1.3.17

Y dydd yn 'mestyn

Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi! 'Gwnewch y pethau bychain' medd ein nawddsant, ac un peth bychan i'w ddathlu ar hyn o bryd ydi'r ychydig funudau ychwanegol o olau dydd a gawn yn ddyddiol wrth edrych ymlaen at y gwanwyn. Mae amser gwell i ddyfod,  ha-haleliwia! Dyma bytiau am y dydd yn 'mestyn a choelion mis Mawrth.
 
Cenin pedr. Llun -Paul W

Awr Fawr Galan...
Erbyn heddiw mae’r hen goel werin: 
Awr Fawr Galan, dwy Ŵyl Eilian a thair Ŵyl Mair 
wedi hen fynd heibio a mi fyddwn y rhoi’r clociau  ymlaen diwedd y mis hwn. Coel werin a fathwyd  gyda hyder dros y canrifoedd ydy hon.

Y syniad fod y dydd wedi ymestyn awr rhwng y Solstis a’r Flwyddyn Newydd. Boed hyn y Flwyddyn Newydd gyfoes, Ionawr 1, neu'r Hen Flwyddyn Newydd, Ionawr 12. Dim ond ychydig iawn o funudau a ychwanegwyd at y dydd ond byw mewn gobaith oedd yr ateb i aeaf caled a’r dyhead am y gwanwyn.

Aiff yr hen goel yn ei blaen i son am ‘ddwy awr Gŵyl Eilian’ a thair awr Gŵyl Fair y Canhwyllau. Codi ysbryd rhywun mewn gaeaf caled yw swyddogaeth yr hen goel debyg  ac mae rhai yn dal i son am Awr Fawr Galan. Er nad yw’r goel yn fathemategol gywir mae’n braf meddwl fod y dydd yn ymestyn.

Tebyg fod y gair Saesneg clock  yn dŵad o’r hen air Cymraeg ‘cloch’ a’r gair Gwyddeleg am gloch ef ‘clocca’. Un o’r gloch / One o' clock … wrth gwrs a thebyg mae cloch y llan oedd honno.
-  -  -  -  -  -  -  -  -  -  -

(Yn ôl Twm Elias -'Tro drwy'r tymhorau'. 2007, Gwasg Carreg Gwalch- mi gawn ni tua 29 munud ychwanegol o olau dydd erbyn yr hen galan ar y 12fed o Ionawr; tua 68 munud erbyn Gŵyl Eilain, 29ain Ionawr; a dwy awr a chwarter erbyn Gŵyl Fair ar y 13eg Chwefror.
Ychydig o blygu'r gwir gan ein cyndadau felly, ond pwy sy'n cwyno 'de, cyn belled ein bod yn edrych ymlaen yn obeithiol at y gwanwyn. Daliwch i gredu!  -PW)

-  -  -  -  -  -  -  -  -  -  -

Coelion Mis Mawrth

Mewn englyn, cwpledi a choel ceir nifer o gyfeiriadau at a rhybuddion newid tywydd yn ymwneud â mis Mawrth:

1.    Fe ddaw Gŵyl Fai, fe ddaw Gŵyl Ddewi
Fe ddaw’r hwyaden fach i ddodwy
Fe ddaw’r haul bach i sychu’r llwybre
Fe ddaw ‘nghariadau innau’n drwpe

2.    Mis cyn C’lanmai cân y cogau;
Mis cyn hynny tyf y briallu

3.    Mawrth a ladd, Ebrill a fling
A rhwng y ddau, adawan nhw ddim
(A Mai mwyn i werthu crwyn!)

4.    Os ym Mawrth y tyf y ddôl
Gwelir llawnder ar ei hôl

5.    Yn ôl coel arall, am bob diwrnod o dywydd teg ym mis Mawrth, bydd wythnos o dywydd braf yn yr haf - Fel y bo Mawrth y bydd yr haf.

6.    Os bydd yr oen cyntaf a welwch yn y gwanwyn yn eich wynebu bydd hynny’n dod a lwc dda'r gweddill o’r flwyddyn

7.    Ni phery eira mis Mawrth
Mwy nag ymenyn ar dorth dwym

8.    Mawrth oerllyd a gwyntog ac Ebrill cawodog
Ill dau a wnant rhyngddynt Fai teg a godidog

9.    Niwl ym Mawrth, rhew ym Mai

10.    Bore du o wanwyn; prynhawn teg

11.    Os daw Mawrth i mewn fel oenig
Allan â fel llew mileinig

12.    Yr adeg i hau ydy ‘tridiau’r aderyn du a dau lygad Ebrill’ (sef tridiau olaf mis Mawrth a’r deuddydd cyntaf ym mis Ebrill ond cofier ‘Gwlybaniaeth ar yr og, chwyn yn y cryman’.
-----------------------------------------

Darnau gan Tecwyn Vaughan Jones, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2016.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon