Showing posts with label Ap Alun Mabon. Show all posts
Showing posts with label Ap Alun Mabon. Show all posts

16.12.20

Rhod y Rhigymwr -Beirdd y Bore

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Wrth fwrw golwg drwy fy silffoedd llyfrau’r diwrnod o’r blaen, a cheisio penderfynu be oedd i fynd i’r bocs ailgylchu neu peidio, dyma ddod o hyd i gyfrol fechan gan Dafydd Owen, a gyhoeddwyd ym 1945… ‘Beirdd y Bore’.  Ynddi, ceir astudiaeth fer o un-ar-bymtheg o feirdd Cymreig fu farw’n ifanc. Mae’n cynnwys enwau cyfarwydd fel Ann Griffiths, Dolwar Fach, Hedd Wyn a Ieuan Gwynedd … y gŵr o gyffiniau’r Brithdir a Rhydymain y coffawyd dwy ganrif ei eni’n ddiweddar. Mae enwau eraill llai cyfarwydd – dau ohonynt efo cysylltiad â dalgylch Llafar Bro.

Y cyntaf o’r rhain ydy IOAN TWROG [1837-51]

...bachgen oedd yn eithriad hyd yn oed ymhlith beirdd ieuainc.’  Pan oeddwn yn astudio llenyddiaeth Saesneg yn Ysgol Tywyn ers talwm, deuthum ar draws beirdd athrylithgar o’r wlad honno a fu farw’n ifanc … y ‘Beirdd Rhamantaidd’ Percy Bysshe Shelley [1792-1822] a John Keats [1795-1821], yn 29 a 25 oed, ond mae clywed am fachgen ifanc o Ddyffryn Maentwrog a allai ysgrifennu ‘marwnadau, englynion, darlith a chân i’r milflwyddiant cyn bod yn ddeuddeg oed’ yn rhywbeth anhygoel.

Maentwrog gan Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0 trwy Wikimedia Commons

Pregethwr efo’r Bedyddwyr Albanaidd oedd tad ‘Ioan’ … William Roberts, Maentwrog. Roedd brawd i’w fam – John Roberts, ‘Siôn Twrog’ yn fardd pur adnabyddus yn yr oes honno. Dysg oedd popeth i ‘John Bach’. Yn bedair oed, gallai ddarllen yn rhugl, a dywedir y byddai yn ‘pregethu’ i’w gyfoedion yn bump oed. Cafodd addysg yn gynnar, ac erbyn cyrraedd naw oed, dechreuodd gyfansoddi ei doreth barddoniaeth, cyfieithiadau, traethodau a phregethau.

Anfonodd bryddest – ‘Y Morwr’ ac englyn – ‘Castell Harlech’ i Eisteddfod Madog ym 1851, a dywedid mai’r englyn hwnnw a fuasai’n fuddugol ‘pe bai wedi cyrraedd mewn pryd’:

Ei fawredd ddengys ei furiau, - cadarn
Y codwyd ei dyrau
A’i lydan adeiladau –
O dan hwn, gwêl donnau’n gwau.

Cafodd ei urddo’n yr eisteddfod honno â’r enw ‘Ioan Twrog’, ond ymhen mis wedi hynny, clywyd ei fod yn wael iawn. Bu farw ar 19 Rhagfyr 1851 … yn 14 oed.

Yn nes at ein dyddiau ni, cafwyd Richard Jones, a adwaenid dan yr enw barddol AP ALUN MABON [1903-40]. 

Fe’i ganwyd ym Mryn-tirion, Glan-y-pwll, a’i addysgu yn ysgolion Glan-y-pwll a Phen-sarn, Amlwch. Yno ym Môn, gyda’i ewyrth, y dechreuodd farddoni. Gwnaeth enw iddo ei hun drwy gipio gwobr am draethawd ar Forgan Llwyd o Wynedd.

Dychwelodd i’w hen ardal yn ŵr ifanc pwyllog a rhadlon, gan ymhyfrydu yn y gelfyddyd o drin geiriau. Aeth i weithio i’r chwarel, ond fel nifer o’i gyfoedion, aeth llwch y garreg i’w ysgyfaint a thorrodd ei iechyd i lawr cyn ei fod yn ddeg-ar-hugain oed. Treuliodd amser hir yn ysbytai Machynlleth a Thalgarth, ond gwyddai nad oedd gwella i fod. Nid rhyfedd felly mai cerddi cystudd a digalondid oedd y rhan fwyaf o’i gyfansoddiadau. Ond yr oedd yn ffrind i’r ardal, a chanodd lawer englyn a thelyneg ar ôl ei gyfeillion. Cysurodd lawer ar eraill, ond prin oedd ei gysur ef. Er hynny, ni chollodd ffydd mewn daioni a chyfeillgarwch.

Ugain oed oedd pan enillodd ei gadair eisteddfodol gyntaf. Roedd wrth ei fodd efo Awdl ‘Yr Haf’ a gweithiau R. Williams Parry, a hoffodd yn fawr weithiau Crwys, Eifion Wyn a Hedd Wyn. Ceisiodd godi ei galon ar waethaf pob cystudd, a gobeithio yn erbyn gobaith:-

Ond er i mi gael fy nghaethiwo fel hyn
Rhwng muriau f’ystafell yn glaf,
Rwy’n disgwyl ca’i wella a mynd am dro
I’r meysydd cyn diwedd yr haf.

Ac fel’na rwy’n byw – rhyw gysuro fy hun
Y daw pethau’n well yn eu tro;
Mae’r dyfodol yn dywyll, mae’n wir, ‘rhen Ddei,
Ond mae gen i ffydd ynddo Fo.

Bu farw’n 37 oed, ar ddydd cadoediad, 1940 a’i gladdu ym Mynwent Bethesda. Cyhoeddwyd cyfrol goffa iddo, wedi ei dethol a’i golygu gan J. W. Jones ym 1941 – ‘Gwrid y Machlud’.

Gyda bygythiad y Gofid yn parhau o fewn y tir, byw mewn gobaith wnawn ninnau y cawn ryddid yn fuan o gaethiwed y clo.

IM
-------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2020

 

 

22.2.17

Stolpia -Cadair Eisteddfod eto

Rhan o golofn reolaidd Steffan ab Owain.

Derbyniais nodyn oddi wrth Geraint V Jones beth amser yn ȏl parthed cadair eisteddfod a welsai Elfyn ei fab ymysg deunydd ail law yng Nghricieth.


Holodd a oedd gennyf ryw gofnod neu bwt o’i hanes. Wel, dyma beth fedrais ei ganfod ar ȏl chwilota tipyn-

Cadair Eisteddfod Gadeiriol Annibynwyr y cylch yw hon a gynhaliwyd Nadolig 1930. Byddid yn cynnal nifer o eisteddfodau ogylch y Nadolig yn y blynyddoedd a fu.

Beth bynnag, yn ȏl y rheolau roedd y gystadleuaeth am y gadair hon yn gofyn am ddarnau o farddoniaeth heb fod tros 100 llinell o hyd a cheid dewis i gyfansoddi naill ai telyneg ar y testun ‘Llech Ronwy’, neu soned ar y testun ‘Llyn y Morwynion’ neu gywydd ar y testun ‘Blodeuwedd’.

Roedd y gadair yn werth £3.3.0. (sef £3.15c yn arian heddiw).

Y bardd buddugol oedd Richard Alun Jones (Ap Alun Mabon), Rhiwbryfdir, ac yn ȏl y beirniaid roedd y bardd ifanc yn haeddu canmoliaeth uchel am ei waith.

Credaf mai ar y soned ‘Llyn Morwynion’ y bu’n fuddugol gan iddi gael ei chyhoeddi yn ei gyfrol Gwrid y Machlud tua 10 mlynedd yn ddiweddarach. Cynhaliwyd seremoni y cadeirio dan ofal y Parch. James Jones a chyfarchwyd y buddugwr gan nifer o feirdd y fro.


----------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


28.12.16

Y Chwarelwr

Yn 2005 dadorchuddiwyd plac yn Ngheudyllau Llechi Llechwedd i gofnodi lleoliad ffilmio ‘Y Chwarelwr’.

Wedi araith afaelgar dadorchuddiwyd y plac gan Mr Prys Edwards, mab y diweddar Ifan ab Owen Edwards. Cafwyd sgwrs hynod o ddiddorol am y ffilm a’i harwyddocâd i ni heddiw gan Gwenno Ffrancon, darlithydd yn Adran y Cyfryngau, Coleg y Brifysgol Abertawe:

Y Chwarelwr:  Llechwedd 2/9/05
Heb os nac oni bai, Y Chwarelwr yw un o brif drysorau ffilm Cymru.  Dyma’r ffilm Gymraeg ei hiaith gyntaf erioed.  Penseiri’r ffilm oedd Ifan ab Owen Edwards – un o brif gymwynaswyr Cymru, a John Ellis Williams – nofelydd, newyddiadurwr a dramodydd.  Aeth y ddau yma ati yn ystod Ebrill 1935 gyda rhai o drigolion Stiniog i ffilmio bywyd a gwaith chwarelwr nodweddiadol – saithdeg mlynedd yn ôl, cofiwch.


Un o brif amcanion Syr Ifan a J.E. wrth lunio Y Chwarelwr oedd tynnu sylw at ganlyniadau enbydus llu o ffactorau ar yr iaith a’r diwylliant Cymraeg; ffactorau a oedd yn cynnwys y diwydiant twristiaeth, y wasg a’r cyfryngau a chynnydd yn y defnydd o fysiau, trenau a cheir. 

Roedd yn fwriad gan y ddau hefyd i geisio diogelu peth o’r hyn a oedd yn weddill o’r etifeddiaeth Gymreig ar ffilm. 

Disgrifiodd Syr Ifan eu hamcanion fel hyn yn Y Cymro:

"Rhan o’n hymdrech i (gadw Cymru) yn wir Gymreig yw’r ymdrech hon, yn wyneb anawsterau enbyd, i greu darluniau llafar Cymraeg, canys gwyddom yn bendant, heb os yn ein credo, mai ein dyletswydd fel byd-ddinasyddion ydyw cadw Cymru yn bur ei delfrydau yn yr argyfwng enbyd y mae’r byd ynddo".

Roedd Syr Ifan, cyfarwyddwr a dyn camera Y Chwarelwr, wedi hen arfer creu ffilmiau erbyn 1935 gan ei fod ers rhai blynyddoedd wedi bod yn ffilmio rhai o ddigwyddiadau Urdd Gobaith Cymru, er enghraifft y mordeithiau, y mabolgampau a’r eisteddfodau.  Ond erbyn 1935, roedd y gŵr blaengar ac anturus hwn yn torri’i fol isho cael mentro i fyd y talkies, gan fynd ati i sirioli rhyw gymaint ar fywyd y Cymry Cymraeg trwy lunio adloniant ar eu cyfer yn eu hiaith eu hunain.  Meddai yn y Western Mail ym 1935:  ‘In its attempt to help the Welsh language to counter the innumerable difficulties which it has to meet in a modern world the Urdd has adopted modern methods.’

Mae stori’r ffilm, yn syml iawn, yn cylchdroi o gwmpas cyfnod tyngedfennol yn hanes un teulu chwarelyddol, sef tad a mam, Wil y mab hynaf, Robin y mab ieuengaf ac un ferch, Nesta.  Mae bywyd dyddiol y teulu yn cael ei ddarlunio – y tad yn greigiwr tanddaear yn y chwarel, y mab hynaf yn naddwr, y fam yn wraig tŷ bodlon ei byd, a’r ddau blentyn arall yn ddisgyblion ysgol. 

Ond yna mae dedwyddwch a sicrwydd y teulu yn cael ei ddinistrio wrth i’r tad farw’n sydyn gan daflu’r teulu i stad o ansefydlogrwydd a gofid.  Daw’r ffilm i ben gyda’r ddau fab yn aberthu eu dyfodol er mwyn cynnal ei fam a’i chwaer, ac mae Robin yn gadael yr Ysgol Ganol ac yn dechrau gweithio yn y chwarel er mwyn i’w chwaer iau, sy’n ddisgybl disglair iawn, allu cwblhau ei haddysg.

Roedd hon yn stori ddigon credadwy i drigolion yr ardaloedd chwarelyddol ar y pryd; fel y gwyddoch chi, dwi’n siŵr, roedd cael plentyn, chwaer neu frawd galluog yn destun balchder mawr ymhlith teuluoedd, ac roedd disgwyl i aelodau eraill y teulu aberthu er mwyn iddo ef neu hi ddod ymlaen yn y byd. 

Roedd John Ellis Williams, awdur y sgript, wedi taro ar stori a oedd yn sicr o apelio at gynulleidfaoedd – stori afaelgar ac iddi arwyr, elfen o serch, trasiedi ac aberth.  At hynny, roedd y ffilm yn ymdrechu i lunio darlun gonest o fywyd chwarelwr o Gymro yn y cyfnod hwnnw, darlun y gallai llawer uniaethu ag ef. 

Darlunio bywyd y chwarelwr yr oedd J.E. a Syr Ifan yn gwybod amdano a wnaeth y ddau, gan ddangos uwchlaw pob dim ymlyniad y chwarelwr nodweddiadol wrth ei deulu, ei addysg, ei gapel, ei grefft, ei ddiwylliant a’i fro.

Milltir sgwâr J.E. ar y pryd a ddewiswyd fel lleoliad ar gyfer y ffilmio sef Blaenau Ffestiniog ac aelodau o’i gwmni drama annibynnol ef a gastiwyd ym mhrif rannau’r ffilm.  O ganlyniad, fe welwch chi yn amlwg yn y ffilm nifer o gymeriadau lleol Stiniog; unigolion fel Robert Jones, chwarelwr yma yn chwarel Llechwedd, yn chwarae rhan y tad a Mrs R. A. Jones yn chwarae rhan y fam.  William David Jones a weithiai yn Chwarel Maenofferen oedd yn rhan Wil, y mab hynaf; David Owen Jones, plentyn amddifad un ar bymtheg mlwydd oed a weithiai yn Chwarel Oakeley, fel Robin; a Haf Gwilym, merch John Ellis Williams ei hun a ddewiswyd i chwarae rhan Nesta y ferch, gyda’i labrador du, Siani, i chwarae rhan y ci! 

Ceir cipolwg hefyd yn y ffilm ar rai o gymeriadau blaenllaw’r ardal, gan gynnwys Ap Alun Mabon, bardd adnabyddus, ac Owen Hughes, argraffydd yn y dref, y ddau yn ymddangos yng ngolygfa Eisteddfod Caban Bwyta’r chwarel.

Ond erbyn heddiw, prif swyn Y Chwarelwr yn ddi-os, yw’r darluniau o’r chwarelwyr yn ‘cowjio bywoliaeth’ o’r mynyddoedd creithiog.  Mae’n nhw’n ddarluniau cwbl cyfareddol, sy’n dogfennu, efallai’n ddiarwybod i’r ddau gynhyrchydd ar y pryd, arferiad sydd wedi hen beidio mwyach.  Ymhlith y golygfeydd hyn mae ‘na olygfa o ddynion yn cael eu gollwng gan fws yn yr Adwy Goch yn Stiniog cyn iddyn nhw ymuno â’u cydweithwyr sy’n cerdded i gyfeiriad y chwarel.

Mae sawl hen gludydd gwaith yn cael ei gofnodi hefyd yn y ffilm, er enghraifft y trwnc a oedd yn cludo dynion a cheffylau i waelod ogof danddaearol Chwarel Oakeley.  Dau gludydd arall a anfarwolwyd yn y ffilm yw’r locomotif ‘kidbrooke’ a oedd hefyd yn chwarel Oakeley, a’r car gwyllt a wibiai’n arswydus o gyflym ar hyd llethrau chwarel y Graig Ddu. 

Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonoch chi, darn cul o bren ac olwynion bychain arno oedd y car gwyllt ac fe’i crewyd gyda’r bwriad o arbed y chwarelwyr rhag taith gerdded hir i lawr o ben y mynydd.  Ond dim ond brêc simsan iawn oedd yn cadw unrhyw chwarelwr a gâi bas ar ei gefn rhag mynd ar ei ben i fedd cynnar!  Ond yn ogystal â chynnwys darluniau o waith caled a pheryglus y chwarelwr, mae’r ffilm yn rhoi sylw i’r gymdeithas glos a diwylliedig a oedd yn bodoli ymysg y chwarelwyr, ac yn bennaf eu harfer o gynnal eisteddfod yn y caban bwyta.

Y mae Y Chwarelwr yn garreg filltir arbennig iawn yn hanes ffilm Cymru ac yn drysor unigryw yng nghasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.  Wrth gloi fe hoffwn i ddiolch i’r Archif am fwrw ati i adfer y ffilm hon fel y gall fod, yn ôl dymuniad y creuwyr, yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o sgriptwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr ffilmiau Cymraeg. 

Gan obeithio, hefyd, y down ni o hyd i’r rîl olaf sy’n parhau ar goll!  Ond heddiw, wrth gwrs, y mae ein diolch i Chwarel y Llechwedd a Chomisiwn Sgrin Cymru am sicrhau body yma gofeb weladwy i’r gymwynas fawr hon a wnaed â’r genedl gan Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams.

Gwenno Ffrancon.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2005

 MWY am hanes y ffilm.

20.9.16

Bwrw Golwg a Lloffion

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, detholiad o erthyglau gan Clifford Jones, ac W.Arvon Roberts.

Richard Jones. Ap Alun Mabon.
Clifford Jones. 
 
Ganwyd Richard Jones ym Mryntirion, Glanypwll, Blaenau Ffestiniog yn 1903, yn fab i Alun Mabon Jones. O’i ddyddiau cynnar dioddefodd o iechyd bregus iawn. Gyda’i ddiddordeb yn y gynghanedd enillodd lawer o gadeiriau trwy ledled Cymru.

Roedd yn frawd yng nghyfraith i fy mam, felly yncl Dic oedd o i mi. Bu farw ym 1940 pan oedd ond 37 mlwydd oed a minnau o ddeutu dwy flwydd a hanner pryd hynny. Mae gennyf gof plentyn o eistedd ar ei lin wrth ffenestr y tŷ ac edrych allan pan oedd yn fy ngwarchod, ac yn canu ‘Gee ceffyl bach yn cario ni’n dau’. Cof pleserus iawn.

Mae rhywfaint o’i farddoniaeth i’w gweld yn ei gyfrol goffa, sef Gwrid a Machlud (1941).
Ap Alun Mabon.
Drwy ei boenus oes drybini – y bedd
Aeth a’i boen a’i dewi;
O’i hael fro fe hawli fri
Un cawr ymysg ein cewri.
--------------------------

LLOFFION FFESTINIOG
W. Arvon Roberts.

1776
Dywedir i ffarmwr yng nghymdogaeth Ffestiniog farw yn 1766, yn 105 oed, yr hwn o’i wraig gyntaf, a gafodd 30 o blant; o’i ail wraig 10; ac o ddwy ddynes arall y bu’n godinebu â hwy, 7 o blant. Roedd ei fab hynaf  81 mlynedd yn hŷn na’r plentyn ieuengaf.

Roedd 800 o’i hiliogaeth yn bresennol yn ei angladd. Gofynnai un o’r enw John E. Jones, Penybont, yn yr adran Ymholiadau, yn y cylchgrawn ‘Golud yr Oes’, yn y flwyddyn 1889, am enw yr hen ffarmwr, ac enw’r ffarm roedd yn byw ynddo, ynghŷd ac unrhyw fanyion pellach. Yn anffodus, er chwilio a phori sawl cyfrol o’r cylchgrawn hwnnw, ni chafwyd unhryw ateb gan neb.

1843
Dydd Gwener, Mawrth 24, fel yr oedd Robert Roberts, Dolau Dywenydd, yn tywallt pylor i’r graig yng ngwaith llechi Samuel Holland, ger Ffestiniog, cydiodd y pylor dân rhywsut nas gwyddai neb yn iawn sut, nes chwythwyd ef i fyny amryw lathenni i ffwrdd, a disgynnodd yn ôl ar ei ben ar y graig, a bu farw yn y fan. Roedd yn aelod gyda’r Methodistiaid ym Metws y Coed; ac ystyrid ef bob amser yn addurn i’w broffes, yn siriol a difyr ei gyfeillach, ac yn gerddor rhagorol.
---------------------------------------

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.