21.3.17

Trem yn ôl -Tabernacl a Thŷ Canol

Ail bennod hanes Tŷ Canol, gan Pegi Lloyd Williams

Roedd Tŷ Canol yn ddau dŷ o dan yr un to, ac fe glywais Mam yn dweud lawer gwaith ei bod yn crio weithiau wrth glywed swn llygod yn rhedeg yn y nenfwd.  ‘Paid â bod yn fabi – llygod bach diniwed ydyn nhw’ byddai Nain yn dweud, ond roedd Mam yn tybio bod ganddynt draed mawr iawn beth bynnag!  Felly, efo ychydig o dai o gwmpas roedd yna gymuned fach yn y gymdogaeth ac mae’n rhaid bod pawb yn cyd-dynnu’n eitha’ da gan na chlywais air cas am neb – 'rhen Betsi Jones wedi rhoi ffedog lân amdani cyn troi allan naill i fwydo’r ieir neu am sgwrs, a phob amser pinsiad o bersli yn ei phoced “peth da at yr hen ddŵr ma” ac un o’r gwragedd eraill yn cyrraedd am belen fach o furum ‘at y rhen nerfa ma’ pan yn teimlo’n isel.  Ia – y burum a’r persli a chynhwysion eraill yn cael eu gwerthu dros y cownter erbyn heddiw.  Roedd yr ‘hen bobol’ yn gwybod be oedd gwerth a pherygl pob llysieuyn.

Aelodau yng Nghapel Tabernacl (MC) oedd Evan a Gwen Roberts, a nhw a Margiad Elin ac Evan John yn mynychu’r capel cynta’ a godwyd yn 1864.  Cyn diwedd y ganrif roedd yr adeilad yn orlawn i’r gwasanaethau a phenderfynwyd codi capel newydd urddasol – o’r tu mewn ac yn sicr o’r tu allan.
Fel y tybiaf – roedd Gwen Roberts trwy werthu wyau a chadw’r cownt yn ei phen gan na allai sgwennu na darllen, ac Evan trwy weithio yn y chwarel a chadw ychydig o wartheg, a thyfu pob llysieuyn at y bwrdd wedi hel celc bach golew gan iddynt roi benthyg arian yn ddi-log at adeiladu’r capel newydd.  Hyn ym mis Medi 1902, ac Evan a Gwen yn ei theimlo’r fraint mae’n siwr i weld eu merch yn priodi yno efo John Jones y bora trannoeth.

Dod i ben oedd hanes yr ail gapel hefyd, a hynny’n sydyn a dirybudd.  Canfuwyd pydredd sych (dry-rot) wedi treiddio trwodd a rhybudd i neb fynd yn ôl a blaen yno ar ôl y gwasanaeth olaf yng ngofal Y Parch Adrian P. Williams ar 9fed Tachwedd 1977.

Cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg codwyd y rhesdai Summerhill ac fe benderfynodd y ddau brynu rhif 4, ond aeth yr un o’r ddau yno i fyw.  Fe symudodd Margiad Elin a John Jones yno o ardal Llwynygell ac yno y ganwyd eu hail blentyn Mary Ann (1905), ac wedi hynny ei brawd Evan John a Kate, rhieni John Evan a Morfudd.  Bu plentyn bach arall hefyd – Gwennie a fu farw tua 1909 fel llaweroedd o rai bach o’r ardal yr un amser fel y sylwais wrth ddarllen eu cofeb ar garreg fedd.  Fe glywais ddweud bod Gwennie wedi ei geni ‘mewn feil – peth lwcus iawn’ ond nid yn ei hachos hi reit siwr.  Bu Evan John a’i wraig, Catherine (Kate) yn byw yn Tŷ Canol ar ôl yr hen bobol, a dyna sut mae gen i gof am yr hen gartref.  Roedd Evan John yn sgotwr brwd ac yn dda am gawio plu ‘sgota’ ... mae dwy beth bynnag yn dod i’r cof:  ‘Rhwyfwr Evan John Tŷ Canol’ a ‘Cogyn Evan John Tŷ Canol’.

Yn gymdogion i Taid a Nain oedd William Jones, Brynawel – “un o’r cymeriadau rhagoraf a fu yn ein hardal erioed” meddai R.J. Roberts (Tanrallt); ac yn ôl Glyn Myfyr (Park Square) ‘ei fywyd ar wastatir mor uchel fel mae’n gofyn i ddyn ddiosg ei esgidiau oddi am ei draed cyn sangu ohono ar diroedd mor gysegredig’.

Clywais ddeud adra fel y bu Nain Tŷ Canol yn hynod fentrus yn estyn cymorth i Mrs William Jones pan oedd un o’r plant yno’n wael.  Dyna sut roedd hi – estyn dwylaw i liniaru peth ar ofid y llall.
I’r Ysgol Frutanaidd Dolgarregddu elai plant yr ardal, gan dalu ceiniog neu ddwy yn wythnosol am eu haddysg.  Pawb yn mynd a’i fwyd efo fo mewn piser, ac yn amlwg o gael cip ar ambell beth ysgrifennwyd ar y pryd roedd popeth yn dangos eu bod yn cael y sylfeini cywir – darllen, ysgrifennu a rhifeg.  Byddai cymaint o ferched ag o hogiau yno; hyn oll yn dibynnu os oedd modd gartref hwyrach.  Yn gynharach yn yr ysgrif bu i mi gyfeirio bod y cyfenwau Tyson a Brymer yn ymddangos fel deiliad Tŷ Canol yn y dyddiau cynnar, a llawer ymhellach ymlaen bu i’r ‘Miss Brymer’ y gwyddom amdani hyd heddiw chwarae rhan bwysig yn ei hanes.  (gweler Darlith Y Fainc Sglodion 2009 Dafydd Jones)

Roedd yna ryw genfigen mae’n debyg cydrhwng ysgol Blaenau ac Ysgol Congl-y-Wal gan i mi ddysgu’r gân, ond nid yn ei chofio i gyd erbyn hyn.
“Be ydi’r mater debygwch chi?  
Hogia Congl Wal sydd yn mynd i ysgol Llan ....  
Ofn cael cweir gan hogia Dolgarregddu”.  
Wn i ddim byd am ysgol Congl-y-Wal yn anffodus.  Mae addysg i’r bobl ifanc wedi bod yn holl bwysig i Stiniog, ac yn parhau felly.  Mae ysgolion elfennol dalgylch Ysgol y Moelwyn yn gosod safonau mae’n amlwg, sydd wedyn yn cyfrannu at lwyddiant uchel hon yn eu paratoi gogyfer ‘y chweched’ neu unrhyw faes arall.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2017.
Dilynwch gyfres Trem yn ôl efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon