10.5.12

Pwy faga blant?


 Blas o un o erthyglau'r mis:

Mae Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog yn arwain y ffordd mewn ‘gofal bugeiliol.’ 
Mae’n cynnal gweithdai arloesol,  sy’n cael eu hariannu ar y cyd gan Gymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw a Chyngor Gwynedd. Eu diben ydy dysgu rhieni ynglŷn â ‘bywyd yn yr arddegau’ yn yr oes sydd ohoni.

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried eu harddegau diniwed fel ‘dyddiau gorau eu bywyd’, mae’r byd wedi newid cryn dipyn yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, a bellach, nid yw goroesi blynyddoedd arddegau heb ffỳs na ffwdan yn dasg hawdd o bell ffordd.

Rhwng y cymdeithasu a’r cweryla a’r poeni cyson am waith ysgol ac arholiadau, mae bywyd yr arddegau yn anodd. Er hyn, gall bod yn rhiant yn ystod y cyfnod yma ym mywyd eich plant fod hyd yn oed yn anoddach. Tydi hi ddim yn anghyffredin i rieni deimlo eu bod nhw’n colli cysylltiad wrth i’r plantos gyrraedd eu glasoed a dechrau arbrofi hefo rhyw, alcohol, a chyffuriau, gan arwain at bob math o wahanol broblemau.

Dyma’r union reswm y mae Ysgol y Moelwyn wedi lansio cyfres newydd o weithdai gyda’r nod o ailgysylltu rhieni â’r hyn mae eu plant, sy’n eu harddegau, yn ei wneud yn eu bywydau pob dydd, gan roi cyfle i rieni reoli’r sefyllfaoedd a’r peryglon allai eu plant wynebu. 

Mae’r gweithdai wythnosol yn sesiynau trafod byr, rhyngweithiol rhwng rhieni a siaradwr gwadd gwahanol bob wythnos.
Mamau lleol gyda’r Swyddog Cyswllt Ysgolion.
Bethan Evans, PC Sue Davies, Gwenith Roberts, Michelle Williams a Debbie Woolway.

Dywedodd y Swyddog Cyswllt Ysgolion, PC Sue Davies, sydd wedi bod yn siaradwr gwadd yn y gweithdai ddwywaith,  “Roedd y sesiwn gynta’ wnes i yn canolbwyntio ar ddiogelwch y we a safleoedd fel Facebook ac ati, ac roedd y rhieni wedi’u synnu cyn lleied roeddynt yn ei wybod.”

Yn siarad ar ôl un o’r gweithdai, dywedodd Debbie Woolway, sy’n fam leol,   “Yn bersonol, dwi wedi elwa’n fawr o fynychu’r gweithdai yn Ysgol y Moelwyn. Mae’n gyfle i fynd i mewn i fyd eich plant a’u deall nhw’n well. Dwi’n teimlo bod gen i fwy o reolaeth dros bethau rwan gan fod gen i fwy o wybodaeth.”

Ychwanegodd Gwenith Roberts, sy’n mynychu’r gweithdai’n gyson,  “Mae hi’n braf cael cyfle i rannu profiadau, a gwybod fod rheini eraill wedi cael profiadau tebyg i’ch rhai chi.”
 Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gweithdai cysylltwch â Swyddog Lles Ysgol y Moelwyn, Dewi Lewis ar [01766] 830435 neu swyddoglles[at]moelwyn.gwynedd.sch.uk

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon