarae yno ar droad y ganrif. 

Ceir cyfeiriad at un gêm yn y Rhiw yn y Cambrian News am fis Mai 1890 rhwng Blaenau Ffestiniog Athletics a Railway Rangers.  Tȋm Blaenau enillodd o 5 gôl i 2.  Beth bynnag, ni fedraf fod yn siŵr mai yn y rhan hon oedd y cae ychwaith.  Y mae hi’n rhyfedd gofio heddiw am rai o’r lleoedd y byddem ni’r hogiau yn diddanu ein gilydd yn y 50au, ac os nad oeddem ar waelod tomen, roeddem ar ei phen, a’r adeg honno nid oedd peryglon yn croesi ein meddyliau o gwbl.

Llun o gasgliad yr awdur
Cofiaf hefyd fel y byddai rhan go dda o’r tir yng ngodre’r domen yn wlyb iawn, ac yn y gwanwyn a diwedd haf byddai llawer o lyffaint yno.  Byddai’r plant lleiaf yn dal penbyliaid yno, ond yn gadael llonydd i’r llyffaint rhag ofn iddynt weld i du mewn eu ceg a throi eu dannedd yn bren.  Oedd, roedd hon yn hen goel gennym.  Tybed pwy sydd yn cofio hyn? 

Un tro, pan yr oeddem yn crwydro rhwng y meini mawr mewn lle gwlyb yng ngodre’r domen, gwelsom lyffant mawr iawn, tebyg i’r march-lyffant Americanaidd (American bullfrog).  Tybed faint o hogiau’r Rhiw a Glanypwll sy’n ei gofio? Byddai'r diweddar Ali, brawd Len Roberts (Groesffordd), yn cofio ei weld fel finnau, ac yn meddwl yn aml iawn beth a ddaeth ohono.  Yn sicr, ni welwyd un tebyg iddo yno byth wedyn.

Atgoffwyd fi yn ddiweddar gan Brei (Breio), Glandŵr, am y cathod annof, sef cathod dof wedi mynd yn wyllt.  Byddent yn llechu ymhlith y meini yng ngodre’r domen yn y 50au, ac fel y byddem yn cogio mynd i’w hela gyda’n picelli (sbiars), fel petaent yn llewod neu deigrod yn y gwyllt.  Sbiars coed wedi eu cael yn y domen wastraff yn y Felin Goed oeddynt fel rheol, ac wedi eu naddu’n big efo’n cyllyll poced.  Ond, cyn ichi ddweud y cnafon creulon yn gwneud y ffasiwn beth, ni dderbyniodd yr un ohonynt niwed gan eu bod yn gallu cuddio dan feini mawr a byddent allan o’n  cyrraedd.  Diolch i’r drefn.  Nid oes cof gennyf ba liw oedd y cathod nag o ble yr oeddynt wedi dod i wneud eu cartref yng ngwaelod y Domen Fawr.
------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2019.