Nid Llafar Bro y tro hwn ond PLYGAIN, Cylchgrawn Plant yr Ysgol Ganol, Blaenau Ffestiniog.
Daw’r eitem isod o Rifyn Haf 1927 (Cyfrol I, Rhif 3)
M.E.Philips oedd y Prifathro a John Ellis Williams oedd y golygydd
Gofynnwyd i’r plant beth fuasent yn hoffi bod ar ôl tyfu i fyny a dyma atebion rhai o’r disgyblion bryd hynny sy’n swnio’n ddiniwed a doniol weithiau i ni heddiw.
(Ymddangosodd yr erthygl gyntaf yn rhifyn Tachwedd 2014 Llafar Bro)
Pan fyddaf fawr:
JOHN PENRI JONES – Engine Driver a fyddaf i, ar yr LMS. Cawn felly weld llawer o lefydd, ac ar ddyddiau oer cawn dân yn fy ymyl i’m cadw yn gynnes.
ARTHUR ROWLANDS – Pan fyddaf yn 20 oed, yr wyf am fynd i Ganada, i gael dysgu bod yn cowboy. Fe wnawn achub bywyd llawer o bobl, a chawn arian gan y Sheriff am wneud. Fe ddaliwn ladron hefyd, ond bydd yn rhaid imi gael gwn ac handcuffs i hynny.
RICHIE THOMAS – Am fod yn llongwr yr wyf fi. Mi wn ei fod yn waith caled iawn, achos y ni sydd yn gorfod tynnu yn y rhaffau a chadw’r llong yn lân. Ond dyma’r ffordd oreu i gael gweld y byd.
BOBBIE JONES – Fy ngwaith i fydd ffarmio. Ffermwr ydyw fy nhad hefyd, ac ar ffarm y cefais fy magu. Yr wyf yn hoffi gwaith ffarm yn well na dim, yn enwedig bugeilio defaid. Cŵn a cheffylau yw fy ffrindiau mwyaf i.
NORMAN HUGHES – Meddwl myned yn engineer wyf i. Mae fy nhad wedi pasio pob ecsam i fod yn un, ond ei fod yn awr yn y chwarel. Mae llawer o’i bethau gennyf i yn y tŷ mewn cornel fechan yn barod imi dyfu yn fawr.
OWEN W. JONES – Mi fuaswn i yn hoffi bod yn saer, gan eu bod yn brin iawn yn awr. Nid yw’r gwaith yn galed iawn, ac mae fy ewythr yn dweyd y caf ddysgu gydag ef. Mae’r tools yn ddrud iawn, ond mi fedraf ennill pres wrth wneud cypyrddau i brynu digon.
HUMPHREY DAVIES - Pan fyddaf yn 20 oed, yr wyf am fynd yn soldiwr. Yr wyf yn siŵr y bydd rhyfel yn torri allan rywbryd tua’r adeg honno, ac mi af dros y môr mewn llong ryfel i gwffio dros fy ngwlad.
ROBERT J. JONES - Heddgeidwad a fyddaf i, imi gael cot las a botymau arian arni. Mi fedrwn redeg fel y gwynt ar ôl plant drwg.
JOHN ERNEST HUMPHREYS - Ar ôl imi dyfu yn fawr yr wyf am fyned yn bregethwr. Mae’n rhaid i bregethwr weithio yn galed efo’i feddwl, a bod yn ofalus iawn beth i’w ddweyd, ond mae yn cael cyflog da, ac nid yw y gwaith yn drwm iawn.
GEORGIE EDWARDS - I’r chwarel yr af i, i ennill pres i gedru talu i mam am fy magu fi. Mi rof y cyflog i gyd iddi hi, ac mae hi’n siŵr o roi dau swllt yn ôl yn bres poced imi.
ELINOR HUGHES - Ar ôl myned yn fawr, yr wyf am fod yn forwyn. Yr wyf eisiau myned i ffwrdd, ac am fod yn gynnil iawn. Wêl neb fi yn gwastraffu fy mhres yn ceisio bod yn lady. Nid af i’r pictiwrs chwaith, na phrynu hen nofelau gwirion, dim ond llyfrau da gwerth eu darllen.
NELLIE WILLIAMS – Cook mewn plas mawr yr hoffwn i fod, yn gwneud cinio i lawer o bobl. Yr wyf yn hoffi cwcio yn awr, sut bynnag y bydd hi yr adeg honno. Os bydd y gwaith yn rhy galed, mi chwiliaf am le arall.
GRACIE EVANS – Mi hoffwn i fod yn wniadwraig, yn gwneud dillad i bobol eraill ac mi fy hun. Nid yw pawb yn hoffi gwnïo, ond mae yn waith braf iawn gennyf i.
Isod mae’r golygydd yn ychwanegu jôc a glywodd gan un o’r bechgyn ac mae hi’n un dda hefyd!
GWLAD BOETH IAWN
‘Roedd yna un dyn yn dweyd unwaith fod y wlad y buodd o fyw ynddi mor boeth nes ‘roedd yn rhaid i ffarmwr osod ymbarél ar ben pob mochyn rhag ofn iddo fo droi yn borc. Ac ebe dyn arall oedd yn gwrando, “Yn y wlad y bum i ynddi y mis diwethaf, yr oedd y ffermwyr yn rhoddi ice-cream i’r ieir rhag ofn iddynt ddodwy wyau wedi eu berwi.” Simeon Jones
Yn ei golofn olygyddol mae John Ellis Williams yn son eu bod wedi gwneud £2 o elw ar y rhifyn cyntaf ... “yr ydych wrth brynu Plygain nid yn unig yn cefnogi gwaith yr ysgolorion, ond hefyd yn pwrcasu llyfrau iddynt. A lleufer dyn yw llyfr da.”
---------------------------------------------------------------
Diolch i Pegi Lloyd Williams am ddod a’r cylchgrawn hwn i’n sylw ... tybed faint o gopïau eraill sydd i’w cael yn y fro erbyn hyn. Roedd y rhifyn hwn yn perthyn i’r diweddar William Lloyd Williams (Wil) ei gŵr a daliodd ei afael ynddo ar hyd y blynyddoedd. (TVJ)
-----------------------------------------------------------------
Ôl-nodyn:
Ai dim ond ym Mro Ffestiniog mae'r gair GEDRU yn cael ei ddefnyddio? Hynny ydi, 'medru'/'gallu'.
Tydi o ddim yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, sef y casgliad safonol o eiriau Cymraeg, i fod...
Mae'r gair gedru yn ymddangos uchod gan Georgie Edwards. Ai dyma'r enghraifft gynharaf o'r gair ar ddu a gwyn tybed? (PW)
Daeth hyn gan Andrew Hawke, golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru, ddydd Llun 8fed Rhagfyr:
"Diolch yn fawr am y cyfeiriad. Rwy'n gyfarwydd â'r gair, ac roeddwn i'n disgwyl ei weld yn GPC. Mae'n braf cael enghraifft mewn print o 1927 - ac rwy i wedi'i ychwanegu at ein casgliad."
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon