Adroddwyd yn y North Wales Chronicle ar Chwefror 2ail 1917 fod hen chwarelwr o Stiniog yn ddig o glywed fod merched erbyn hynny yn cael eu cyflogi mewn banciau, swyddfeydd cyhoeddus, ffatrioedd arfau, fel condyctors ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn swyddi y byddai dynion yn arfer eu gwneud. Honnai y byddai menywod yn cael eu gweld yn y chwareli lleol yn fuan.
Ond y diwydiant amaeth oedd mewn peryg' yn Nhrawsfynydd, wrth i'r Herald adrodd ar 6 Chwefror 1917 fod amryw o lafurwyr amaethyddol y pentref wedi eu galw i'r fyddin yr wythnos honno, a disgwylid i ragor gael yr alwad i ymuno 'ar fyrder'.
Un o'r rhai hynny a orfodwyd i listio tua'r adeg hon oedd Hedd Wyn. Cawn gadarnhâd o hynny yn yr Herald Cymraeg eto yn rhifyn 27 Chwefror o'r papur. Dan bennawd
'Y BARDD O DRAWSFYNYDD - HEDD WYN YN FILWR LLWYD'
dywedwyd ei fod wedi cyrraedd gwersyll Litherland, ger Lerpwl erbyn hynny. Cafwyd gwybodaeth hefyd iddo gipio'r wobr am hir a thoddaid yn eisteddfod Gwylfa ym Manod. I'r perwyl hwnnw, cyhoeddwyd darn yn un o bapurau Cymraeg y cyfnod oedd yn cwestiynu ambell ddatganiad gan Lloyd George.
Diddorol oedd darllen yr eitem yn Y Darian, papur radical a gyhoeddwyd yn Ne Cymru, yr unig bapur Cymraeg yn y rhanbarth hwnnw ar y pryd. Dyma ddywedodd 'Casnodyn' yn ei golofn ddychanol, ddeifiol, 'O'r Gogledd' ar yr 8fed o Fawrth, 1917, a dyfynnaf isod, yng ngeirfa’r cyfnod, fel ym mhob dyfyniad:
"Yr aradr yw ein gobaith, ebr ein Prif-Weinidog y nos o'r blaen. Ac eto hyrddiwyd y bardd Hedd Wyn, Trawsfynydd, a fagwyd rhwng cyrn yr aradr, ac a ŵyr yn well na neb dieithr sut i drin meysydd ei gartref, i'r gwersyll milwrol ger Lerpwl! Rhaid iddo adael yr aradr i ddysgu trin gwn. A chwynai Cynghorwr o Leyn, ym Mhwllheli, y dydd o'r blaen, bod ganddo dri march segur yn ei ystabl am na fedrai ddod o hyd i ddynion cymwys i'w dilyn. Sut, gan hynny, y mae'r aradr yn obaith inni?"Ac i gadarnhau ei sylwadau miniog, ychwanegodd,
"Bygythir cau chwarelau Meirion ac Arfon. Os gwneir hynny difethir bywoliaeth milwyr. Hyderir y gellir atal yr aflwydd chwerw hwn. Lol i gyd yw disgwyl i hen chwarelwyr fedru troi'n was ffarm. Cystal a fai gynnyg troi teiliwr yn grydd, neu saer maen yn 'watsmecar'. (Croeso i chi chwerthin.)"Roedd Y Rhedegydd wedi cynnwys adroddiad yn rhifyn 10 Chwefror o’r papur am ymadawiad Hedd Wyn am y fyddin wrth sôn am gyngerdd y V.T.C. yn y neuadd yn Nhrawsfynydd:
"Cynhaliwyd y cyngherdd uchod o dan amgylchiadau dipyn yn siomedig, trwy i’r llywydd penodedig fethu dod; …Hefyd yr oedd ein harweinydd poblogaidd Hedd Wyn yn absennol, trwy iddo gael ei alw i fyny i ymuno a’r fyddin ddechreu yr wythnos…"----------------------------------------
Ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon