27.12.15

Y Golofn Werdd -lladd chwyn a lladd gwair

Newyddion cynllun Y Dref Werdd

Mae afonydd Bro Ffestiniog eich angen chi!
Y mis yma, hoffwn dynnu eich sylw at Ymddiriedolaeth Afonydd Bro Ffestiniog.
Mae afonydd y Fro wedi bod yn destun gyda’r Dref Werdd ers cychwyn y prosiect pan gychwynwyd Partneriaeth Afon Barlwyd. Bwriad y bartneriaeth oedd codi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o gael afon iach yn yr ardal ac i weithredu i godi safon ecolegol yr afon. Cafwyd nifer o ddyddiau yn glanhau’r afon yn ogystal â sesiynau addysg gydag Ysgol y Moelwyn a Thanygrisiau.

Penderfynwyd yn 2013 i newid y bartneriaeth i Ymddiriedolaeth Afonydd Bro Ffestiniog fel bod pob afon yn yr ardal yn cael eu goruchwylio, a nawr mae’r Dref Werdd yn ôl i hwyluso gwaith yr ymddiriedolaeth, ac mae nifer o brosiectau ar y gweill.

Wrth gerdded glannau rhai o’r afonydd, mae’n glir fod angen ychydig o waith arnynt gyda rhai yn dioddef o sbwriel ac y rhan fwyaf yn dioddef o broblem ychydig mwy hir dymor, sef llysiau’r dial neu canclwm Siapan (Japanese knotweed). Mae’n debyg fod nifer ohonoch wedi gweld y planhigyn yma ar lannau afonydd Bowydd a Barlwyd, neu efallai mewn ardaloedd eraill yn y dref. Mae’r Dref Werdd a’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu mynd i'r afael â’r broblem hon dros y blynyddoedd nesaf gan ei fod yn blanhigyn, fel y Rhododendron ponticum, sydd ddim i fod yn tyfu ym Mro Ffestiniog.

Mae’r planhigyn yn gallu tyfu drwy waliau cerrig, tarmac a choncrid ac yn ystod yr haf, mae’n gallu tyfu hyd at 10cm y diwrnod. Mae'r rhywogaeth ymledol yma yn gallu lleihau gwerth tai hefyd, felly os ydych chi’n bwriadu gwerthu tŷ gyda’r gwalch yma yn tyfu yn yr ardd, bydd o’n ddoeth o beth i chi geisio ei drin er mwyn cael gwared ohono. Cysylltwch i gael ychydig o gymorth am sut i wneud hynny.

Yn ogystal â thaclo sbwriel a llysiau’r dial, byddwn yn cyd-weithio gyda phump o ysgolion y Fro i gynnal sesiynau addysg am yr afonydd hefyd. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru a Chadw Cymru’n Daclus bydd disgyblion yr ysgolion yn edrych ar fannau o ddiddordeb ar y gwahanol afonydd fel y Pwerdy yn Nhanygrisiau, gorsaf hydro Llechwedd ym Mhant yr Afon, edrych ar y mathau o fywyd gwyllt sydd yn byw yn yr afonydd, a chodi ymwybyddiaeth o’r effaith mae sbwriel, tipio slei bach a'r rhywogaethau ymledol yn cael ar ein hafonydd.

Fel rhan o’r ymddiriedolaeth, mae nifer o bartneriaid lleol a chenedlaethol yn rhan ohono mewn rôl gynghorol, ond beth mae’r ymddiriedolaeth angen i wthio’r gwaith ymlaen ac i’w gryfhau, yw ymrwymiad trigolion Bro Ffestiniog.

Felly os ydych chi'n bysgotwr, yn naturiaethwr neu gyda diddordeb yn yr amgylchedd lleol, neu dim ond eisiau cyfle i ddweud eich barn, mae croeso mawr i chi ddod yn rhan o’r ymddiriedolaeth. Gallwch un ai fynychu’r cyfarfodydd os hoffech gael fod yn rhan o lunio’r gwaith i’r dyfodol, neu os nad ydi mynd i gyfarfodydd yn rhywbeth i chi, gallwch dderbyn holl gofnodion y cyfarfodydd ac wrth gwrs cymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli fydd yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf. Dewch i fod yn rhan o’r gwaith pwysig yma: mae afonydd Bro Ffestiniog angen chi!!

Os hoffech ddod yn rhan o’r ymddiriedolaeth neu eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Dref Werdd ar 01766 830 082, gyrrwch e-bost i ymholiadau[AT]drefwerdd.cymru  neu galwch draw am banad unrhyw dro i’r swyddfa, sydd uwchben Siambr y Cyngor Tref.

Dyma wirfoddolwr yn cymryd rhan mewn gwaith rheoli llysiau'r dial trwy chwistrellu chwyn-laddwr.


Creu Dôl Flodau Gwyllt
Bu cynnydd yn y gwaith o greu dôl flodau gwyllt yng Nghae Bryn Coed, Llan yn ddiweddar. Bu tîm o wirfoddolwyr yno ar fore braf yn pladuro a chlirio darn trionglog o dir yn barod i blannu hadau blodau gwyllt yn y gwanwyn. Dangosodd Lee Oliver o Cadw Cymru’n Daclus sut i ddefnyddio’r bladur a chafodd y gwirfoddolwyr hwyl fawr yn cael tro gyda’r teclyn!

Dywedodd un o’r gwirfoddolwyr a phreswylydd hir dymor Bryn Coed, Romee Heal: ‘Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn ar y cae gyda nifer o bobl yn helpu. Dwi’n edrych ymlaen i weld y ddôl wedi blodeuo a gobeithio bydd y plant ysgol yn mwynhau gweld y bywyd gwyllt yno. Mae’r cae yn fudd mawr i’r gymuned’.


Bydd diwrnodau gweithredu ar y cae yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y flwyddyn newydd.
Trefnwyd y diwrnod gan y Dref Werdd a Chymdeithas Gwelliannau Ffestiniog. Mae’r ddôl yn rhan o fenter y Dref Werdd i greu mannau gwyrdd yn y gymuned yn ogystal â chreu cyfleoedd hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth a chefn gwlad fel pladurio, torri llwyn a walio cerrig sych.

Cysylltwch os hoffech gymryd rhan yng ngweithgareddau Cae Bryn Coed neu os hoffech wybod mwy am brosiectau amrywiol y Dref Werdd.

Tacluso Tanygrisiau
Daeth grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig at ei gilydd hefyd yn Nhanygrisiau ar gyfer y digwyddiad 'Tacluso Tangrish'. Trefnwyd y diwrnod ar y cyd gan Y Dref Werdd a Cadwch Gymru'n Daclus, er mwyn i drigolion lleol gael y cyfle i lanhau’r gymuned a’r Afon Barlwyd.

Bu gwirfoddolwyr allan yn casglu ac ailgylchu sbwriel a mentrodd rhai unigolion dewr i mewn i'r Afon Barlwyd a cherdded ei hyd o Ffatri Metcalfe tuag at stad dai Hafan Deg. Casglwyd tua 5 bag o sbwriel a 5 bag o ddeunydd ailgylchadwy. Rhoddwyd y bagiau cadarn gan gwmni Huws Gray. Llenwyd llond trelar mawr gyda thameidiau mawr o bren, metel a nwyddau cartref diangen o'r afon.

Darparodd dwy o'r cymdeithasau tai lleol sef Grŵp Cynefin a Cartrefi Cymunedol Gwynedd ddwy sgip ar stad Hafan Deg i drigolion gael gwared ar eu heitemau diangen o’u cartref a gardd. Roedd cymorth gan dîm ailgylchu Cyngor Gwynedd er mwyn casglu a gwaredu’r gwastraff a deunyddiau ailgylchu wedi’r digwyddiad.

Fel diolch bach ar ddiwedd yr holl waith caled aeth y criw gweithgar i Gaffi Mari i gael paned a chacen. Dywed Manon Evans, un o drigolion Hafan Deg ers blynyddoedd:  'Dwi'n meddwl bod diwrnodau glanhau fel hyn yn wych ac roedd yn hwyl i gymryd rhan'. Fe welir rhai o’r criw ddaeth i helpu yn y llun.


Os hoffech chi ddechrau grŵp cymunedol eich hunain yn ardal Bro Ffestiniog, cysylltwch â n.
------------------------


Wedi'i addasu o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2015.
Dilynwch gyfres Y Golofn Werdd efo'r dolenni isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon