20.6.16

Y Golofn Werdd -gwenyn


TRI PHETH A FFYNNA AR DES — GWENITH, A GWENYN, A MES.

Yn ôl pob adroddiad, mae gwenyn mêl Cymru (a thramor) wedi dioddef yn arw yn y blynyddoedd diweddar. Lleuen o’r enw varroa, plaladdwyr, a llygredd sy’n bennaf gyfrifol mae’n debyg, ac mae’n sicr fod cyfres o hafau gwlyb wedi rhoi halen ar y briw i heidiau gwan hefyd.

Ni welais yr un wenynen fêl yn yr ardd acw'r llynedd, a phan sylweddolais hynny, mi wthiodd hyn gwch i’r dŵr, heb imi sylwi’n llawn ar y pryd. Dros y misoedd nesaf, cefais sgyrsiau difyr iawn efo Dafydd Yoxall a fu’n cadw gwenyn yn lleol, ac arweiniodd hyn yn y pen draw at fynd ar gwrs undydd ‘Cyflwyniad i Gadw Gwenyn’ ar safle fferm Prifysgol Bangor, yn Henfaes, Abergwyngregyn, ganol Mehefin eleni [2010]. Cefais ddiwrnod wrth fy modd yn fanno, yn dysgu am wenyn. Wyddoch chi er enghraifft mae dim ond llond llwy de o fêl bydd un wenynen yn gynhyrchu yn ystod ei bywyd? A hynny wedi golygu miloedd o filltiroedd o hedfan.


Amcangyfrifir bod traean o fwyd pobl y byd yn ddibynnol ar beillio gan bryfetach fel gwenyn.
Mae un peth yn sicr: cafwyd tywydd gwell o lawer hyd yma yn 2010, gyda nifer yn adrodd am gnydau da o fêl yn y cychod yn barod.

Ddiwedd Mehefin, cefais y pleser o gwrdd â Mr Frank Roberts, Conglywal; gŵr sydd wedi cadw gwenyn ers dros hanner canrif. Roedd yn barod iawn ei gyngor ac yn hael iawn ei amser, a chefais dreulio orig efo fo yn archwilio un o’i gychod, yma ym mro Ffestiniog. Dyna fraint oedd cael edrych i mewn i’r cwch, a hwnnw’n berwi efo gwenyn prysur, pob un a’i swyddogaeth ei hun: rhai wedi dod ‘nôl efo neithdar, eraill efo paill; rhai’n bwydo’r genhedlaeth nesaf a rhai’n amddiffyn y mynedfeydd.  
“Mae ‘na tua 30,000 o wenyn yn y cwch yma, a phob un mor bwysig â’i gilydd!” meddai.

“Dwi’n dal i gael pigiad o dro i dro” meddai wedyn, ac wrth gwrs pan mae gwenyn yn pigo, mae’n gwneud yr aberth eithaf gan farw wrth amddiffyn ei dylwyth. Tynnodd fy nghoes nad oeddynt yn hoff o’r lliw coch, a finnau wedi cyrraedd mewn crys rygbi Cymru, ond bu’n ddigon bonheddig i roi benthyg côt wen imi, a gyda’i osgo pwyllog, a pherthynas amlwg efo’i wenyn rhoddodd hyder i mi sefyll ynghanol y prysurdeb heb ofni unrhyw beryg’.  Er gwaetha’ cael eu tarfu gennym, roedd gwres yr haul, ynghyd ag ychydig o fwg, wedi rhoi’r gwenyn mewn hwyliau da iawn, diolch i’r drefn!

Roedd ganddo bymtheg o gychod ar un adeg, ond bellach cariad at y gwenyn sy’n ei ysgogi, yn hytrach na’r awydd i gynaeafu eu mêl.

Pan mae’r tywydd yn dda yn y gwanwyn, mae’r gwenyn yn medru hel mwy o stôr o fwyd, ac efo hynny daw’r gallu a’r awydd i gynyddu’r boblogaeth trwy heidio. “Dwi’n dod yn ddyddiol rŵan, gan obeithio medru eu dal” meddai, wrth ddangos cell brenhines newydd ar un o’r fframiau; “maen nhw’n heidio’n aml i’r goeden ‘sgawen acw”.

Mi fydd yr haid yn ffurfio cychiad newydd o wenyn ganddo wedyn.

Os nad ydi gwenynwr eisiau cynyddu’i gychod, gallai rwystro’r gwenyn rhag magu brenhines newydd a heidio, achos yn ôl Frank: “mae colli haid o wenyn, a hwythau’n cario pwysi o fêl efo nhw i’w bwydo, yn torri calon rhywun!

Mae’r cacwn (bymbl-bîs) yn niferus eto yn yr ardd eleni, yn peillio’r ffa a’r pys am ddim i mi; mae’r gwenyn meirch yn hel pren o’r polion i adeiladu nyth yn rhywle eto, ac er mawr cyffro gwelais un wenynen fêl hyd yma hefyd. ‘Un wenynen ni wna haf’ efallai, mae Frank yn pryderu am eu prinder.

Mae cadw gwenyn yn hen, hen grefft wrth gwrs -roedd cyfreithiau Hywel Dda’n rhestru’r gosb am ddwyn mêl, gan awgrymu ei werth, a heddiw mae’r awdurdodau yn sylweddoli gwerth poblogaethau o wenyn Cymreig yn y frwydr yn erbyn clefydau newydd, gyda Phrifysgol Bangor yn arwain yr ymchwil.

Gyda lwc bydd gwenyn mêl Cymru yma i aros a ffynnu. Diolch yn fawr i Mr Frank Roberts am roi cipolwg imi ar y grefft, ac i Mrs Roberts hefyd am ei pharodrwydd i rannu lluniau a hanesion. 

Mae gan Gymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd wefan dda iawn, ac maent yn gwahodd aelodau newydd i ymuno â’u gweithgareddau. Beth amdani? Mae gen’ i’n sicr awydd…cawn weld. Cefais fy nhemtio ymhellach pan holais Frank Roberts os oedd cadw gwenyn mor uchel â Stiniog, ac mewn lle mor wlyb, yn anoddach na llawr gwlad? Ei ateb parod, â’i wyneb yn goleuo oedd: “Ydi, ond w’sti be? Galli di ddim curo mêl grug o lethrau’r Manod Bach, a chei di mo hwnnw lawr wrth y môr!

Yn union.


------------------------------------------
Erthygl gan Paul Williams a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2010.

Lluniau PW.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon