8.3.24

Tad a Mab Disglair

Roedd G.J. Williams yn brifathro Ysgol Gynradd Glanypwll yn 1862, pan gyhoeddodd ei lyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf. Ond cyn dilyn cwrs yng Ngholeg Normal Bangor bu’n gweithio yn chwarel Llechwedd, ac roedd ganddo enw am fod yn ddaearegwr galluog. Yn 1891 derbyniodd gymhorthdal gan y Gymdeithas Ddaearegol at gyhoeddi ysgrifau ar fynyddoedd Manod a Moelwyn. 

Camwaith y tad
Doedd dim syndod felly iddo gael ei benodi’n ddirprwy i’r archwiliwr mwyngloddiau le Neve Foster, fel y dywed John William Jones yn y Bywgraffiadur Cymreig. Ond rhoddir 1895 fel blwyddyn y penodiad, ac erbyn hynny roedd le Neve Foster wedi gadael ei swydd. A oes camgymeriad yn y dyddiad, neu a fu iddo gael ei benodi gan olynydd le Neve Foster? 

Ganwyd Daniel, mab G.J. Williams, yn Ffestiniog yn 1894. Cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Prifysgol Cymru yn y ddinas, lle enillodd sawl ysgoloriaeth a graddio mewn mathemateg yn 1917 (cafodd aros yn y coleg yn ystod rhyfel 1914-18 oherwydd cyflwr bregus ei iechyd). Am ychydig bu’n astudio sefydlogrwydd awyrennau dan arweiniad ei gyn-bennaeth coleg ac arbenigwr arall yn y maes. Yna ymunodd ag Adran Aerodynameg y Labordy Ffisegol Gwladol yn Teddington, a dyna lle y bu am weddill ei yrfa. Ymgymerodd â gwaith damcaniaethol a thwnel-gwynt ar awyrlongau i ddechrau. Yna trodd at astudiaethau twnel-gwynt ar awyrennau.

Ond yn 1930 galwyd arno i newid ei ddyletswyddau. Yn y flwyddyn flaenorol adeiladwyd yr awyrlong R 101 dan nawdd y Weinyddiaeth Awyr i fod yr un gyntaf o ddwy a fyddai’n cynnal gwasanaeth teithio rhwng gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig. 

R 101, gwrthrych astudiaeth y mab (llun: yr Archifau Gwladol a Wikimedia Commons)
Hon oedd yr awyrlong fwyaf yn y byd ar y pryd – 731 troedfedd o hyd. Ar ôl ehediadau arbrofol ac addasiadau (gan gynnwys ymestyn ei hyd ac ychwanegu un bag hydrogen at y rhai oedd arni eisoes er mwyn cynyddu ei hysgafnder) aeth ar ei thaith dramor gyntaf ym mis Hydref 1930. Ond syrthiodd i’r ddaear yn Ffrainc gan ladd 48 o’r 54 ar ei bwrdd. Dyna un o drychinebau gwaethaf y degawd yn hanes awyrlongau, a rhoddwyd terfyn ar ddatblygiadau Prydain yn y maes. Ar gais cadeirydd y llys a sefydlwyd i ymchwilio i’r digwyddiad gofynnwyd i Williams gydweithio ar gyfrifiadau ar ehediad terfynol R 101. Derbyniodd ddiolchiadau gan y cadeirydd am ei waith.

Roedd yn aelod ffyddlon yng Nghapel Cynulleidfaol Kingston-on-Thames ac yn arbennig o weithgar gyda’r Ysgol Sul. Fe’i disgrifir fel aerodynamegydd yn y Bywgraffiadur Cymreig gan W. Dennis Wright, sy’n dweud i’w dad G.J. Williams fod yn archwiliwr mwyngloddiau yng ngogledd Cymru. 

Philip Lloyd

- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon