Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain
O edrych yn ôl ar rai o’r gaeafau caled a fu yng Nghymru a gweddill Prydain tros y canrifoedd gwelwn bod nifer ohonynt wedi bod yn eithriadol o oer. Yn wir, ceir cyfeiriadau at rai o’r Oesoedd Canol a chynt. Bu rhai caled iawn yn yn ystod y blynyddoedd 1536/37, a 1683/84, hefyd 1708/09, 1811 a 1816, a sawl blwyddyn arall.
A chanolbwyntio ar rai mwy diweddar, dyma ychydig o hanes gaeaf gerwin 1895, neu fel byddai’n nhaid yn ei alw ‘Yr Heth Fawr’. Erbyn yr wythnos olaf ym mis Ionawr y flwyddyn honno adroddid bod un chwarel heb weithio ers tua mis a rhai eraill ers tair wythnos oherwydd y tywydd gaeafol, ac erbyn yr ail wythnos ym mis Chwefror, roedd holl chwareli’r fro wedi eu hatal. Golyga hynny bod oddeutu 4,400 o chwarelwyr yn segur oherwydd y ‘smit’.
Nid yn unig yr oedd hi’n bwrw eira yn drwm yn ystod y dydd roedd yn rhewi’n galed yn y nos fel bod y nentydd yn blymen mewn llawer man. Roedd hi’n anodd cludo glo i lawer o dai gan fod y ffyrdd yn sglefr, neu wedi eu cloi gan eira, ac o ganlyniad, cyflogwyd dynion gan y Cyngor Dinesig i geisio eu clirio. Bu’n rhaid cau yr ysgolion drwy’r fro gan mai llond dwrn o blant a oedd wedi mentro cerdded drwy’r eira i fynd iddynt. Roedd yn rhewi mor ffyrnig fel ei bod yn anodd cael cyflenwad dŵr at wasanaeth y trigolion am fod y pibellau yn rhewi’n staenia.
Yn y storm eira hon y collodd Robert Roberts, Tyddyn Bach, Cwm Penmachno ei fywyd wrth groesi’r mynydd o dref Blaenau Ffestiniog i’w gartref, a byth er hynny, gelwid y tywydd trychinebus hwn yn ‘Heth Bob Roberts’. Ceid hanes un o ddefaid Stiniog wedi cerdded i mewn i dŷ o’r tywydd garw ac wedi rhoi ei dwy goes ar lin y ddynes yno er mwyn cael tamaid o fara.
Cofnodwyd y canlynol yn nyddiadur Richard Eames, goruchwyliwr Chwarel Cwm Orthin yn ystod mis Chwefror 1895: Trwch y rhew ar y llyn -23 modfedd. Dyfnder y llyn yn y fan y tyllwyd y rhew-5 troedfedd. Llefrith yn rhewi ar y bwrdd mewn rhyw chwarter awr o amser. Inc yn rhewi ar y llyfrau cyn eu sychu nes oeddynt fel briallu. Dau blyg o lechfaen orau yr Hen Lygad yn rhewi mewn diwrnod a noswaith fel na allwyd gwneud unrhyw fath o lechau ohonynt. Beth a ddigwyddodd yn hollt y llechfaen wrth rewi? Parhaodd yr heth am fis.
Yn ôl nodiadau Ioan Brothen yr oedd lluwchfa ar Garnedd Llywelyn ar 19 Mehefin 1895 yn 35 llath o hyd, 15 llath o led, a thua 10 troedfedd o drwch er y gwres mawr a wnaeth drwy Ebrill, Mai a Mehefin y flwyddyn honno.
Cychwynnodd y trên cyntaf o orsaf y GWR (Stesion Grêt) yn y Blaenau bore dydd Iau a chyrhaeddodd Trawsfynydd yn weddol ddiffwdan, ond rhwng yr orsaf honno a’r Arenig aeth yr injian i luwchfa ddofn o eira er i’r gyrrwr roi gwib i mewn iddi gan obeithio ei chwalu i’r ymylon. Methu’n lân fu ei hanes i ddod oddi yno a bu’n rhaid gadael y peiriant yn y fan a’r lle. Dywedir bod y lluwchfa oddeutu milltir o hyd ac wedi rhewi’n gorn, ac o ganlyniad, anfonwyd tros gant o ddynion yno i’w glirio ond roedd yn ddydd Llun arnynt cyn y gellid cael y lle’n glir i’r trên gael rhwydd hynt i deithio ymlaen.
Digwyddodd i’r trên fynd i drafferth mewn lluwchfa fawr y tu uchaf i Gwm Prysor yn ystod gaeaf 1947 hefyd, a phrin y gellid gweld corn yr injian ar ôl iddi hi dreiddio i mewn i’r holl eira. Dyma un o’r lluniau a dynnwyd ohoni ar yr achlysur bythgofiadwy hwnnw.
- - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2023
> Ail Ran
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon