Darn gan Pegi Lloyd-Williams, o rifyn Hydref 2014. Lluniau gan Paul Williams.
Mae bron pawb o bell ag agos wedi dod i wybod am y Doman erbyn hyn, yn enwedig ar ôl y cyhoeddusrwydd yn y Daily Post y llynedd. Roedd yn ddifyr darllen y gwahanol eglurhad oedd gan rhai dros ei bodolaeth. Yr un a’m trawodd fwya’ oedd honno yn dweud bod hogiau Stiniog mor falch eu bod wedi cael dod adref yn ddiogel ar ôl bod yn Rhyfel y Crimea (1853-1856) nes iddynt bawb dynnu eu ‘sgidia a’u llosgi wrth ddod i olwg adra. Byddai pawb yn ymfalchïo fod ganddo bâr o sgidia i roi am ei draed y dyddiau hynny.
Na, roedd tunelli o sgidiau yn dod efo’r trên i Stiniog yn ystod yr Ail Ryfel Byd o’r Swyddfa Rhyfel, a byddai rhyw ddau ddwsin neu fwy yn cael eu cyflogi yn yr Hall Bach (sef y llawr gwaelod) i geisio eu rhoi yn bâr wrth bâr, ond roedd rhai mewn cyflwr ofnadwy - ôl gwaed ac anafiadau mawr. Byddid yn cymryd darnau o’r rheini i drwsio’r rhai oedd mewn cyflwr eitha’ da, ac o hyn i hyn byddai’r tomennydd o’r darnau oedd ar ôl yn cael eu cyrchu i’r darn tir roedd perchenogion Chwarel Llechwedd wedi ei gyflwyno yn ddigost at yr achos. Roedd y cyfan yn cael ei roi a’r dân ac yn wir bu’r doman yn rhyw fud losgi am rai blynyddoedd ar ôl y Rhyfel.
Bûm yn clercio i Gwmni Akett yn yr Hall yn ystod y Rhyfel, a chofion hapus gen i o weld y genod yn gweithio yn y ‘top’ yn gwneud rhwydi cuddliw (camouflage) - fframiau mawr uchel a’r merched yn dringo’r ystolion yn plethu’r stribedi i ffurfio patrwm. Ond yn dod yn ôl at y sgidia fe ddaeth Rhys Mwyn i wybod am y domen ac fel tywysydd tripiau byddai’n stopio ac yn dangos y doman i’r ymwelwyr heb fod yn gwybod dim, medda fynta, am ei gwir hanes. Fel y gwyddom o’i golofn yn yr Herald Gymraeg mae Rhys Mwyn yn archeolegwr hefyd, ac erbyn hyn mae yna gloddio wedi bod odditani.
Ers tro bellach mae Rhys wedi bod draw yma i gael yr hanes yn llawn, ac wedi gwneud tâp.
Mae mwy o ddiddordeb yn y domen gan mai sgidia’ byddin yr Americanwyr oedd y rhan helaethaf, a’r gobaith yw hwyrach y bydd gan yr ymwelwyr awydd i’w pharchu yn eu ffordd eu hunain. Er clod i berchnogion Llechwedd a ninnau bobol Stiniog mae’r fan wedi cael llonydd a pharch.
Pegi Lloyd-Williams
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon