28.5.12

Stori Stiniog



Mae ffilm fer Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog wedi cael 390 hit yn Gymraeg, ac mae'r fersiwn Saesneg wedi ei wylio 918 o weithiau, yn ystod y mis a aeth heibio.

Mae campwaith Gareth Jones i'w weld hefyd - ynghyd â llawer mwy - yn yr arddangosfa a gynhelir yn flynyddol yn Sgwâr Diffwys, Blaenau Ffestiniog dros fisoedd yr haf.
Diolch i wirfoddolwyr y Gymdeithas weithgar hon, am ddarparu atyniad mor werthfawr ar Stryd Fawr y dref.

2 comments:

  1. Gwych. Piti nad ydy mwy o gymdeithasau hanes lleol Cymru'n gwneud yr un fath - falle dangosiff hyn iddyn nhw beth ellir ei gyflawni.

    Os ti eisia bod yn ffansi, galli di fewnosod (embed) fidoes YouTube i mewn i gofnod blog unigol.
    I wneud hyn:
    Cer i dudalen y fideo ar YouTube, ac o dan y fideo mae botwm 'Share'. Dewisia 'embed' a chopi'r cod.
    Yn Blogger, dos i olygu'r cofnod ti am fewnosod y fideo ynddi, a newid y golygyd i HTML (clicia ar y botwm 'HTML' sy drws nesa i 'Compose' yn y gornel top chwith.
    Pastia'r cod YouTube yno a chlicia 'Preview' i weld os ydy popeth yn iawn.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch Rhys am y cyfarwyddiadau clir. Dwi wedi rhoi cynnig arni..

      Delete

Diolch am eich negeseuon