16.6.16

O'r Pwyllgor Amddiffyn -Byddwch Ddiolchgar!

Cynlluniau'r Ysbyty Coffa oedd prif erthygl rhifyn Mai 2016.

Philistiaeth ar waith!
Mae’r difrod wedi dechrau ac fe ddylai pawb a gododd law i’w gefnogi fod yn cuddio mewn cywilydd heddiw. Ond dyna fo! Y tebyg ydi na chafodd yr un ohonyn nhw erioed achos i deimlo dyled i’r hen le, na theimlo chwaith yr awydd i barchu aberth ein cyndadau.

A chafodd pensaernïaeth a llafur cariad Clough Williams-Ellis mo’u parchu chwaith, dim ond eu rhwygo i’r ddaear gan beiriannau sydd yr un mor ddifater a dideimlad â’r criw a roddodd sêl bendith ar y cyfan. ‘Ond fe gewch chi adeilad crand yn ei le!’ meddan nhw. ‘A hwnnw’n werth £3.9m! Felly byddwch ddiolchgar!’ Fel petai brics a mortar yn mynd i neud iawn am y fath fandaliaeth!

Cawn, fe gawn ni feddygfa newydd, wrth gwrs, ac fe gaiff y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn y Ganolfan Iechyd bresennol eu symud ganllath a hanner i gartref newydd. Ond criw’r Betsi fydd wrth y llyw yn fan’no hefyd, felly peidiwch â disgwyl i bethau wella rhyw lawer. Ydi, mae’n bwysig bod y meddygon a’r staff yn cael gweithio o dan yr amodau gorau posib, wrth gwrs, ond pwysicach na hynny yw fod pobol y cylch yn cael y gwasanaeth a’r gofal iechyd maen nhw i gyd yn ei haeddu, yn hytrach na’n bod ni’n gorfod dibynnu ar fympwy swyddogion y Betsi, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Pan agorir yr adeilad newydd – pryd bynnag y bydd hynny - a symud pawb a phopeth i fan’no, y cam nesaf wedyn fydd dymchwel yr adeilad pelydr-X (adeilad da arall a godwyd efo cerrig nâdd lleol) i neud lle i ddim byd amgenach na maes parcio! A pha ddyfodol, meddech chi, fydd i adeilad y Ganolfan Iechyd wedyn?

Dim bwriad i’w werthu!... Dim bwriad chwaith i’w ddymchwel!

Onid dyna oedd addewid lladmerydd y PIGCI (Prosiect Iechyd Integredig) yn rhifyn Tachwedd 2013 o’r papur hwn? Naïfrwydd ynteu camarwain bwriadol oedd tu ôl i’r addewidion hynny, meddech chi?

Y Ganolfan Goffa fydd enw’r adeilad newydd yn ôl pob sôn ond, er gwyched fydd hwnnw, bydd cleifion y cylch yn dal i orfod teithio allan o’r ardal – i Fangor neu Alltwen, neu hyd yn oed i Ddolgellau neu Bryn Beryl - am driniaeth mân anafiadau, neu wely mewn ysbyty, neu i gael tynnu llun pelydr-X.

Falla nad yw gorfod teithio cyn belled â hynny yn broblem i’r ifanc nac i unrhyw un sydd â char ond mae’r sefyllfa’n gwbwl annerbyniol cyn belled ag y mae eraill yn y cwestiwn, yn enwedig yr oedrannus sy’n gwbwl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

GVJ
---------------------------------
Addaswyd ar gyfer y wefan (tynnu'r dyfalu am ganlyniad Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru).

Llun- Paul W.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon