29.12.20

Edrych ‘nôl ac edrych ‘mlaen

Be’ yda’ chi’n gofio am 1975? Os dwi’n onest, tydw i’n cofio fawr ddim! Saith oed oeddwn i, ond mae albym gadwodd fy rhieni yn nodi fy mod yn nosbarth 2 (‘standard tŵ’) Ysgol y Bechgyn, Maenofferen, ac wedi cyrraedd union 4 troedfedd o daldra! Mae’n debyg fod gen’ i ddannedd sâl ar y naw, ac mi ges i gyfres o 6 pigiad at asthma... Mae’n amlwg mae ddim isio cofio ydw i!

Yng Nghymru, roedd Gerallt Lloyd Owen wedi ennill cadair Steddfod Cricieth, T.Llew Jones wedi cyhoeddi ‘Tân ar y Comin’ ac Edward H. Dafis wedi rhyddhau eu hail albym ‘Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw’. Y flwyddyn honno hefyd, pleidleisiodd pobl Prydain mewn reffarendwm yn llethol o blaid aros yn y Farchnad Gyffredin Ewropeaidd; daeth Pol Pot a’r gyfundrefn greulon Khmer Rouge i rym yng Nghambodia; a bu farw’r unben Franco yn Sbaen.
 

Roedd yna fwrlwm yng Nghymru ganol y saithdegau hefyd, gyda  sefydlu nifer o bapurau bro, ac ar frig y don honno, cyhoeddwyd Llafar Bro am y tro cyntaf erioed ym mis Hydref 1975. Efo rhifyn Rhagfyr 2020, mae papur misol Bro Ffestiniog wedi cyrraedd carreg filltir nodedig iawn.
 

Roedden ni’n benderfynol o nodi’r llwyddiant yma mewn ffordd uchelgeisiol, a dyna pam ein bod wedi dosbarthu copi am ddim i bob cartref yn y fro. Gwnaed hyn yn bosib gan gyfraniadau hael gan Gwmni Bro Ffestiniog a’r Dref Werdd, a grant Hwb Cymunedol  ar gyfer ymateb i effeithiau Covid. Mi fyddai wedi bod yn amhosib dosbarthu’r papurau i dair mil a hanner o dai, heb ymdrech anghygoel staff y Dref Werdd fu’n cydlynnu criw brwd o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser i’r cynllun.
 

Mae llawer o bethau’r saithdegau wedi diflannu (mae gen’ i ddannedd go lew rwan, diolch am holi) neu wedi mynd yn angof, ond mae Llafar Bro yma o hyd. Gobeithio y cytunwch fod ein papur cymunedol  yn edrych yn well wrth fynd yn hŷn, a’i fod yn parhau i ddarparu erthyglau diddorol a newyddion o bwys i bobol wych Bro Ffestiniog!
 

Diolch enfawr i’r gwirfoddolwyr sydd wedi dod a Llafar Bro i’r byd 500 o weithiau ers 1975, a diolch hefyd –ymlaen llaw- i’r gwirfoddolwyr ddaw a’r 500 nesa’ atom. Pwy a ŵyr nad oes yn eich tŷ chi, blentyn neu berson ifanc, sydd a’i fryd ar ddim byd ond y ffôn symudol a ffilmiau TicToc heddiw, ond a fydd efallai, yn y dyfodol yn sgwennu darn fel hwn ar gyfer y milfed rhifyn!  

 

Mwynhewch Llafar Bro am ddim y mis yma, ond cofiwch os medrwch, gyfeillion, brynu rhifyn Ionawr a phob mis wedyn,  a gyrru newyddion a lluniau i mewn trwy’r flwyddyn hefyd, er mwyn cyfrannu at ddyfodol eich papur bro chi. 

Diolch bawb.
Paul, cadeirydd Cymdeithas Llafar Bro.
 

(Gyda llaw, mi fydd ychydig gopïau ar gael yn y siopau os hoffech brynu ail gopi, ac os gwyddoch am dyddyn diarffordd neu rywun sydd heb dderbyn eu copi nhw, cynghorwch nhw i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.)
----------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2020



1 comment:

  1. Diolch yn fawr iti Paul am dy frwdfrydedd ynglýn á'r rhifyun arbennig. Trueni fod y cyfyngiadau Govid wedi effeithio ar gyhoeddi Llafar Bro unwaith eto. Ond gobeithio y daw gwell lwc yn fuan. Mae'r criw dyfal sy'n ymwneud á'r papur bro yn haeddu gwell. Y sawl sy'n darllen hwn, mwynhewch y copi digidol, a gwnewch eich gorau i hybu gwerthiant y papur yn y dyfodol.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon