2.12.20

Tŷ Hynafol, Pwerdy a Thrên Bach Port

Erthygl gan Philip Lloyd

Tynnais y llun o drên ar Reilffordd Ffestiniog yn cyrraedd yr arhosfan anghysbell ger tŷ hynafol Y Dduallt yn 1979. ‘Linda’, un o’r ddwy injan a ddaeth o Chwarel Y Penrhyn sy’n tynnu’r cerbydau. ‘Blanche’ yw’r llall. Fe’u hadeiladwyd yn 1893 ac maen nhw’n dal ar waith.


Enw’r arhosfan yw ‘Campbell’s Platform’ gan mai’r Cyrnol Andrew Campbell, cyn-filwr a chyfreithiwr gyda hen Gyngor Sir Feirionnydd, oedd perchennog Y Dduallt ar y pryd. Roedd ganddo gerbyd petrol a chaniatâd i’w yrru i lawr y lein i Danybwlch, lle y cadwai ei VW i gwblhau’r daith i’w swyddfa yn Nolgellau. Mae’r trenau’n mynd heibio i’r arhosfan heb aros heddiw fel arfer, gan mai trigolion Y Dduallt a’u hymwelwyr yn unig sy’n cael ei ddefnyddio.


Roedd yr ymgyrch dros adfer y rheilffordd ar ôl cyfnod segur rhyfel 1939-1945 wedi dechrau yn gynnar yn y 1950au. Adroddodd rhifyn Ebrill 11, 1952 o’r Cymro ar gais Cymdeithas Rheilffordd Ffestiniog am gefnogaeth Cyngor Dinesig Ffestiniog i’w hymdrechion. Mynegodd y cynghorwyr eu parodrwydd ‘i nawddogi unrhyw ymdrech i ail-agor y lein bach hyd ar y Dduallt’, gan farnu ‘bod y cynlluniau trydan-dŵr yn golygu na ellid edfryd y lein bach o’r Dduallt i fyny’. Byddai cronfa ddŵr isaf y pwerdy arfaethedig (Llyn Ystradau erbyn hyn) yn boddi rhan ohoni ger Tanygrisiau. 



Agorwyd llai na milltir o’r rheilffordd ar hyd y Cob yn haf 1955, ac roeddwn i ymhlith y rhai a fu’n mwynhau’r daith o Borthmadog i Boston Lodge. Y bwriad oedd adfer y 13½ milltir rhwng Port a’r Blaenau erbyn 1962. Ond achosodd y gwaith o adeiladu’r pwerdy ugain mlynedd o oedi, a dyfarnodd tribiwnlys tir £65,000 o iawndal i gwmni’r rheilffordd oddi wrth y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog yn 1971. Tynnais y llun o’r pwerdy ar draws Llyn Ystradau, gyda chronfa uchaf Llyn Stwlan yng nghesail y mynydd, yn 1964 yn fuan ar ôl iddo agor.


Flwyddyn cyn imi dynnu’r llun yn yr arhosfan ger Y Dduallt, ail-agorwyd y lein hyd at Danygrisiau ar ôl ei chodi uwchlaw Llyn Ystradau gan y dargyfeiriad troellog, y twnel a’r llwybr newydd y tu ôl i’r pwerdy a welir ar ran orllewinol map o waith y diweddar Michael Seymour, athro ieithoedd modern ac archifydd cyntaf cymdeithas y rheilffordd. Heblaw’r dargyfeiriad, y twnel a’r llwybr newydd, mae’r map yn dangos y lein fel y bu hi cyn ei boddi gan Lyn Ystradau a sawl nodwedd cynharach. 


Wrth gynnwys llun o hen orsaf Glanypwll yn rhifyn Gorffennaf o Llafar Bro, soniais am fy nghysylltiadau teuluol â Phenrhyndeudraeth. Terfynaf drwy nodi mai yn Y Dduallt y ganwyd fy hen daid, David Lloyd, yn 1830. Ond pwysleisiaf nad ei ddisgynyddion ef oedd y Llwydiaid a ddisgrifiwyd gan G.J. Williams yn ei Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf (1882) fel hyn: ‘[aethant] i gyfreithio, a dywedir iddynt golli, nid yn unig y Dduallt, ond eu holl eiddo’.


O.N. ‘Strydoedd di-enw’ oedd pennawd adroddiad Y Cymro yn Ebrill 1952. Cyfeiriai at drafodaeth Pwyllgor Iechyd a Ffyrdd y cyngor ar y priodoldeb o osod arwyddion dwyieithog ar strydoedd y Blaenau. Barn Mr. J. D. Roberts oedd ‘bod Stiniog yn wahanol i bobman arall yn hyn o beth, ac yr oedd dieithriaid yn gorfod holi a stilio wrth chwilio o gwmpas am strydoedd arbennig’. Penderfynwyd ‘i wneud ymholiadau am gost 12 o arwyddion’.
-----------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2020

Capsiynau i’r lluniau a’r map  
Campbell’s Platform, 1979

Pwerdy Tanygrisiau, 1964

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon