13.12.15

Bwrw Golwg

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro.  
Dyma’r bennod olaf yn hanes  
TAIR CENHEDLAETH PANDY’R DDWYRYD 
gan W.Arvon Roberts.

Merch hynaf William a Mari Jones oedd Ann (g.1844).  Dygwyd i fyny yn nhawelwch y wlad.  Roedd yn hoff o natur, carai y mynyddoedd o’i hamgylch ac ymhyfrydai ym mhopeth hardd, adwaenai yr adar, a chân bob un ohonynt.  Un mlynedd ar bymtheg oed oedd Anne pan fu farw ei mam, ac arni hi wedyn y disgynnodd gofalon y cartref.  Collodd ei thad drachefn ymhen chwe blynedd.

Yn 24 oed priododd a David John Davies (1840-1910) defnyddiodd yr enw ‘Bismark Davies’ fel
Bismark. Llun W.A.Roberts
ffugenw pan ohebai â’r papurau newydd a’r cylchgronau Cymraeg.  Brodor o Lanuwchllyn ydoedd, priodont 9 Gorffennaf, 1868, yng Nghapel Tabernacl (A), Lerpwl, gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch John Thomas, D.D. Lerpwl.  Ar ôl deng mis ym Maentwrog agoront fasnach am dymor byr yn Llanuwchllyn, ond collodd D.J. Davies swm mawr o arian yno mewn canlyniad i’r system gredit.  Yn 1874 mentrodd agor maelfa yn 106 London Road, Lerpwl, ond digwyddodd yr union beth drachefn, ac erbyn 1881 penderfynodd ymfudo.  Yn y cyfamser aeth Ann, ei briod, i fyw at ei chwaer, Miss Margaret Jones (‘Myfanwy Meirion’), cenhades gartref yn Llundain, ac yn ddiacones gyda’r Annibynwyr.

Roedd D.J. Davies, priod Ann Jones, yn un o un ar ddeg o blant a anwyd i John ac Ellen Davies (D.J. oedd y plentyn hynaf).  Yn gynnar yn ei fywyd bu’n gweithio ar y ffermydd, cyn mynd i’r chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog.  Cafodd ddamwain yno a’i cadwodd ef yn yr ysbyty am rai misoedd.  Ymaelododd gyda’r Annibynwyr ym Methania, Manod, ac yn Rhiwbryfdir ar ôl hynny.  Meddyliodd y buasai yn trio ei lwc ym Mhatagonia ond pan gyrhaeddodd ef Lerpwl a gweld y cwmni o ymfudwyr oedd yno penderfynodd aros yno a chafodd waith gyda chwmni masnachol David Jones, Stryd Red Cross, Lerpwl.

Ar ôl ei gyfnod aflwyddianus gyda’i faelfa ac Ann wedi ei gadael yn Llundain dros dro, croesodd D.J. Davies yr Iwerydd i’r Unol Daleithiau ac wedi tirio yno ymwelodd ar frys â rhai o’r prif ddinasoedd, a chafodd waith fel gwerthwr mewn amryw fasnachdai dillad, ac ystyrid ef yn arbennigwr gyda’r gwaith hwnnw.  Cyn hir cyrhaeddodd dinas Chicago, a chafodd swydd dda a sefydlog fel gwerthwr dillad gyd Woolf a’i Gwmni, ar gongl Stryd Madison a Halsted, lle y gwasanaethodd am dair mlynedd ar hugain.  Yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn Chicago daeth Ann, ei briod, ato, a gwnaethant eu cartref yno hyd nes y bu farw D.J. Davies.

Yn fuan ar ôl hynny ar gymhelliad Capel Annibynwr Cymraeg Sardis (1880-1902), Chicago, a’i weinidog ar y pryd, a wasanaethodd y capel o 1884 i 1890, sef y Parch Griffith Griffiths (1824-1899) gynt o Cae Clyd, Manod, Blaenau Ffestiniog, oedd hefyd fel D.J. Davies â chysylltiad â Bethania, Manod (yno y dechreuodd ef bregethu yn 1844) dechreuodd bregethu.

Gan fod yna gapel Cymraeg bychan yn Joliet, ger Chicago, yr oedd yn gyfleus iddo wasanaethu yno bob Sul, a chadw ei swydd fel gwerthwr dillad yn siop fawr Woolf a’i Gwmni, yn Chicago drwy’r wythnos.  4 Tachwedd, 1894, ordeiniwyd D.J. Davies yn weinidog Capel Joliet a bu yno am un mlynedd ar bymtheg.  Ymwelodd â Chymru yn 1895.  Bu’n ohebydd galluog a chyson i’r cylchgronau Cymraeg ar hyd ei oes, ac yn awdur llyfryn bychan Saesneg, ‘Sermonets’ (1905), pregethau byr a thrawiadol i bobl ifanc.  Roedd un o’i frodyr, John Davies (‘Bardd Glas’) yn bregethwr cynorthwyol yn Llanuwchllyn.

Bu farw D.J. Davies o’r niwmonia, 4 Rhagfyr, 1910, a’i gladdu yn Mynwent Oakwood, Joliet, Illinois, ym mhresenoldeb deuddeg o wahanol genhedloedd, gan gynnwys llawer o Iddewon y dref oedd yn ei adnabod fel arbennigwr yn y fasnach ddillad ac yn y blaen.

Bu Ann Jones Davies yn gymorth mawr i’w phriod yn ei waith fel gweinidog.  Ymwelai yn gyson ac aelodau y capel, a chymerai ofal o’r cyfarfodydd wythnosol.

Carreg fedd teulu Pandy'r Ddwyryd. Llun Paul W, Rhag 15.
Yr oedd eu cartref yn dŷ agored i’r Cymry o bob parth pan y deuent i Chicago.  Bu hi a’i phriod yn hynod boblogaidd nid yn unig ymysg y Cymry ond gyda chenhedloedd eraill hefyd – Americanwyr, Iddewon a Tsieniaid.  Gweithiodd yn egniol ymysg y Tsieniaid – gallai siarad â hwy yn rhwydd yn eu hiaith.  Yn dilyn marwolaeth D.J. Davies dychwelodd Ann yn ôl i Brydain.  Bu am dair blynedd yn Llundain ac yna yn Lerpwl, ac unwaith eto cymerai ddiddordeb arbennig yn y ddwy ddinas yn y Tsieniaid.

Yn ei chyfnod yn yr America bu ei sêl ddirwestol yn angerddol.  Ymhyfrydai yn aml wrth feddwl am y fraint a gafodd o uno â merched America i ymladd â’r salwns, a llawenhai yn fawr pan ddaeth Gwaharddiad yn ffaith yn yr Unol Daleithiau, yn 1917.  Derbyniodd lawer o lythyrau caredig o’r America a’r cwbl yn dwyn ar gof yr ymdrech a wnaed ganddi dros sobrwydd.

Bu farw 23 Ebrill, 1925, yn 80 oed, a rhoddwyd ei gweddillion i orffwys ym Mynwent Utica, Maentwrog.  Amgylchynir beddau’r teulu yn y fynwent hon gan garreg ithfaen sgwâr a rheiliau.


-------------------------------
Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Tachwedd 2015.


Gallwch ddilyn cyfres Bwrw Golwg gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon