Erthygl gan Philip Lloyd
Dyma lun o hen orsaf Rheilffordd Ffestiniog yng Nglanypwll yn ei hanterth, gyda chanopi dros y platfform i warchod teithwyr boed weithwyr, ymwelwyr neu ddefnyddwyr eraill rhag y tywydd.
Dim ond lled ffordd sydd rhyngddi a gorsaf lein Dyffryn Conwy y London & North Western Railway (L.M.S. ar ôl grwpio’r cwmnïau yn 1921). Gwelir rhannau o’r orsaf honno yn y cefndir, yn uchel ar y dde.
Mae injan ‘Fairlie’ dau-fwyler yno, yn barod i dynnu trên am weddill y daith o Borthmadog i’r Blaenau, gan alw nesaf yn y gyfnewidfa â rheilffordd y Great Western. Yn y llun arall gwelir grŵp teuluol yn cychwyn ar eu taith oddi yno yn 1937 i ymweld â ffrindiau yn y Dduallt ar ôl disgyn o’r trên yn Rhoslyn a cherdded weddill y daith i’r tŷ.
Ar un adeg gorsaf Duffws oedd terfynfa Rheilffordd Ffestiniog yn y dref, lle byddai llechi’n dod i lawr o’r chwareli ar hyd dwy inclên cyn cael eu cludo oddi yno i borthladd Porthmadog. Y cyfan sydd ar ôl o’r orsaf heddiw yw’r adeilad a drowyd yn doiledau cyhoeddus. Ond ‘Duffws’ (neu Diffwys erbyn heddiw wrth gwrs. Gol.) yw enw’r maes parcio.
Daeth gwasanaeth Rheilffordd Ffestiniog i deithwyr i ben yn sydyn ar ddechrau rhyfel 1939-45 er gwaethaf addewidion hyderus y posteri am deithiau drwy ‘13½ Miles of Enchanting Scenery’ ar y ‘Festiniog [sic] Toy Railway ... Gauge 1 ft. 11½ ins.’.
Fel y gŵyr darllenwyr Llafar Bro, mae gorsafoedd y London & North Western a chyfnewidfa Rheilffordd Ffestiniog â’r Great Western wedi hen ddiflannu. Dyna dynged gorsaf Glanypwll yn ogystal. Ond mae’r gyfnewidfa newydd ger safle hen orsaf y Great Western yn gwasanaethu lein Dyffryn Conwy a threnau cwmni newydd Rheilffordd Ffestiniog.
Gwelir llu o luniau o hen orsafoedd y Blaenau ac o injans stêm yn y ddau lyfr: A Regional History of the Railways of Great Britain, Volume 11: North and Mid Wales gan Peter Baughan a Festiniog [sic] Railway Revival gan P.B. Whitehouse. Mae llyfr Whitehouse yn cynnwys map manwl o hen reilffyrdd y fro – cul a mesur-safonol.
Gobeithio bydd darllenwyr Llafar Bro yn maddau i un a fagwyd yng nghymoedd glofaol y de am beidio â defnyddio geiriau sydd ar lafar yn lleol megis ‘Stesion Fain’. Ond o leiaf, ‘trên bach Port’ rydw i wedi dweud erioed, a’m taid yn hanu o Benrhyndeudraeth ond a fu’n byw yn Aberfan am flynyddoedd. ‘John Lloyd Sowth’ bydden nhw yn ei alw ar ei ymweliadau achlysurol â’i fro enedigol.
-----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.
Mae rhifynnau digidol gwanwyn/haf 2020 ar gael am ddim ar wefan Bro360.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon