23.1.14

Crwydro Carreg yr Ogof

Dyma'r golofn gynta' o gyfres o erthyglau a ymddangosodd dro'n ol yn Llafar Bro, gan Keith O'Brien, yn tywys y darllenwyr o amgylch ei hoff lecyn, ym mhlwyf Trawsfynydd.

Ydych chi'n cofio y gallwch weld ol-rifynnau o Llafar Bro yn llyfrgell y Blaenau? O'r rhifyn cyntaf un maen nhw wedi eu rhwymo'n daclus ac wedi eu cadw at ddefnydd trigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt. Gallwch ddilyn pob un o erthyglau Crwydro Carreg yr Ogof, a llawer, llawer mwy!


CALON YN Y GRAIG
 



Ar hirddydd haf ni cheir un man gwell i wylio’r haul yn machlud na Charreg yr Ogof, Traws, gyda’r bel fawr oren yn suddo’n ara’ deg tu cefn i Foel Hebog, a hwnnw, fel petai yn arbed iddo foddi yn nyfnder dwr y llyn tua chyffiniau Pandy’r Ddwyryd.
 
Llun o gyfri' Flickr Keith
Tybed sawl gwaith bu i John Owen syllu ar yr un ddefod brydferth naturiol hon, sydd wedi ei hail chwarae yn gyson pob dydd ers cyn cof, cyn i’r diciâu ddyfod a’i gymryd ymaith yn ddyn cymharol ifanc. Brawd i’m hen-daid, Robert Owen, gof y pentre’, oedd John, a gwelir ei enw wedi ei gerfio yn yr ithfaen ar ben deheuol Carreg yr Ogof, neu Garragrogo ar lafar gwlad. Mae’n debyg i’w salwch olygu na fedrai weithio, ac o ganlyniad cafodd amser i ffurfio calon yn y graig gyda’r geiriau J. OWEN a’r flwyddyn 1898 wedi eu nodi yn daclus yng nghanol y galon.


Wrth gwrs, machlud tra gwahanol byddai ef wedi tystio yn ei amser, gan nad oedd llyn yng Nghwm Coed Rhygen yn 1898. Y Gors Goch, fel y gelwid, oedd yr olygfa o ben y graig adeg honno. 

Yno byddai’r pentrefwyr yn cyrchu i gynaeafu mawn ar gyfer cynhesu eu tai. Hawdd byddai dechrau trafod y gorchwyl difyr yma, hefyd y llyn a’r ffermydd oddi tano - ond rhaid gwrthsefyll y demtasiwn; traethawd am Garreg yr Ogof a’i gysylltiadau yw hwn - nid y llyn fel y cyfryw. Serch hynny, ni ellir ei osgoi yn gyfan gwbl. Gyda dyfodiad y llyn yn 1926, bu i Gweno, chwaer fy hen-daid, ysgrifennu’r rhigwm canlynol yn llyfr llofnodion ei nith, Nel:


Garrag’r Ogo’ garegog,

gwair rhos a gwair medi;

Oll o dan y dwr, biti, biti, yn te Nellie?




Tyllau Canon

Gadawn y llyn am funud, gan droi ein golygon tua wyneb copa’r graig ar yr ochr ogleddol, yno canfyddwn tua deg-ar-hugain o dyllau ebill, i gyd wedi eu cysylltu a’u gilydd trwy rychau wedi eu cynio i’r graig. Ffurfir y rhain mewn siap hirgrwn, a’u gelwir yn dyllau canon. 

Wrth edrych yn fanwl ar ambell dwll fe welwn ôl llosgi, y rheswm y tu ôl i hyn yw, bod y tyllau i gyd wedi eu llenwi a phowdwr du yn ogystal a’r rhychau cysylltiol, er mwyn iddynt danio mewn cyfres o un i’r llall ar achlysuron arbennig. Beth sy’n wych am y lleoliad hwn wrth gwrs yw’r garreg ateb a geir o gyfeiriad Cae Adda. Gellir dychmygu y byddai’r ffenomen naturiol yma’n effeithiol i ddyblu swn y ‘magnelau’ - 60 ergyd!


Troed y Diafol
Cyn gadael top y graig codwn ein golygon tuag at y de ac fe welwn nid nepell i ffwrdd, garreg sgwâr ei golwg, ger man a elwir yn Llyn Boddi Cathod - dim marciau am ddyfalu beth oedd yn digwydd yn fan honno!

Mae’r blocyn gwenithfaen yma tua wyth troedfedd o hyd a phum troedfedd mewn lled, gydag uchder o bedair troedfedd. Ar ochr ddwyreiniol y graig gwelwn ôl ebill ymhle holltwyd darn ohoni ryw dro, yn ffodus mae hyn wedi creu stepen i ni gymryd golwg mwy manwl ar wyneb ucha’r graig. Y peth mwyaf amlwg a welir yn gyntaf yw ôl dysgl fas tua deng modfedd o ddiamedr. Yn ôl llen gwerin, ôl troed ‘y Diafol’ yw hwn - ac fe wnaeth ef hyn pan yn camu o’r blocyn i Garreg yr Ogof!

Uwchben Troed y Diafol mae tarian ddestlus wedi ei cherfio i’r graig ac o fewn y darian ceir y disgrifiad canlynol: JMR BORN 1914. Mae’n bosib mai John Meirion Roberts, Madryn House, oedd y cyfaill hwn, neu ‘Hacks’ Mei fel y gelwir ef. Cafodd ei lysenw trwy fod yn yrrwr cerbydau ‘hackney’. Roedd yn fachgen hynaws iawn yn ôl pob son.

Mae yno galon hefyd a llythrennau ynddi ar ymyl y graig i’r dde o’r darian, ond nid yw’n bosib dehongli’r manylion.
 







No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon