25.2.17

Trem yn ôl -Tŷ Canol

Erthygl gan Pegi Lloyd Williams.

Daeth i’m meddwl sôn tipyn am Tŷ Canol, Summerhill, yn dilyn rhaglen S4C ‘Ar Faes y Gad’ pryd roedd Owain Tudur Jones yn olrhain hanes rhai o beldroedwyr oedd wedi chwarae i Gymru cyn y Rhyfel Mawr 1914-1918.  Fe ddaeth yr amser iddynt hwythau fel bechgyn eraill y wlad a’r deyrnas ‘roi eu gorau’ i’r brenin a’u gwlad a derbyn pa beth bynnag fydda’r canlyniadau.

Roedd y cynhyrchydd am i Owain grybwyll rhywfaint o hanes ei deulu ei hun, sef ei ddau hen-hen daid, un o Stiniog a’r llall o Abergynolwyn, a’i hen-hen ewythr eto o Abergynolwyn.  Yn y cyswllt hwn gwelwyd Owain yng nghwmni ei daid Geraint Vaughan Jones yn cael ei dywys at ddau fedd, sef ei gyn-gyn daid a’i gyn-gyn ewythr. Bu i John Jones ei hen-hen daid yn Stiniog gael ei glwyfo’n ddrwg yn ei goes a’i anfon gartref cyn diwedd y gyflafan.

Llun -Owain Tudur Jones/S4C; o wefan Y Cymro. (Byddwn yn falch i gywiro'r manylion hawlfraint -cysylltwch)
Yng nghyfarfod Tachwedd rhoddodd Geraint sgwrs i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn cyffwrdd ar hanes ei daid John Jones, fu am gyfnod maith yn cario glo a nwyddau efo ceffyl a throl.  Llaweroedd o blant y cyfnod yn cofio’r drol a’r ddau geffyl – Bess a Prince.  Roedd wedi priodi â Margaret Ellen (Margiad Elin) ac felly y down at dipyn o hanes Evan a Gwen Roberts yn symud yma o Benmachno tua 1870.

Buont yn byw yn ‘Bootie Alley’ sef rhesdai sydd dros y ffordd i’r Co-oparet (Swyddfa GISDA heddiw) a Siop Kate Pritchard (Cadi Pritch).  Yma y ganwyd yr unig ddau blentyn i oroesi – sef Margiad Elin (Margaret Ellen) a Evan John – y plant bach eraill i gyd wedi eu claddu ym Mynwent Eglwys Sant Tudcul, Penmachno.  Bu iddynt symud ymhen ychydig i fyw i Tŷ Canol, yn union du ôl i Bryn Awel.  Roedd rhywfaint o dir yn mynd efo Tŷ Canol gan fyddai gan Taid rhyw ychydig o wartheg, ac roed Nain yn gwneud rhyw geiniog neu ddwy yn gwerthu wyau.  Byddai’n gwybod i’r dim sut i wneud ‘cownt’ y wyau, a’r pres er nad oedd wedi derbyn addysg i ysgrifennu na darllen.  Ei thad oedd Sion Ifan, clochydd olaf Eglwys Sant Enclydwyn, Penmachno cyn iddi losgi i’r llawr, a chlochydd cyntaf Eglwys Sant Tudcul – yn ddwyieithog ac yn darllen ac ysgrifennu – y ddau beth oedd yn ofynnol (os yn bosibl) gan yr Eglwys os am fynd i mewn am y swydd ‘Clochydd’.

Un o Ysbyty Ifan oedd Evan Roberts – yn frawd i dad y cerddor a’r cyfansoddwr T. Osborne Roberts 1879-1948, a briododd ymhen amser â Leila Meganne y mezzo-soprano fyd enwog, ac fel un o’r ‘Sbyty, y tir oedd ei gariad cyntaf.

Y cofnod cynta’ sydd gen i am Tŷ Canol ydi 1809, ond yn sicr roedd yn bod cyn hynny.  Bu teulu’n dwyn yr enw Tyson yn byw yna ar wahanol gyfnodau, a hefyd mae’r enw Elizabeth Brymer yn ymddangos.  Byddai Evan a Gwen a’r plant Margiad Elin a Evan John wedi ymgartrefu yno tua’r 80au cynnar.

Mae Maldwyn Lewis yn ei lyfr atgofion ‘WIR YR’ yn sôn am yr ardal gan iddo gael ei fagu yn Richmond Terrace, ac er na fûm yn byw yn y cylch yna mae ei storiau yn cyd-fynd â’r rhai a glywais am blant oes gynharach yr ardal fach yna.  Byddai rhywun yn gwrando hyd syrffed ar hen storiau’r dyddiau cynt, ond erbyn heddiw yn edifar na fyddem wedi gwrando mwy.  Fe glywais sôn am Plas-yn-Dre, ac wrth gwrs am y Cocoa House ar y stryd fawr cyn cyrraedd yr Eglwys – yr hen Lyfrgell Gyhoeddus y dre’ cyn dyddiau’r British Legion.  Byddai Taid yn dod â Jane Alice fy mam i lawr yn ei law ar nos Sadwrn i gael powliad o bwdin reis yn y Cocoa House (fel roeddem ninnau’n yn ein hieuenctid yn edrych ymlaen am ‘Ice&Port’ yn siop Taddei’s.)

Gweithio yn chwarel Diffwys a chymryd gofal o’r tyddyn bu Taid nes gorfod rhoi gorau i’r chwarel oblegid yr ‘hen gryd cymala’ – a bwrw iddi gystal â medrai efo’r tyddyn.  Roedd yn licio tynnu ar ei getyn, a cherdded at y giat am fygyn cyn troi mewn, ac ar un noson braf fe welodd dair (neu bedair ydw i ddim yn siwr) ‘cannwyll corff’ – yn mynd i fyny’r llwybr at y chwarel (mae ‘gweld’ arwyddion damweiniau’n beth dieithr iawn erbyn hyn), ac fe wyddai bod yna gymaint â hynny o ddynion ar eu ffordd i’r chwarel i weithio nos i ‘dynnu petha peryg’ o dan y ddaear.  Dim ffôn symudol na dim y dyddiau hynny i geisio eu rhwystro – ac erbyn y bora roedd y dref a phawb yn gwybod am y trychineb.

Mae gen i lythyr sgwennodd Taid at Jane Alice sy’n darllen
‘Annwyl Ferch .... diolch am dy lythyr a’r papur chweugian .... Margiad Elin yn deud ei bod am sgwennu i ti’n fuan ... bydd y fuwch ola’n mynd wsnos yma – yr ocsiwn dydd Llun, asgwrn ein cefn ers blynyddoedd.  Dy fam bron a thorri ei chalon.  Y doman (lechi) wedi cyrraedd cae gwaelod.’  
Yn anffodus does dim dyddiad ar y llythyr, ond tybiaf y byddai hyn tua jest cyn dechrau’r Rhyfel Mawr 1914-1918.    
--------------------------------------------


Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2017, efo addewid am fwy i ddilyn.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon