2.2.18

Gwynfyd -Chwyn

Erthygl o'r archif: pennod o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro. 

Planhigion gwyllt yn tyfu lle nad oes eu heisiau. Dyma sut  mae’r Geiriadur Mawr yn disgrifio CHWYN. Rwan, tydw i erioed wedi bod yn arddwr ac felly tydw i ddim yn deall yr obsesiwn efo chwynnu. Ac yn y geiriadur hefyd, ar gyfer CHWYNNU, ceir ‘glanhau’, sy’n ategu’r farn gyffredinol mai pla neu niwsans ydi chwyn.


Efallai imi gynnig yr un egwyddor yn y golofn hon am adar fel yr aderyn to, ond meddyliwch, ystyriwch am funud petai dant y llew yn brin; mi fyddai botanegwyr yn ei drysori a phawb yn rhyfeddu at y pen hyfryd o betalau melyn llachar. Byddai plant y wlad ddim wedi ei alw’n flodyn pi-pi yn gwely ers dechrau hanes, nac ychwaith yn dweud yr amser trwy chwythu’r hadau pluog oddi ar y goes. Mi fyddai’n anghyfreithiol hel y dail er mwyn eu hychwanegu i salad, ag i hel y gwreiddiau i wneud ‘coffi’ neu  foddion.

Mewn ffaith mae hanes y blodyn yma yn ddigon difyr gyda dros 200 o is-rywogaethau wedi eu cofnodi ym Mhrydain, a phob un yn debyg iawn i’w gilydd!

Un mantais fod pawb yn gwybod am fy niddordeb i mewn natur ydi’r rhwydd hynt dwi’n gael i esgeuluso’r ardd acw trwy hawlio ei fod o fwy o fudd i natur os yn wyllt a blêr! Tydi gerddi taclus, trefnus, sydd yn apelio i’r llygad, ddim bob tro yn dda i fywyd gwyllt ‘da chi’n gweld!!

Mi fyddai gwylwyr rhaglenni garddio S4C yn twt-twtian o weld y fath olwg sydd ar y tocyn pitw o ddrysni sydd wrth ddrws y ty ‘cw, ond hyd yma eleni bu 17 gwahanol aderyn yno gan gynnwys y pila bach sydd yn bwyta hadau dant y llew a phoeri plu y parasiwt wrth fynd atynt. Mae llwyd y gwrych yn nythu yma fel rheol yn y mieri a’r neidr ddefaid i’w weld ar ddiwrnod poeth yn torheulo ar y twmpath canghenau; felly hefyd sawl math o iar bach yr haf a phryfed eraill.


Mae’n anhebygol felly y gwelwch fi yn torri ‘nghefn yn chwynnu, tocio a phalu er mwyn meithrin blodau estron (sydd wedi gorffen am byth ar ôl deuddydd), heb son am ddefnyddio cemegau i ymwared â bywyd gwyllt naturiol yr ardal, ond, pawb at y peth y bo, ynde.

I mi nid oes gwella ar natur. Wrth wneud arolwg adar ym mis Ebrill ar un o warchodfeydd yr ardal gwelais y blodyn brydferthaf imi ei weld erioed, trilliw y twyni. O deulu’r blodyn yma y datblygwyd rhai o’r pansis addurnol i’r ardd, ac fel yr awgryma ei enw, mae i’r blodau dri lliw, piws, melyn a gwyn, ond yno ‘roedd tuswau melyn a phiws pur yn ogystal a’r ffurfiau amryliw hardd, a thuswau yn cynnwys un neu ddau o bob math. Yno, ‘roedd yn ei gynefin ac yn chwarae rhan pwysig yn yr ecoleg, mewn gardd, byddai’n ddiffrwyth ac annaturiol.
------------------------------------------------

Erthygl gan Paul Williams, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1997. 
Lluniau PW.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon