19.2.17

'Stiniog a'r Rhyfel Mawr -gorfodaeth a cholledion

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
           
Er mai newyddion drwg am golli milwyr ar feysydd y gad oedd yn llenwi tudalennau'r papurau newyddion y cyfnod, yr oedd heintiau megis y ffliw yn achosi trafferthion i ddarllenwyr y papurau hefyd. Fel yr adroddwyd yn yr Herald Cymraeg ar 6 Ionawr 1917, yr oedd anhwylderau blin eraill bron bob amser yn dilyn ymosodiad o'r ffliw.

Ond roedd materion eraill yn poeni trigolion yr ardal yn ychwanegol. Oherwydd i'r Swyddfa Ryfel ddechrau gorfodi gwŷr priod i ymrestru â'r lluoedd arfog, roedd perchenogion a swyddogion y chwareli lleol yn pryderu am ddyfodol y chwareli bychain. Nid oedd y diwydiant yn angenrheidiol ar gyfer galwadau'r Swyddfa Ryfel, yng ngolwg yr awdurdodau.

Llun- Mrs Lisa Lloyd, Yr Wyddgrug

Ni chafwyd lawer o sôn am Lewis Davies, Y Gloch, y cyn-swyddog recriwtio, ers i orfodaeth filwrol ddod i rym flwyddyn ynghynt. Ond cyhoeddwyd llongyfarchiadau’r Rhedegydd iddo yn rhifyn 20 Ionawr 1917. Roedd Davies wedi ei benodi’n Gynrychiolydd Milwrol dros Feirionnydd. A daeth mwy o ganmoliaeth iddo ar dudalennau’r papur yr wythnos ddilynol. Fe’i dyrchafwyd yn 1st Lieutenant gan yr awdurdodau milwrol. Mewn gorfoledd amlwg, meddai’r gohebydd
‘Bydd o hyn allan yn gwisgo gwisg filwrol, ac mewn swydd uchel ac anrhydeddus dan y Goron. Da gennym ei longyfarch, a dymunwn ei lwydd eto yn y dyfodol. Bydd i’w adnabod bellach fel Lietuenant Davies.’
Yn yr un rhifyn, daeth newyddion i law fod William Jones Penny wedi cyrraedd adref am ychydig o seibiant o’r ffosydd. Dyma’r dyn oedd i’w weld yn clodfori’r rhyfel ar dudalennau’r Rhedegydd ychydig wedi dechrau’r brwydro yn Awst 1914. Byddai ei alwad ar fechgyn Stiniog i ymuno yn fyw yng nghof y darllenwyr, yn sicr, gyda’i eiriau teyrngarol Saesneg, 'England for ever, Britons to the fore' yn ceisio codi ysbryd y darpar-filwyr rheiny. Ond yr oedd Wil Jôs Penny wedi gweld effaith y rhyfel yn bersonol, ac wedi gwasanaethu yn y ffosydd ers tro. Fel y dywed gohebydd y papur, yn sillafiadau ac ieithwedd y cyfnod:
'Da genym gael croesawu William Jones Penny adref, wedi bod ohono yn Ffrainc am amser maith; ac wedi gweld bethau anrhaethadwy…ond feallai y daw amser pan y ceir rhoi trafod iddynt oll.'
Ond er iddo edrych yn eitha’ da, roedd golwg ‘syn ac yn drist ei wedd i fesur, a phwy na fyddai felly, wedi bod yn y fath gethern ofnadwy’, chwedl gohebydd y papur. Oedd, roedd realiti’r sefyllfa ddychrynllyd y brwydro wedi dod â’r rhyfel yn fyw iawn i Penny. Byddai darllen hefyd am hanes y nifer fawr o golledigion Stiniog y Rhyfel Mawr ar dudalennau’r Rhedegydd wedi newid ei farn am yr ymladd, yn sicr. Cofnodwyd am y colledigion rheiny yn wythnosol yn y papur lleol hwn, a gweddill y wasg Gymreig.

Daeth adroddiad yn y North Wales Chronicle ar 26 Ionawr 1917 â gwybodaeth am sut yr oedd apeliadau gan ambell un am esgusodiad rhag cael ei alw i'r fyddin yn cael eu trin gan aelodau Tribiwnlys Apêl Dyffryn Conwy. Roedd gŵr gweddw o Gwm Penmachno yn weithiwr yn chwarel Bwlch Slatars, sydd wedi'i lleoli tua thair milltir serth o daith rhwng y Cwm a safle’r gwaith. Dyfynnir o'r adroddiad isod, yn yr iaith y'i cofnodwyd:
'David Williams, Dyfnant Terrace, Cwm Penmachno, quarryman (35) a widower with two children, applied for conditional exemption. He said he worked at Manod Quarry, Festiniog, and walked all the way home every night. The Military Represenatative: "Just the man for the Army, a good marcher" (laughter). Appeal refused. Not to be called up until February 28th.'
----------------------------
Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon