5.3.17

GISDA yn cefnogi pobl ifanc Bro Ffestiniog

Erthygl gan Ceri Cunnigton, am ei waith yn ceisio atal digartrefedd, a mwy.

“Y peth gwaetha’ a ddigwyddodd i’r ardal ’ma oedd pan ’nath y criw GISDA ’na symud i fewn.”
Dyma lais unigolyn ar y stryd fawr ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar ond mae’n siwr bod mwy nag un yn teimlo’r un fath. Doeddwn i fy hun ddim yn hollol siwr beth i feddwl nes i mi ddechrau gweithio yma, gan fod yna stigma amlwg ynghylch di-gartrefedd yn gyffredinol ac yn enwedig ymysg yr ifanc. Medraf eich sicrhau bod y gwaith da mae’r fenter yn ei gyflawni wedi bod yn agoriad llygaid llwyr. Mewn cymunedau gwâr, mae gennym i gyd ddyletswydd i gefnogi ein pobl ifanc ac mae angen cywiro rhai o’r camsyniadau a’r pryderon sy’n bodoli.

Sefydlwyd GISDA yn ôl  yn 1985 gan grŵp o wirfoddolwyr yn ardal Caernarfon. Mae GISDA yn sefyll am Grwp Ieuenctid Sengl De Arfon ond erbyn hyn mae cylch y gwasanaeth wedi ehangu ac mae’n cynnig llawer mwy na darparu llety yn unig i bobl ifanc fregus.

“Dwi isio bod yn blymar, ond beggars can’t be choosers, na?”
Dyma farn un person ifanc mewn grŵp trafod yn ddiweddar.  Mae angen cyd-weithio ar lefel addysgol a chymdeithasol i geisio gwyrdroi syniad o’r fath. Mae gwaith GISDA yn amrywio o ddarparu llety a bwyd mewn argyfwng i roi hyfforddiant ar sut i reoli dicter a chwnsela. Cynigir cefnogaeth hefyd i rieni ifanc ac arweiniad i unigolion allu cychwyn gyrfa. Mae ein Mentrau Cymdeithasol, megis ‘Te a Cofi’, ‘SGLEIN’ a ‘GISDA Creadigol’ yn cynnig cefnogaeth i rai ddod i sylweddoli eu potensial ac i fagu uchelgais. O’r 269 o bobl ifanc a gyfeirwyd atom yn 2015-16, roedd 70% ohonynt o dan 21oed;  54% o ardal Arfon, 9% o Dwyfor a 27% o Feirionnydd. Deuai’r gweddill o’r tu allan i Wynedd, ond o ogledd Cymru serch hynny.

Ar hyn o bryd mae 22 o unigolion ifanc yn derbyn cefnogaeth mewn llety cefnogol yn ardal Stiniog ac 14 arall yn cael gwasanaeth ‘cefnogaeth symudol’. Rhan allweddol o’n gwaith ni yw ceisio atal digartrefedd ac rydym yn cynnal gweithdai ymgynghorol o fewn clybiau ieuenctid a chymdeithasau ac ysgolion lleol.

Yn 2017, ein gobaith yw creu partneriaeth efo’r gymuned ehangach ac efo mentrau a mudiadau eraill sydd yn gweithio tuag at greu dyfodol mwy llewyrchus a ffyniannus  i’r Fro; mudiadau megis Y Dref Werdd, CellB, Antur Stiniog, Seren, Barnados ac Ysgol Y Moelwyn, i enwi ond rhai.

Mae drws ein swyddfa yn 49 Stryd Fawr (Yr Hen Co-op) ar agor bob amser pe carech ddod i wybod mwy am ein gwaith ac i gyfarfod pobl ifanc a staff. Byddwn o hyd yn croesawu syniadau a chefnogaeth o unrhyw fath. Pobl ifanc yw dyfodol ein cymuned ni, wedi’r cyfan, a rhaid cydweithio a chyd-dynnu os am ddatrys problemau’r ardal a sicrhau ffyniant i’r gymuned yn y dyfodol. Os am wybod mwy, ewch ar y wefan www.gisda.co.uk neu cysylltwch yn uniongyrchol efo fi naill ai ar y ffôn (01766 830 260) neu trwy e-bost (Ceri@gisda.co.uk)
-----------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2017

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon