Eisteddfod.
Yn Eisteddfod flynyddol Llanfrangoch –a gynhaliwyd eleni, am resymau amlwg, trwy’r post ac ar Zoom -enillwyd y wobr am wau pâr o fenyg gan Joan Edwards, Llys y Fedwen. Dywedodd y beirniaid, Mrs James Evans, fod dyfodol disglair i’r ferch hon yn y maes hwn, ac na welodd hi erioed gystal gwaith. Yr unig fai y medrodd ei ddarganfod ar ei gwaith gwych oedd ei bod wedi gwau dwy faneg chwith, a bod y fawd ar gefn y faneg yn un ohonynt. Arwahân i’r brychau hyn yr oedd y gwaith yn odidog drwyddo draw. Gofidia na buasai mwy nag un cystadleuydd wedi ymgeisio am y wobr, ond yr oedd yn dyfarnu’r wobr yn llawn i Miss Edwards, gyda chanmoliaeth uchel.
Diolchwn i Mr Samuel Edwards, tad y ferch fuddugol am yrru’r newyddion atom. Cyd-ddigwyddiad diddorol yw mai chwaer Mr Edwards, sef modryb i Jane, oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth.
Llongyfarchiadau hefyd i Mr Edwards ar ennill yn yr adran lên efo cerdd yn cyfarch ei ferch. Roedd nifer sylweddol iawn o benillion, ac ni allwn atgynhyrchu’r cyfan o ddiffyg lle, ond dyma’r cyntaf ohonynt.
Ymlaen, O ferch, ymlaen, ymlaen,
I ennill mwy o wobrau,
A gwau pullovers grand eu gwedd,
A sannau twt eu sodlau;
Y mae athrylith yn dy law,
A medr yn dy fysedd,
O dal i fyny enw da
Dy deulu hyd y diwedd.
Dawnsio a dathlu.
Llongyfarchiadau i Begw Williams, Stryd Brookland, ar dderbyn ysgoloriaeth i ysgol ddawns ryngwladol Llanfrangoch. Mae hi’n edrych ymlaen yn arw i astudio’r ddawns fodern o dan yr enwog Madame Léise, os gaiff yr ysgol ail-agor, yn dilyn anghydfod hir a blin am gyflogau’r glanhawyr.
Mwgwd mwngral.
Pob lwc i Dicw Bach Pentre Meini efo’i gwmni newydd sy’n creu masgiau Covid-19 yn arbennig ar gyfer cŵn a chathod yn y cyfnod anodd hwn. Llwyddodd i ddod i delerau am frethyn addas efo ffatri ddillad isa’ Boyd yn y Bala, sydd wedi gweld cwymp aruthrol yn y galw am eu y-fronts yn dilyn poblogrwydd cân Trôns Dy Dad, gan Gwibdaith Hen Frân sy’n dilorni’r dilledyn hen-ffasiwn. Daw’r mygydau mewn patrwm tartan, draig goch, ac amrywiaeth o liwiau i warchod eich annwyl gyfeillion anwes.
Cŵyn am y glo.
Y mae Mr Coke Pugh, un o’n gwerthwyr glo lleol, yn bygwth cyfraith ar bwy bynnag sy’n meddio awgrymu mai yn chwarel y Fotty y mae’n cael ei lo. Ni bu erioed yn gwsmer i’r chwarel honno. O Chwarel yr Oakley y mae o’n cloddio’r cyfan o’i lo.
Hyd buwch.
Un enghraifft o'r posteri hyd buwch... |
Mae cynrychiolwyr yr undebau amaeth yn lleol yn ystyried gwneud cŵyn ffurfiol i’r Senedd, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi posteri am argyfwng Covid-19, sy’n cymharu’r 2 fetr sydd ei angen ar gyfer ymbellhau cymdeithasol diogel, efo hyd buwch.
“Efallai bod buwch tua dwy fetr o hyd” meddai Wil Dwalad, Penmaen, “ond diawch, does gen i mo’r amser i gario gwartheg ‘nôl-a-mlaen at ddrws Coparet y Blaenau, er mwyn iddyn nhw gael dangos i’r bobol sy’n ciwio pa mor bell i sefyll oddi wrth eu gilydd.” Mi ddown ni a diweddariad i chi y tro nesa, gan fod y Senedd yn son am ostwng yr hyd i un fetr. Mi fydd yn haws mynd a dafad ‘nôl-a-mlaen, mi dybiwn...
----------------------------
[Llanfrangoch]
Mae nifer ohonoch dwi’n siwr, wedi’i dallt hi, ac wedi gweld ein bod wedi sleifio ambell ddarn o rwdlian llwyr ymysg y newyddion cymunedol. Dynwared campau John Ellis Williams a Moi Plas oedd y bwriad, ac mae rhai o’r darnau ffug wedi eu haddasu o’u gwaith nhw yn Rhedegydd y 1950au.
Roedden nhw’n ceisio ysgogi trafodaeth a bwrlwm am bentref Llanfrangoch -nad oedd neb yn gwybod lle’r oedd o- pan oedd gwerthiant y papur yn gostwng. Gobeithio bod y darnau wedi codi gwên. Maen nhw wedi llenwi cornel yn y silly season sonwyd amdano yn ‘Smit Newyddion’ ! A phwy a ŵyr na fydd rhywfaint o hanesion Llanfrangoch yn ymddangos o dro i dro yn y dyfodol hefyd!
PW
-----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020
Llygad Newydd: Mwy o hanes Moi Plas.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon