Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
Roedd adroddiadau wythnosol yn Y Rhedegydd dan bennawd ‘Y Rhyfel’, oedd yn dilyn hanesion brwydrau’r rhyfel mewn rhannau eraill o’r byd. Llenwid tudalen gyfan yn rheolaidd hefyd gan adroddiadau am golledigion a chlwyfedigion o ddalgylch y papur, ynghyd â llythyrau a darnau o farddoniaeth i gofio am rai a gollwyd o’r fro. ‘Ein Milwyr’ oedd testun y colofnau hynny, ac un milwr o’r ardal a enwid yn rhifyn 5 Mai 1917 oedd y Preifat John Jones, Dolau Las, Tanygrisiau, a fu farw dramor yn dilyn salwch. Cafwyd tipyn o hanes John, fel llawer o’r milwyr eraill o dro i dro. Roedd yn briod, a nifer o blant ganddo. Cyn ymuno â’r fyddin, roedd yn athro ysgol Sul yng nghapel Carmel, Tanygrisiau, ac yn uchel ei barch yno. Gadawn i’r gohebydd gwblhau’r adroddiad.
‘Cyfeiriai yn barhaus yn ei lythyrau adref at y gobaith y caffai ddychwelyd i wlad ei enedigaeth ac i’w aelwyd. Wrth anfon anrheg fechan i’w briod y Nadolig dywedai ei brofiad mewn dau bennill o’i eiddo, a dyma’r pennill olaf.
Nid i aros mi obeithiaf
Na, rwy’n dod yn ôl;
Ar fy aelwyd eto cwrddaf
 chwi eto’n ôl;
Cofiwch blant, eich cymeriadau,
Cedwch hwy yn bur,
Gwyddoch am fy holl deimladau
Sydd yn llawn o gur.
Mewn Roll of Honour arall o golledigion dalgylch Y Rhedegydd, a gyhoeddwyd yn rhifyn 5 Mai o’r papur, gwelir fod enwau 76 o golledigion y rhyfel o’r fro arni. Ac yr oedd nifer fawr o enwau i’w hychwanegu at y rhestr drist honno cyn diwedd y Rhyfel Mawr.
Eto, ar y dyddiad hwnnw, dywedodd y papur fod y tywydd sych yr wythnos honno wedi rhoi cyfle gwerthfawr i’r ‘ffermwyr a thai ddalwyr (householders) yn gyffredinol i roddi yr had yn y ddaear, yr hwn yn ol pob tebyg y byddwn mewn mawr angen am dano yn y dyfodol agos'.
Yn rhifyn 1 Mai 1917 o'r Herald Cymraeg, cwynion a godwyd mewn cyfarfod o'r Cyngor Dinesig oedd yn dwyn y sylw. Cwyno am brisiau cig yn yr ardal oedd y cynghorwyr, a phenderfynwyd anfon cŵyn swyddogol i'r perwyl hwnnw at Reolwr y Bwyd yn y Senedd. Roeddynt yn methu deall sut yr oedd swyddogion y fyddin yn gallu prynu cig am 9½c y pwys tra byddai trigolion 'Stiniog yn gorfod talu swllt a chwech y pwys amdano. Gorffenwyd yr adroddiad megis 'Y mae rhywun yn manteisio yn rhywle.'
Cynhaliwyd Gŵyl Lafur y chwarelwyr ar y dydd Llun cyntaf o Fai, a chafwyd gorymdaith drwy'r dref. Fel arwydd o gefnogaeth i'r gweithwyr, penderfynodd masnachwyr y Blaenau gau'r siopau am un 'or gloch y prynhawn hwnnw. Tua'r un adeg, cafwyd gwybodaeth am ferched yn trin y tir yn Llan Ffestiniog, ac yn cael canmoliaeth am eu gwaith da. Ond roedd gohebydd yr adroddiad yn ddi-flewyn-ar-dafod yn ei feirniadaeth o'r drefn. Meddai: 'Y mae angen llawer rhagor yma trwy fod amaethyddiaeth yn y cylch bron wedi ei gwaedu yn wyn trwy waith yr awdurdodau milwrol yn galw'r gweithwyr i ffwrdd.'
‘R’oedd adroddiad Y Rhedegydd ar 12 Mai 1917 o’r Ŵyl Lafur a gynhaliwyd yn y Blaenau ar y Llungwyn yn agoriad llygaid i’r darllenwyr, yn sicr. Yn dilyn llithoedd canmoliadwy am uchel-swyddogion y lluoedd arfog, ac am wleidyddion yn gyffredinol, o ddechrau’r rhyfel, yr oedd yr adroddiad hwn yn drawiadol. Wedi blynyddoedd o ddarllen eitemau unllygeidiog rhai gohebwyr am ran ambell arweinydd yn ymwneud â’r rhyfel, yr oedd darllen hanes yr areithio radicalaidd ar lwyfan yr ŵyl lafur honno fel chwa o awyr iach. Yn amlwg, nid oedd mwyach orfodaeth ar siaradwyr cyhoeddus gadw at ganllawiau na sensoriaeth unrhyw swyddfa ryfel. Roedd gwirioneddau’n cael eu dweud yn ddi-flewyn-ar-dafod gan y siaradwyr dewr o radicaliaid y diwrnod hwnnw.
Ymysg y siaradwyr, roedd y Parch. D.F.Roberts yn datgan sylwadau miniog a dadleuol, wrth ddweud, ‘…Yr oedd dyfodol y byd yn nwylo’r werin, rhaid i wahaniaethau milwrol ddarfod’ meddai. Ac wedi i’r werin-bobl eilun addoli David Lloyd George ers cyhyd, yr oedd y Parchedig Roberts yn dweud ei ddweud o ddifri amdano. ‘Yr oedd perygl i’r Prif Weinidog feddwl mai set o beli golff oedd egwyddorion, ac fod angen set wahanol i’r bendefigaeth. Yr oedd perygl i Filitariaeth gloi gwerin am ganrif arall…’
Wedi gwrando ar sylwadau rhyfelgar rhai fel y Parch. John Williams, Brynsiencyn ac eraill yn pregethu am yr angen i fynd i ryfel, ac ar i fechgyn lleol aberthu eu bywydau dros Brydain a’i brenin, roedd geiriau’r Parch.Roberts i’w croesawu. Un arall fu’n areithio yn yr Ŵyl Lafur honno oedd y Cynghorydd Rhys J.Davies, o Fanceinion, a oedd yn amlwg yn radical o’r iawn ryw. Dywedodd yntau eiriau teimladwy iawn, a fyddent yn groes i egwyddorion llawer o gefnogwyr Lloyd George a’r frenhiniaeth. Meddai:
Gwasga i galon y cyfarfod mai yr un oedd calon mam yr Almaenwr a’r Cymro. Nid oedd gan werin y gwledydd ddadl i’w phenderfynu, a’i ffordd i ddelio a rhyfeloedd yw rhoddi brenhinoedd ac Arglwyddi yn y First Line Trenches, a byddai darfod am ryfel ar unwaith. Ond nid felly yr oedd pethau. Cymry bach oeddynt yno yn gwaedu i farwolaeth, a’r bendefigaeth yn eu gwthio i hyny, a Chymro yn ben ar y Llywodraeth. Ofnai nad oedd y Cymro yn cynrychioli enaid Cymru…
---------------------------------------------
O.N. Tybed a oes gan rai o ddarllenwyr Llafar Bro lun neu ddau a fyddent yn barod i’w rhannu â mi, i’w cynnwys yn fy nghyfrol arfaethedig ‘Stiniog a’r Rhyfel Mawr’. Mae’r gyfrol yn trafod hanes cyfnod rhyfel 1914-18 yn nalgych y papur hwn, a hoffwn gael lluniau perthnasol o ddigwyddiadau’r cyfnod yn yr ardal o ‘Stiniog/Trawsfynydd/Maentwrog. Cydnabyddir yn ddiolchgar pob llun a ddefnyddir yn y gyfrol. Os ydych yn barod i fenthyg llun i’w gopïo, a fyddech mor garedig â chysylltu â fi os gwelwch yn dda, drwy ffonio 831814, neu ebostio vivian.williams[AT]btinternet.com. Gyda llawer o ddiolch o flaen llaw. -Vivian.
---------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon