Darnau allan o rifyn Medi 2014
Mae awduron Stiniog wedi bod yn brysur yn ddiweddar ac fe daeth pedwar llyfr newydd sbon o’r gweisg. Ni fu’r ardal erioed yn brin o dalentau.
* Lansiwyd llyfr yn dwyn y teitl ‘O’r Llechi i’r Cerrig’ gan Dr. Eddie John Davies, Cae’r Ffridd gynt. Yn hwn mae’r doctor yn rhoi teyrnged i fro’r llechi ei fagwraeth ac yn mynd ymlaen i roi ei hanes fel meddyg teulu yng Ngherrig y Drudion a’r cylch – felly’r llechi a’r cerrig. Fel y gwyddom mae cefndir meddygon teulu heddiw yn dra gwahanol i’r hyn roedd pan nad oedd oriau gweithio’n cael eu cydndabod. Mae llawer ‘strach doniol’ yma ac acw yn y llyfr ymysg a’r argyfyngau. Llyfr ‘poced’ gwerthfawr a hwylus.
* Yna, yn neuadd y WI, fe lansiwyd llyfr newydd gan Vivian Parry Williams ar ‘Elis o’r Nant– Cynrychiolydd y Werin’, sydd yn cyflwyno cefndir go lawn ar hanes y newyddiadurwr Ellis Pierce (1841-1912) o Gwm Wybrnant. Geraint Vaughan Jones oedd yn arwain y noson o’r llwyfan, a Bruce Griffiths, Gwyn Thomas, a Rheinallt Llwyd yn diddanu’r neuadd lawn efo darlleniadau o’r gyfrol. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan yr awdur ei hun, yn ogystal a’r cyhoeddwr, Myrddin ap Dafydd, o Wasg Carreg Gwalch. Roedd Elin Angharad o Siop yr Hen Bost yno ar y noson hefyd i werthu’r llyfr, a bu hen drafod a hel straeon wrth i’r prynwyr aros i gael cyfarchiad oddi mewn i’r clawr gan Vivian.
* Yn y llyfrgell lansiwyd y nofel ‘Fel yr Haul’ gan Eigra Lewis Roberts. Gweler adolygiad isod.
* Lansiwyd llyfr yn Saesneg hefyd gan Hywel Roberts (gynt o Lan Ffestinog a mab i’r prifathro ar y pryd, Emyr Roberts) yn Eglwys Sant Tudclud, Penmachno, yn dwyn y teitl ‘Uncle Tom at War – from Penmachno to Prison Camp’. Ymunodd Thomas Williams â’r Liverpool Scottish Regiment, ac mae’r llyfr yn cofnodi symudiadau’r gatrawd hyd at yr amser y cymerwyd Uncle Tom yn garcharor rhyfel.
Fel yr Haul gan Eigra Lewis Roberts
Adolygiad gan Marian Roberts.
Nofel hanesyddol yw hon sy'n portreadu chwe blynedd olaf y gyfansoddwraig ddawnus Morfydd Llwyn-Owen. Fe'i ganed yn Nhrefforest yn yr hen Sir Forgannwg yn 1891, ac yn un-ar-hugain oed aeth i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. 'Roedd hefyd yn gantores arbennig, a perfformiodd ei chaneuon ei hun ar lwyfan yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1917.
Ond er ei medr aruthrol fel cerddor a chantores ymddengys ar adegau yn ferch ifanc anaeddfed iawn. Mae'n freuddwydiol ac oriog, ac yn ysu am sylw “cariad” yn gyson; mae'n ymddwyn fel plentyn gafodd ei difetha ar hyd ei bywyd.
Canlbwyntir yn y nofel ar fywyd cymdeithasol Morfydd ymysg Cymry Llundain – yn y Capel yn Charing Cross er enghraifft, a'i hymwneud ymylol â llenorion tra modern y cyfnod fel Ezra Pound a D.H.Lawrence. Ceir yma hefyd ddarlun o fywyd ganrif yn ôl gyda chysgod y Rhyfel Mawr yn tarfu ar fywydau'r cymeriadau yn y nofel.
Erbyn diwedd y nofel, pan fu farw Morfydd yn drasig o ifanc, cawsom ddarlun ardderchog o'r ferch arbennig hon yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae'n nofel rhwydd i'w darllen a mwynheais hi'n fawr. Anogaf eraill i'w darllen.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon