17.2.14

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog

Cynhelir cyfarfod nesa'r Gymdeithas Nos Fercher, 19eg Chwefror, yn neuadd y WI, Blaenau.

Vivian Parry Williams fydd yn rhoi'r sgwrs y tro hwn, a'i destun ydi:

'Dechrau Cynllun Trydan Tanygrisiau'

Adeiladu argae Stwlan
Un o nifer fawr o luniau gwych y bydd Vivian yn eu dangos yn ystod y noson.

Dewch yn llu, mae croeso i bawb.
---------------------------


Dyma ddarn o Llafar Bro Ionawr 2014, yn son am gyfarfod cynta'r flwyddyn:



Yr oedd nifer dda yno i ddathlu  cyfarfod cyntaf  y tymor newydd. Steffan ab Owain oedd y gŵr gwadd a’i destun oedd ‘Pensaerniaeth Wledig’ neu fel y dywedodd, ‘Efallai mai Adeiladaeth Wledig fyddai’n well disgrifiad o’r testun’. Defnyddiodd sleidiau i amlinellu’r ddarlith ac yr oedd llygad craff Steffan am fanylion i weld yn glir yn y lluniau a ddangoswyd.
Dechreuodd drwy ddangos cytiau Gwyddelod neu gytiau crwn yr hen amser ac eglurodd fod rhain wedi datblygu i dai crwn. Fel enghraifft, dangosodd lun o Tŷ Uncorn yn Nhrefeini. Symudodd ymlaen i ddangos adfeilion  lle defnyddiwyd craig naturiol fel un ochr i dŷ, yr un fath ag a ddefnyddiwyd yn nhŷ Fferm Maenofferen flynyddoedd yn ôl. 
 Gwelsom sawl adeilad wedi ei wneud o wahanol ddefnydd fel mwd neu sinc a thoeau o gerrig a mwsog, brwyn neu wellt. Cawsom olwg ar ffenestri adeiladau , rhai yn fach iawn wedi eu cuddio gan gerrig er mwyn lleihau y dreth. 
 Gwelwyd llun  Neuadd Ddu yn y Blaenau gyda chorn simna yn groes i’r arfer a difyr hefyd oedd gweld drysau i’r hen dai a dyna lle yr oedd Steffan yn ein herio ni fel cynulleidfa i adnabod y lle ymhob llun.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon