Pa haf?
Wel, mi aeth heibio heb imi sylw bron: yr hît-wêf
bondigrybwyll heb ymddangos eto fyth. Ta waeth, rhaid cadw’r ffydd am ha’ bach
Mihangel am wn i.
Cacynen yng Nghoed Tafarn Helyg, Mai. Llun- PW |
Mae digon o bethau i’n difyrru dros y misoedd nesa’
beth bynnag, does ond angen cymryd cip ar dudalen Calendr y Cymdeithasau i weld
y wledd o nosweithiau sydd o’n blaenau ym Mro Ffestiniog.
Cadwch un dyddiad yn rhydd os allwch chi, sef Nos Iau
y 15fed o Fedi, pryd fydd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Llafar Bro.
Mi sylwch ar y dudalen flaen ein bod yn cynnal y
cyfarfod blynyddol eleni yn y Caban yn Llan. Ymgais ydyw i geisio denu mwy o
bobl atom o’r dalgylch, felly dewch yn llu!
Lluniau. Yn anffodus, mae cyflwr rhai o’r hen luniau sy’n
ein cyrraedd yn golygu na fedr y wasg eu hatgynhyrchu’n dda. Maddeuwch inni
felly os oes rhai nad ydynt wedi ymddangos yn y rhifyn hwn. Copïau o hen luniau
du a gwyn, ac yn arbennig toriadau o hen bapurau newydd, yw’r rhai sy’n peri’r
drafferth fwyaf. Mae’n ddrwg gennym siomi, yn arbennig gan fod nifer o’r
lluniau a ddaw i mewn o fis i fis yn ddifyr tu hwnt. Os cewch eich siomi, beth
am drafod efo Cymdeithas Hanes Stiniog, y posibilrwydd o roi copi o’ch llun yn
eu harddangosfa boblogaidd, a gwahodd pobl i fynd yno i ychwanegu enwau a
gwybodaeth?
Da chwi daliwch i yrru lluniau i mewn serch hynny, maent
yn elfen bwysig o’n papur bro.
Buwch gota amryliw (yr harlequin estron), copa'r Moelwyn Mawr, 1af Hydref 2011. Llun- PW |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon