17.3.17

Bro Ffestiniog ar Flaen y Gad

Rhan o erthygl Ceri Cunnington, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2017.

Mae’r ardal hon wedi gweld nifer o welliannau pwysig yn y cyfnod diweddar, megis datblygiad canol tref Blaenau a thwf gweithgaredd nifer o fentrau cymunedol. Yn gynyddol mae ardaloedd eraill yn edrych gyda chryn edmygedd ar yr hyn sy’n digwydd yma.

Llun -Paul W

Ym Mro Ffestiniog, bellach, mae sawl menter gymunedol lwyddiannus, yn cynnwys Antur Stiniog, Trawsnewid, Seren, Pengwern Cymunedol, CellB/Gwallgofiaid, GISDA, Dref Werdd,  Canolfan Hamdden Ysgol y Moelwyn, OPRA Cymru, Deudraeth Cyf, Caban Bach Barnardos ac yn y blaen. Erbyn hyn mae’r mentrau yma wedi dod at ei gilydd er mwyn cydweithio er lles yr ardal gyfan, dan ymbarel (neu barasôl!) Cwmni Bro Ffestiniog.

Gwnaeth Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw (CG) gyfraniad allweddol at sefydlu a chynnal sawl menter, corff , mudiad, cwmni, prosiect a gweithgaredd cymunedol. Rhoddodd y cynnydd mewn mentrau cymunedol wedd newydd i’r hen draddodiad cyfoethog o weithgaredd cymdeithasol ym Mro Ffestiniog. Mae’r datblygiadau cyfoes yn rhan o broses o drawsnewid diwylliannol yn yr ardal; o ail gynnau’r meddylfryd o wneud pethau trosom ein hunain ac o fentergarwch cymunedol newydd.

Gan edrych i’r dyfodol mae sawl gwers yn codi o brofiad CG. Un o’r pwysicaf, o safbwynt y gymuned, yw’r angen i gryfhau cyfathrebu gydag, ac ymysg aelodau’r gymuned, cynyddu cyfranogiad y gymuned a chydlynu a chydgordio’n well y gwaith y mae gwahanol asiantaethau a mentrau gwirfoddol a chymunedol yn ei wneud.

Mae enghreifftiau lu o asiantaethau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol yn gweithredu ar wahân, yn ôl eu hagenda eu hunain heb gyfathrebu na chydweithio yn ddigon effeithiol gydag eraill na chyda’r gymuned. O safbwynt datblygu’r gymuned mae angen strategaeth integredig i daclo materion megis tlodi plant, ffyniant economaidd, gwella iechyd, datblygiad diwylliannol ac addysgol, gwarchod yr amgylchedd ac yn y blaen.

I fod yn fwy effeithiol rydym angen cydweithio effeithlon rhwng asiantaethau, rhwng mentrau cymunedol, gyda’r gymuned ac o fewn y gymuned. Dyna pam y sefydlwyd Cwmni Bro Ffestiniog fel modd i gychwyn ateb yr angen hwn yn ogystal â sbarduno a chynnal mentergarwch cymunedol pellach.

GWELEDIGAETH CWMNI BRO FFESTINIOG
Mae’r Cwmni Bro wedi dechrau gweithredu fel rhwydwaith cymunedol sy’n cysylltu’r gwahanol fentrau cymunedol. Nôd y Cwmni yw gwella cyfathrebu, hybu cydweithio rhwng mentrau ac asiantaethau, cydgordio gweithgareddau, gwneud gwell defnydd o adnoddau, cynyddu cyfranogiad cymunedol yn ogystal â hybu gweithgarwch a mentergarwch cymunedol a gwirfoddol. Hyn i gyd yn cynnal ac adeiladu ar y broses o adfywiad cymunedol a thrawsnewid diwylliannol sydd eisoes ar waith yn yr ardal.

Gellir adeiladu ar brofiad blaenorol Partneriaeth CG o sbarduno menter gymunedol. Er bod prif ffocws CG wedi bod ar ardal ddaearyddol benodol wrth edrych i’r dyfodol, mae’n eglur bod angen strategaeth integredig ar gyfer yr ardal gyfan. Mae gofyn bod yn hyblyg wrth geisio pennu ffiniau’r ardal. Rhagwelir mai’r uned ‘naturiol’, yn fras, yw dalgylch Ysgol y Moelwyn a bod hon yn ardal ddaearyddol synhwyrol o ran maint ac o ran ymwybyddiaeth a thraddodiad cymunedol. 

Bydd  angen staff a gwirfoddolwyr profiadol i hwyluso proses gyfranogol o gynllunio strategol ar gyfer yr ardal. Maes o law, pan fydd y rhwydwaith a’r cwmni wedi’u sefydlu’n gadarn, a chynllun strategol yn ei le, y nôd yw y bydd y cwmni yn datblygu i fod yn gorff hunan-gynhaliol a fydd yn cynnal ei staff proffesiynol ei hun.

SWYDDOGAETH CWMNI BRO FFESTINIOG
Mater i’r gymuned fydd penderfynu ar union gyfeiriad a swyddogaeth y Cwmni Bro ond mae nifer o gamau y gellir eu rhagweld. Fe’u rhestrir isod:-

(1)    Cyfathrebu, trafod a chenhadu yn lleol gydag asiantaethau a’r gymuned ynglŷn ag union bwrpas, ffurf a swyddogaeth y Cwmni. Bydd angen trafod yn ofalus natur perchnogaeth a rheolaeth gymunedol y cwmni yn ogystal â pherthynas effeithiol rhwng mentrau cymunedol yr ardal.
(2)    Hwyluso trafodaeth a phenderfyniadau ar gyfansoddiad a swyddogaeth y cwmni.
(3)    Sefydlu trefn effeithiol ar gyfer cyfathrebu a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, mentrau a’r gymuned. Gosod yn ei le ddulliau ymgynghori a threfn ar gyfer cyfranogiad y gymuned. Bydd datblygu dulliau digidol effeithiol o gyfathrebu yn allweddol yn hyn o beth.
(4)    Hwyluso ennyn llais y gymuned ynglyn â’r diffygion a’r cyfleoedd o ran datblygiad yr ardal.
(5)    Llunio, mewn modd cyfranogol, gynllun cymunedol integredig a hyblyg ar gyfer yr ardal.
(6)    Ymchwilio a datblygu dulliau o hybu a hyrwyddo menter gymdeithsol a datblygu cymunedol.
(7)    Datblygu a marchnata Cwmni Bro fel cwmni cydweithredol elusennol a democrataidd yn gyfrifol am hyrwyddo datblygiad cymunedol yr ardal.
(8)    Chwilio am ffynonellau cefnogi a chyllido’r Cwmni Bro, y mentrau sy’n aelodau o’r Cwmni yn ogystal â mentrau newydd yn yr ardal.

Mae llwyddiant Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal ynghŷd â’r gweithgaredd cymunedol newydd yn y fro yn golygu bod nifer o frodorion wedi ennill profiad a hyder fel gweithwyr datblygu cymunedol ac eraill fel gwirfoddolwyr. Mae hyn yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol.

Ond yr adnodd pwysicaf yw pobol y fro a’n diwylliant cymunedol. I raddau helaeth mae’r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni. Mae cyfle yn yr ardal hon i ni greu dyfodol amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol yn codi o’r gorau yn ein traddodiad diwylliannol. Medrwn arloesi a chreu esiampl y gall cymunedau eraill ei efelychu.

Dyma’r her i ni bobol Bro Ffestiniog!

Croeso i chi anfon sylwadau ar y datblygiadau yma.   Cyswllt:  <cericunnington@yahoo.co.uk>

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon