2.2.14

Y Fainc Sglodion -ysgol Sul

Cafwyd adroddiad yn rhifyn Ionawr gan DBJ, am gyfarfodydd diweddar Cymdeithas Ddiwylliannol y Fainc Sglodion. Dyma bytiau o'r adroddiad, a manylion y cyfarfodydd nesaf:



llun PW



‘Hanes a Llenyddiaeth Gynnar yr Ysgol Sul’ oedd testun sgwrs y Parchedig Ddr. Hugh John Hughes, yng nghyfarfod Tachwedd.

Yn y drafodaeth fywiog ar ddiwedd y ddarlith, soniodd Mrs. Pegi Lloyd-Williams am Ysgol Sul Jerwsalem, lle cafodd ei phenodi’n ysgrifennydd yr Ysgol yn y Festri, a chofnodi nifer y plant a’r casgliad a’r adnodau, cyn cael dyrchafiad, tua diwedd y 1940’au i fod yn ysgrifennydd yr ysgol i oedolion, i fyny’r grisiau yn y capel. A bod tua 400, yn y dyddiau hynny, rhwng y ddwy ysgol yn Jerwsalem. Erbyn heddiw, mae’n debyg mai yng nghapel y Bowydd yn unig y cynhelir Ysgol Sul ym mysg yr enwadau anghydffurfiol yn y dref.

Daeth Twm Elias o Blas Tan-y-bwlch atom ar fyr rybudd (oherwydd salwch y siaradwr oedd wedi ei drefnu ar y rhaglen) – ym mis Rhagfyr. Gan fod Canolfan Astudiaethau Parc Cendedlaethol Eryri yn noddi’r Fainc Sglodion ynghŷd â Llenyddiaeth Cymru, yr ydym yn ddwbl ddiolchgar i Twm Elias am sefyll yn y bwlch fel hyn, ac y mae ei arddull unigryw yn diogelu cyflwyniad bywiog bob tro. Chawsom ni mo’n siomi.

Yn dymhorol iawn, cafwyd sgwrs am Arferion y Nadolig, a’r is-benawd ‘O Saturnalia i Sion Corn’. Mewn oesoedd cyntefig, ofnai cymdeithasau o bobl syml fod yr haul yn crebachu wrth i’r dydd fyrhau, a’r tywydd yn oeri, gan deffro pryderon am gnydau’r flwyddyn oedd i ddod. Rhaid aberthu i’r duwiau tuag Alban Arthan ein cyndeidiau, er diogelu na fyddai Lleu, duw’r goleuni yn cilio am byth. Cyfeddach baganaidd y Celtiaid yn ddigon tebyg i ddefodau’r hen Roegiaid a’r hen Rufeiniaid ac eraill a geisiai foddio eu duwiau hwythau.

Erbyn oes y Seintiau, tua’r bumed ganrif o Oed Crist, heb fawr o groeso i’r grefydd newydd, gwelodd yr eglwys na thyciai dim oni fyddent yn impio’r credoau Cristnogol wrth yr hen goelion a chydio eu syniadaeth wrth hen arferion paganaidd. Os oedd dynion i’w hennill i addoli’r Duw Cristnogol oedd wedi creu’r haul, rhaid cydio geni Crist wrth yr hen Saturnalia a arferai addoli duw’r haul.

Yn ei ddull dihafal ei hun, pentyrrodd Twm Elias wybodaeth am darddiad arferion megis y wledd Nadoligaidd, y pwdin a’r darn arian wedi ei guddio ynddo, y celyn a’r canu carolau.

Daeth y Canu Plygain yn boblogaidd yng Nghymru, a’r canhwyllau’n dwyn goleuni i gaddug y bore bach yn Eglwysi’r plwyfi, y goleuni’n troi’r tywyllwch yn ei ôl, yn union fel y gwnelsai aberthau’r hen Saturnalia. Tyfodd Eisteddfod ddydd Nadolig yn arfer yn llawer o bentrefi a threfi bychain Cymru rhwng y ddau Ryfel Byd - efallai am fod blaenoriaid capeli’n dymuno i’r bechgyn wneud rhywbeth amgen na chwarae pêl-droed.

Tybed, erbyn heddiw, fod Gŵyl y Geni wedi troi’n Ŵyl y gwario, fel yr awgrymodd Twm Elias? Ynteu, a oes gobaith ein bod wedi cyrraedd oes lle’r ydym yn dechrau alaru ar y tinsel ac yn cofio am anghenion rhai nad yw eu byd mor gysurus a’n bywydau ni dros gyfnod y gwyliau?

Rhagrybudd ... Cyfarfod Chwefror:

Daw’r Dr. Jerry Hunter, Athro yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, i’r Fainc Sglodion nos Iau 6ed o Chwefror am 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol (ar y llawr isaf yno) i ddarlithio ar ‘Y Cymry a Brodorion America’. Croeso, nid yn unig i aelodau’r Fainc Sglodion; ond i unrhyw un arall hefyd, o dalu £1 wrth y drws.
-dbj.



 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon