7.10.14

Rhod y Rhigymwr- Baled y Waled, a chwis enwau Stiniog

Rhan o golofn Iwan Morgan, o rifyn Medi.


Y mis hwn eto, cafwyd hanes am dro trwstan gan un o feirdd cocos yr ardal -  un a ddewisodd ffug-enw addas iawn. Diolch o galon i ‘Daz Cash’ am gân mor hwyliog i gofnodi profiad anffodus Bili Jôs, Bryngolau druan, ac am lwyddo i gael llun o’r ffortiwn yn sychu ar y lein ddillad:

Baled y Waled


Daeth galwad gan Bili - 'dach chi'n gwybod - gŵr Mary,
Yn gynnar, a finna' dan blanced;
Roedd mewn panic o ddifri', a llawn o dosturi -
Wedi colli ei ffortiwn, a'i waled.

Wedi ceisio'i dawelu, a finna'n fy ngwely,
Addewais fynd draw wedi codi,
Ac mi es ar i fyny, roedd yn ddeg erbyn hynny,
I Fryngola ato fo a'i wraig, Mary.

Er chwilio yn drylwyr, a'r ddau'n archeolegwyr,
Bu raid cadw'r tryweli a'r ceibia',
Er cael help gan fewnfudwyr, rhai â 'chydig o synnwyr,
Dim ond byw ar y plwy' a'u hwyneba'.

Ond wrth lwc, erbyn hyn, fe ddaeth heulwen ar fryn,
A bu datrys ar y panic ariannol;
Er ffonio y banc, i sôn am ei thranc,
Darganfyddwyd y waled ddiflannol.

Roedd Mary, y Mrs. wedi lluchio ei drwsus -
Neu'r shorts, mewn i'r periant i'w olchi,
Ac yn hollol anffodus,(mae hi'n ddigon anghofus),
Ni chwiliodd rhen dlawd y pocedi.

Wedi gorffen y golchiad, fe ddaeth yr agoriad,
A'r waled, a'i chynnwys yn socian;
A dyma ofyniad, ai Bil ga'dd y syniad,
Ynteu Mary, i ‘Laundro’ ei arian?

A wyneb y cwîn, fu'n y washing machine   
Ar ‘banknotes,’ oedd unwaith mewn waled,
Yn ‘fresh, squeaky clean’ wedi'r holl droi a thrin' -
A dyna yw diwedd y faled.

Daz Cash


***
Cwis Enwau ‘Stiniog:
Mae pump o enwau dalgylch Llafar Bro i’w cael yn y cwpledi isod. Fedrwch chi eu canfod?

1.    Bu Ioan yn y ------------,
Hoff yw o ‘marfer ei ffydd!

2.    Yn ----- ------ mi wn y caf
    Resi o’r tatws brasaf.

3.    Codaid o goncrid cadarn
    Roed is y wal ger ------ ------.

4.    Ni chais Wil o’r -------- ------
    Un dim am dail ei domen.

5.    Daeth mynach gwyn derfyn dydd 
    Dros fawnog i -------------.




1 comment:

  1. Daeth yr atebion gan Iwan yn rhifyn Hydref:

    'Gosodais dasg i ddarllenwyr y golofn y mis dwytha, sef, rhoi enwau mannau yn ‘Stiniog mewn pump o gwpledi caeth. Diolch o galon i ‘C.R.’ a ‘Rhiain y Ddôl’ am ymateb. Dyma’r atebion cywir:

    Bu Ioan yn y BOWYDD,
    Hoff yw o ‘marfer ei ffydd.

    Yn NHŶ COCH mi wn y caf
    Resi o’r tatws brasaf.

    Codaid o goncrid cadarn
    Roed is y wal yn RHYD-SARN.

    Ni chais Wil o’r FUCHES WEN
    Un dim am dail ei domen.

    Daeth mynach gwyn derfyn Dydd
    Dros fawnog i DRAWSFYNYDD.

    IM'

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon