Darn gan Marian Roberts a ymddangosodd gynta' yn rhifyn Medi 2014. Lluniau gan Dafydd Roberts.
Yng Ngorffennaf 1917, yn ystod 3edd Brwydr Ieper, a elwir hefyd yn Passchendale, penderfynwyd bod angen i'r Cynghreiriaid gymryd ardal a alwyd yn Cefn Pilckem ger Langemark yn Fflandrys. Y rhai a ymgymrodd â'r dasg, ymysg eraill, oedd y Gwarchodlu Cymreig. 'Roeddynt yn llwyddiannus ond collwyd bywydau lu, gan gynnwys y bardd o'r Ysgwrn, Hedd Wyn, sydd erbyn hyn yn symbol o'n cof cenedlaethol ni am bob un o'r dynion ifanc a laddwyd yn y gyflafan.
Ond, yn wahanol i genhedloedd eraill oedd â chofebau i gofio'r bechgyn a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, nid oedd gan Gymru ei chofeb genedlaethol ei hun. Felly, pnawn Sadwrn, Awst 16eg, yn heulwen gynnes Gwlad Belg, daeth cannoedd ynghyd i bentref Langemark ar gyfer dadorchuddio cofeb arbennig i gofio'r holl Gymry a gymerodd ran yn y Rhyfel Mawr. Cafwyd gwasanaeth hynod deimladwy dan arweiniad Roy Noble, a cymerwyd rhan amlwg gan Gôr Rygbi Gogledd Cymru, Rhys Meirion, a'r telynor Dylan Cernyw, a darllenwyd y darn barddoniaeth “Rhyfel” o eiddo Hedd Wyn gan Isgoed Williams, Trawsfynydd.
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.
Draig goch anferth o efydd ar gromlech las yw'r gofeb. Fe'i crewyd gan yr artist ifanc Lee Odishow, sy'n wreiddiol o Ddinbych- y- Pysgod, a rhoddwyd cerrig y gromlech gan Chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd. Cafodd y ddraig ei bwrw yn Ffowndri Castle Fine Arts yn Llanrhaeadr-ym Mochnant. Codwyd arian ar gyfer Apêl y gofeb gan gannoedd o unigolion a mudiadau o fewn Cymru – yn eu mysg Tegid Roberts o'r Blaenau aeth ar daith gerdded noddedig. Ymysg y rhai aeth i osod torch wrth droed y gofeb oedd Geraint Roberts o'r Manod ar ran Clwb y Ffiwsilwyr yma yn y Blaenau, a cyflwynodd Alan Hicks, o Danygrisiau, ddarn o lechen a luniwyd yn arbennig ganddo i gofio yr ymweliad gan ffrindiau a chymdeithion Clwb y Ffiwsilwyr Cymreig oedd yn bresennol.
Gyda'r nos cafwyd cyngerdd gala yn Eglwys Langemark, a phnawn Sul gwasanaeth ym Mynwent Artillery Wood ble mae bedd Hedd Wyn. I gloi'r penwythnos aethpwyd at wyth y nos i Borth Menin yn Ieper i seremoni'r Alwad Olaf a gynhelir yno bob nos o'r flwyddyn. Ar Awst 17eg 'roedd y naws yn Gymreigaidd gyda Rhys Meirion, Dylan Cernyw, a'r Côr yn cyfrannu. 'Roedd rhan amlwg hefyd gan Mike Jennings oedd yn cario baner Clwb y Blaenau, a Gary Williams osododd y dorch.
Penwythnos arbennig i gofio'r genhedlaeth goll o Gymru, gan gynnwys llawer o fechgyn ifanc o Fro Ffestiniog, na ddaeth yn ôl o'r Rhyfel Mawr 1914-1918.
Ni ddaw gyda'r hafau melynion
Byth mwy i'w ardal am dro;
Cans mynwent sy'n nhiroedd yr estron
Ac yntau ynghwsg yn ei gro.
(“Marw oddi Cartref” - Hedd Wyn)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon